TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Ad-daliad am Oedi

Submitted by positiveUser on

Ad-daliad am Oedi

Diolch i chi am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar 4 Tachwedd 2019. Roeddech wedi gofyn am yr 
wybodaeth ganlynol:

  • Faint o geisiadau gafodd eu cyflwyno ar gyfer y cynllun ad-daliad am oedi yn ystod y chwe mis diwethaf, a faint o’r ceisiadau hynny oedd yn llwyddiannus?
  • Ar faint o deithiau yng Nghymru y bu digon o oedi i deithwyr fod yn gymwys i wneud cais am y cynllun ‘ad-daliad am oedi’ yn ystod y chwe mis diwethaf?

Rydym yn ysgrifennu atoch i gadarnhau bod eich cais wedi cael ei ystyried o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf), a bod Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cwblhau’r broses o chwilio am yr wybodaeth roeddech wedi gofyn amdani. Y data sydd wedi’i nodi isod yw’r data diweddaraf sydd ar gael.

Er gwybodaeth, mae’r data roeddech wedi gwneud cais amdano ar gael yn hwylus i’r cyhoedd, ac mae’n bosib ei weld a’i ddadansoddi ar safle porth data’r Swyddfa Ffyrdd a Rheilffyrdd (https://dataportal.orr.gov.uk/).

Mae’n bosib cymharu’r data â data Cwmnïau Trên eraill, ond dylid bod yn ofalus wrth ymdrin â’r data gan fod y trothwy hawlio iawndal yn wahanol ym mhob cynllun ad-daliad am oedi, a bod nifer y gwasanaethau a’r teithwyr yn wahanol ar gyfer pob cwmni trên.

Mae’r data sydd ar gael (gweler isod) yn dangos bod Trafnidiaeth Cymru wedi cael 14,100 o hawliadau Ad-daliad am Oedi yn ystod y pedwar cyfnod cyntaf yn 2019-20 (1 Ebrill 2019–20 Gorffennaf 2019), a bod 12,600 o’r rheini wedi cael eu cymeradwyo.

Delwedd: Ceisiadau Ad-dalu Oedi 2019-2020.

Mae’r data sydd ar gael (gweler isod) yn dangos bod 1,355 (1.6%) o drenau, o blith 84,701 o drenau wedi’u trefnu yn ystod Ch1 2019-20 (1 Ebrill 2019–20 Gorffennaf 2019), wedi cyrraedd 15 munud neu fwy yn hwyr, ac felly’n gymwys ar gyfer iawndal Ad-daliad am Oedi. Mae’r data hefyd yn dangos bod 1,440 (1.7%) o drenau wedi cael eu canslo, ac felly’n gymwys ar gyfer iawndal Ad-daliad am Oedi. Felly, roedd 2,795 (3.3%) o deithiau TrC yn ystod Ch1 2019-20 yn gymwys ar gyfer iawndal Ad-daliad am Oedi, o’i gymharu â chyfartaledd cenedlaethol o 4%.

Delwedd: Ystadegau trenau'n cyrraedd yn hwyr yn gymwys ar gyfer ad-daliadau oedi yn 2019-20.

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru