Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 23 Mehefin 2022

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

23 Mehefin 2022

09:30 - 17:00

Lleoliad - Llys Cadwyn ac ar-lein

 

Yn bresennol

Scott Waddington (Cadeirydd); Alun Bowen, Heather Clash, Vernon Everitt, Sarah Howells, Nicola Kemmery, Alison Noon-Jones, a James Price.

Hefyd yn bresennol: Jeremy Morgan; Leyton Powell (eitem 2); Natalie Feedy (eitemau 1 i 3); Lewis Brencher, Karl Gilmore, Geoff Ogden a Dan Tipper (Sesiwn diweddariad gweithredol (Rhan B).

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Rhan A - Cyfarfod o’r Bwrdd Llawn

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dim.

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, agorodd y Cadeirydd y cyfarfod drwy groesawu pawb yno.

 

1c. Datganiadau Diddordeb

Dim wedi’i ddatgan.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 19 Mai 2022 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y log camau gweithredu.

 

1e. Sylw i Ddiogelwch

Nodwyd bod angen galwad ffôn i godi’r rhwystr ar rai croesfannau rheilffordd. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn bosibl yn ystod y streic ac roedd rhaid i weithwyr gynnal eu hasesiad risg eu hunain ar gyfer croesi’r trac i wneud gwaith pwysig.

 

1f. Sylw i Gwsmeriaid

Mae gwneud rhywbeth clên yn creu ewyllys da. Roedd cwmni band eang yn bwriadu cloddio ar draws caeau i osod cebl a fyddai wedi tarfu ar ddathliad priodas. Gofynnwyd i’r cwmni beidio â thyllu ar ddiwrnod y briodas, ac roedd teulu’r parti priodas wrth eu bodd pan gytunwyd ar hyn. Cafodd y weithred hon o ewyllys da dderbyniad da ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn ddiweddar, wrth hedfan allan o’r DU, roedd pobl wedi wynebu gwasanaeth gwael i gwsmeriaid a chyfathrebu annigonol a phroblemau staffio amlwg. Nodwyd nad yw beio pobl eraill yng ngwres y foment yn unioni’r sefyllfa. 

 

2. Perfformiad diogelwch

Ymunodd Leyton Powell â’r cyfarfod.

Cynhaliwyd prawf treiddio diogelwch yng nghompownd Abercwmboi yn dilyn tân maleisus. Mae AIW nawr yn gweithio gyda’r Tîm Gwytnwch i adolygu’r mesurau presennol, yn cynnwys mesurau diogelwch.

Mae adroddiad Parhad Busnes wedi cael ei gyhoeddi ac nid oes camau y mae angen eu cymryd ar unwaith. Mae cynllun 12 mis ar waith i gyflawni’r camau sy’n weddill.

Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda thîm Diogelwch Grŵp Amey i edrych ar ragor o gyfleoedd i gydweithio a gwella’n barhaus.

Ar lefel Grŵp, adroddwyd un mân ddamwain yn ystod y cyfnod. Roedd 22 o achosion lle bu ond y dim i ddamwain ddigwydd, y rhan fwyaf yn ymwneud â thrawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae archwiliad iechyd a lles yn cael ei gynllunio gyda’r bwriad o gyfrannu at strategaeth wedi’i diweddaru.

Roedd perfformiad cyffredinol da ar draws yr holl Ddangosyddion Perfformiad Allweddol o ran Diogelwch Rheilffyrdd, ac roedd sgôr gyfun y Mynegai Marwolaethau wedi’i Bwysoli yn is na’r hyn a ragwelwyd. Ni chofnodwyd unrhyw SPADS yn ystod y cyfnod TYNNWYD. Roedd 22 o anafiadau i bobl nad oeddent yn rhan o’r gweithlu, 14 ohonynt drwy lithro, baglu neu syrthio neu PTI. Roedd Ymosodiadau Corfforol ar y Gweithlu yn uwch na’r ffigurau disgwyliedig. Dywedwyd wrth y Bwrdd bod y defnydd o gamerâu corff yn dal i fod yn isel ar oddeutu 10%. Cadarnhawyd mai dim ond os bydd rhywbeth yn digwydd y bydd data’n cael ei lwytho i lawr, a bod modd diffodd y camerâu a’u rhoi ar waith pan fo angen. Cytunwyd i drafod gyda’r undebau [GWEITHREDU James Price].

Trafododd y Bwrdd y digwyddiad yn Craven Arms yn ddiweddar. Er bod potensial yn y digwyddiad ar gyfer anaf difrifol neu farwolaeth, cafodd yr holl deithwyr a’r staff eu symud oddi ar y trên yn ddiogel. Cadarnhawyd bod y ddamwain wedi digwydd o ganlyniad i adael peiriant cloddio wedi’i ddwyn ar y cledrau. Nododd y Bwrdd mai HTP sy’n bennaf gyfrifol am yr ymchwiliad a bod tystiolaeth yn cael ei chasglu gan yr holl randdeiliaid yn y tîm Rheilffyrdd, i’w darparu ar gais i Network Rail ac RAIB. Mae’r tîm Rheilffyrdd yn cymryd rôl gefnogol yn yr ymchwiliadau, ond mae adolygiad mewnol ar y gweill i ddysgu gwersi o’r ymateb i’r digwyddiad.

Mae cyfradd damweiniau ac anafiadau staff ar draws Rheoli’r Seilwaith a Thrawsnewid yn dal yn isel iawn ac ni nodwyd unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol yn ystod mis Mai. Roedd perfformiad Pullman Rail wedi gwella hefyd.

Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.

 

3. Diweddariad strategol

3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Yn ystod y mis diwethaf, parhawyd i gyflawni cynlluniau ar draws busnes TrC gan symud i gam cyntaf rhoi’r model gweithredu a’r strwythurau newydd ar waith. Y ffocws o hyd yw sicrhau bod y cynlluniau gorau a mwyaf integredig ar gyfer darparu’r rhwydwaith trafnidiaeth y mae ei angen ar Gymru, ac sy’n angenrheidiol i sicrhau newid moddol sylweddol, yn cael eu rhoi ar waith, ar yr un pryd gweithredu’r cynlluniau hynny drwy gyflawni prosiectau a gwasanaethau.

Mae pryder yn dal i fodoli ynghylch perfformiad trenau bob dydd ond, yn ddiweddar, mae gwelliant cyffredinol wedi bod. Mae pryderon yn ymwneud â chanslo gwasanaethau a chanslo ymlaen llaw, defnyddio llai o gerbydau, argaeledd staff, staff yn gwirio tocynnau yn y salwnau, a’r amser mae teithwyr yn ei golli (ATG). Hysbyswyd y Bwrdd bod y metrig ATG yn cael ei adolygu i bennu ble mae angen gwelliannau i’r gwasanaeth drwy wella data rheoli a chael gwared ar ddigwyddiadau sy’n ystumio’r ffigurau ac felly’n cuddio tueddiadau gwaelodol. 

Mae’r data diweddaraf am nifer yr ymwelwyr drwy’r giatiau yn dangos cynnydd ar gyfartaledd o hyd ac mae’n uwch nag 80% o’r ffigurau cyn covid erbyn hyn, gyda’r refeniw ar oddeutu 93% o’r lefelau cyn covid. Nodwyd bod y defnydd yn parhau i fod yn is o ran busnes ond yn uwch o ran hamdden. Ystyriodd y Bwrdd y cysyniad o osod targed “dim un sedd heb ei llenwi” a allai sbarduno dulliau arloesol o ddenu cwsmeriaid. Fodd bynnag, mae pryderon o hyd ynghylch y gallu i ateb y galw ar y llwybrau sy’n rhoi'r cynnyrch mwyaf, a fydd yn effeithio ar dwf refeniw. Nodwyd y bydd y streiciau presennol yn sicr o gael effaith negyddol ar dwf teithwyr a refeniw. Trafododd y Bwrdd yr angen i ddarparu capasiti ychwanegol ar gyfer digwyddiadau a chynyddu hyblygrwydd amser trenau. Mae tîm wedi cael y dasg o ymchwilio i rinweddau treialu gwasanaeth bws ar wahân ar gyfer y diwrnodau a’r llwybrau prysuraf.

TYNNWYD

Mae allbwn dylunio Llinellau Craidd y Cymoedd yn parhau i wneud yn well ac mae’n weddol sefydlog. Mae hyn yn golygu bod modd cyflawni’r rhaglen ddiwygiedig o hyd ond mae’n dal yn fregus. Mae pob ymdrech yn parhau i sefydlogi a, lle bo modd, gwella’r sefyllfa.

Dros y mis diwethaf, mae cynnydd da wedi bod ar adeiladu Llinellau Craidd y Cymoedd gyda’r allbynnau’n dangos cynhyrchiant da. Mae gwaith yn parhau gyda Llywodraeth Cymru i gytuno ar y rhaglen a’r costau diwygiedig. Fodd bynnag, mae’r rhaglen mewn perygl gan nad oes cymeradwyaeth wedi’i rhoi ac na ellir, felly, mynd i gostau er bod hynny’n ofynnol yn y pythefnos nesaf.

TYNNWYD

Trafododd y Bwrdd deithio llesol a chytunodd y byddai’n fuddiol cael her gan arbenigwyr o bryd i’w gilydd yng nghyfarfodydd y Bwrdd. 

Cafwyd trafodaeth ar yr angen i sicrhau cysondeb ymysg is-bwyllgorau’r Bwrdd â’r gwaith sydd ar y gweill i weithredu’r Model Gweithredu Targed [Gweithredu David O’Leary a Jeremy Morgan].

 

3b. Cyllid a llywodraethu

Mae gweithgarwch sylweddol wedi bod o ran cau blwyddyn ariannol 2021-22, ond hefyd o ran paratoi ar gyfer 2022-23 yng nghyswllt cynllunio busnes ac adrodd ar gerrig milltir. Mae cyfrifon TrC a Gwasanaethau Arloesi TrC wedi cael eu cau, ond nid yw cyfrifon Rheilffyrdd TrC wedi cael eu cwblhau eto, gyda thrafodaethau’n parhau gyda’r archwilwyr allanol ynghylch trin costau pensiwn. 

TYNNWYD

Bu’r Bwrdd yn trafod diogelu refeniw a dywedwyd wrthynt fod y ddarpariaeth ar y giatiau wedi gwella ynghyd â sganio ar y trenau. 

Nododd y Bwrdd gyfrifon rheoli ac adroddiad ariannol mis Mai. 

Gadawodd Natalie Feeley y cyfarfod.

 

5. Is-bwyllgorau

Pwyllgor Archwilio a Risg

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg bapur yn argymell i’r Bwrdd, o ran datganiadau ariannol TrC, ei fod o’r farn:

  • Y gall James Price a Heather Clash lofnodi’r llythyr cynrychiolaeth i KPMG;
  • Y gall James Price lofnodi’r datganiadau ariannol ar ran y Bwrdd.

Derbyniodd y Bwrdd yr argymhelliad a chadarnhaodd ei gymeradwyo.

Roedd y Pwyllgor Archwilio a Risg hefyd wedi argymell i Fyrddau perthnasol is-gwmnïau TrC y gall cyfarwyddwyr y canlynol gymeradwyo eu datganiadau ariannol:

  • Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf
  • Gwasanaethau Arloesi TrC Cyfyngedig
  • Rheolwr Seilwaith Cymru Last Resort Limited
  • PTI Cymru Holdings Ltd

Derbyniodd y Bwrdd yr argymhelliad a chadarnhaodd ei gymeradwyo.

Derbyniodd y Bwrdd argymhelliad gan y Pwyllgor Archwilio a Risg y gall y Bwrdd, ar sail ei waith a’i oruchwyliaeth, gymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol i’w gyhoeddi.

Derbyniodd y Bwrdd argymhelliad hefyd bod y Bwrdd yn cymeradwyo Polisi Archwilio a Sicrwydd TrC i’w gyhoeddi ar yr un pryd â’r Adroddiad Blynyddol.

Cyfathrebu a Phrofiad y Cwsmer

Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyfathrebu a Phrofiad y Cwsmer ddiweddariad i’r Bwrdd ar gyfarfod y Pwyllgor yn ddiweddar. Ystyriodd y cyfarfod DPAion, gan gynnwys yr angen i wella amseroedd ymateb i gwynion, a gwefan Un Parth gan gynnwys darpariaeth Gymraeg.

Gofynnodd y Bwrdd am ddiweddariad ar faterion yn ymwneud â’r Gymraeg yn y cyfarfod nesaf [Gweithredu Jeremy Morgan].

 

6. Is-fyrddau

Roedd cyfarfod diwethaf Bwrdd Rheilffyrdd TrC yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau, dibynadwyedd MKIV, metrigau perfformiad, amser mae teithwyr yn ei golli, estyniadau prydles ar 175s a 769s TYNNWYD.

 

7. Y Bwrdd Llywio

Rhoddodd y Cadeirydd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am gyfarfodydd diweddar y Bwrdd Llywio a oedd yn canolbwyntio ar drafodaethau partneriaeth strategol gyda Stadler, cynllun newydd Llinellau Craidd y Cymoedd a theithio llesol.

 

8. Eitem gyfrinachol

TYNNWYD

 

Rhan B - Sesiwn diweddariad gweithredol

Ymunodd Karl Gilmore, Geoff Ogden a David O’Leary â’r cyfarfod.

TYNNWYD

Gadawodd Alexia Course, James Kennedy ac Owen Clutterbuck y cyfarfod.

 

10. Adroddiad ôl troed carbon

Ymunodd Hayley Warrens a Natalie Rees â’r cyfarfod. Atgoffwyd y Bwrdd bod Llywodraeth Cymru, ym mis Mai 2021, wedi cyhoeddi Canllaw Adroddiadau Sero Net Sector Cyhoeddus Cymru, sy’n gofyn am asesiad o allyriadau o gyfres o weithgareddau ychwanegol na chawsant eu hasesu mewn adroddiadau blaenorol. Mae’r canllawiau wedi cael eu cynhyrchu i gefnogi’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gyflawni ei darged sero net cyfun ar gyfer 2030. Mae adroddiad 2020/21 nawr yn ffurfio llinell sylfaen newydd i asesu cynnydd tuag at dargedau datgarboneiddio TrC.

Cafodd y Bwrdd wybod bod cyfanswm allyriadau corfforaethol 2021/22 TrC wedi cael ei amcangyfrif ar 304,846 tCO2e, sy’n gynnydd cyffredinol o 26% o’i gymharu â 2020/21. Priodolir hyn i gynnydd yn ein darpariaeth gwasanaethau ar ôl codi cyfyngiadau Covid 19, yn ogystal â mwy o wariant wrth i ni symud ymlaen i drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd.

Nododd y Bwrdd y cyd-destun hwnnw o ran y ffigurau a darperir y cynnydd yn Adroddiad Blynyddol 2021/22.

Gadawodd Hayley Warrens y cyfarfod.

 

11. Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae adolygiad o gyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi cael ei gyhoeddi gyda’r meini prawf tebygol yn nodi y bydd TrC yn cael ei ychwanegu at y ddyletswydd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a bydd hefyd yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan ddrafft presennol y Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus.

Cafodd y Bwrdd wybod, er y bydd y newid yn effeithio ar bob maes busnes, bod y gofyniad sydd ar TrC i wreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o dan Ddyletswyddau Gweinidogion Cymru ers sefydlu TrC wedi ei roi mewn sefyllfa dda o ran unrhyw ofynion posibl yn y dyfodol. Os bydd y ddyletswydd yn cael ei rhoi ar TrC, disgwylir y bydd yn rhaid i TrC lunio Cynllun Llesiant yn seiliedig ar Asesiad Llesiant a gynhelir yn unol â’r amserlen ar gyfer cyrff cyhoeddus eraill; adrodd i Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn unol â chyrff cyhoeddus eraill; ac eistedd ar y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn 18 ardal y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. 

Cafodd y Bwrdd wybod hefyd am fanteision cael ei osod o dan y ddyletswydd, sef cymorth gan Lywodraeth Cymru a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol; a chydnabyddiaeth o gyfraniad TrC at gyflawni’r Ddeddf. 

Gadawodd Natalie Feeley y cyfarfod.

 

12. Diweddariad Teithio Llesol

Ymunodd Matthew Gilbert â’r cyfarfod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Deithio Llesol. Crynodeb cyllid o 21-22 - tanwariant. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyflawni Rhaglen y Gronfa Teithio Llesol 2021/22 a’r gyllideb ar gyfer rhaglen 2022/23. 

Rhoddwyd gwybod i’r Bwrdd hefyd am adroddiad grŵp trawsbleidiol ar y Ddeddf Teithio Llesol sydd i’w gyhoeddi yr wythnos nesaf, gyda nifer o oblygiadau i TrC; a datblygu’r Fframwaith Monitro Teithio Llesol.

Roedd y Bwrdd yn awyddus i sicrhau bod gwariant Rhaglen y Gronfa Teithio Llesol yn gyson drwy gydol y flwyddyn er mwyn osgoi unrhyw danwariant ar ddiwedd y flwyddyn. 

Nododd y Bwrdd fod gwariant y pen o’r boblogaeth ar fesurau Teithio Llesol yng Nghymru yn sylweddol uwch nag yn Lloegr.

Gadawodd Matthew Gilbert y cyfarfod.

 

11. Diweddariad am Linellau Craidd y Cymoedd

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran cytuno ar y gyllideb ar gyfer Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd gyda Llywodraeth Cymru. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am statws dylunio ymarferol a oedd wedi gwella’n dda rhwng mis Ebrill a mis Mai a chynnydd yn y gwaith adeiladu, lle mae rhai risgiau ond mae mesurau lliniaru ar waith.

 

12. Prosiectau seilwaith - yr wybodaeth ddiweddaraf am y chwe mis nesaf

Nododd y Bwrdd broffil y prosiectau seilwaith am y chwe mis nesaf.

Gadawodd Dan Tipper y cyfarfod.

 

13. Cofrestr Risgiau Strategol

Nododd y Bwrdd y Gofrestr Risgiau Strategol. Nodwyd bod y sgoriau risg wedi cael eu hadnewyddu a bod y risg o ran costau dwyn wedi’i dynodi’n broblem. Bydd datganiadau archwaeth risg yn cael eu rhannu fis nesaf.

Gadawodd Leyton Powell a Geoff Ogden y cyfarfod.

 

15. Diweddariad ar gyfathrebiadau

Roedd y cyfnod blaenorol yn fwy heriol o ganlyniad i weithredu diwydiannol RMT a Network Rail, digwyddiad Craven Arms a chraffu ynghylch darparu digwyddiadau mawr. Cynhaliwyd trafodaethau manwl gyda Llywodraeth Cymru ynghylch lleoliad streiciau o ran naratifau cyfathrebu manwl, gyda Gweinidogion yn mynegi diddordeb sylweddol. Yr hyn sy’n hollbwysig yn ystod y cyfnod hwn yw cyfathrebu’n gryno, yn glir ac yn gyson â’n cwsmeriaid, oherwydd natur gymhleth y tarfu.

Mae cynlluniau ehangach o ran datblygu a meithrin brand, ymgysylltu â’r gymuned a newid ymddygiad yn parhau, ond mae’r awydd am gyhoeddiadau cyhoeddus ynghylch datblygu cadarnhaol wedi tawelu o ganlyniad i faterion ehangach yn y diwydiant.

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu presenoldeb a’u cyfranogiad.