TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Amserlen mis Rhagfyr TrC

Submitted by positiveUser on

Amserlen mis Rhagfyr

Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2019

Diolch i chi am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar 12 Hydref 2019. Roeddech wedi gofyn am yr wybodaeth ganlynol:

• darparwch gopi [o amserlen mis Rhagfyr 2019 Trafnidiaeth Cymru] yn unol â’ch ymrwymiadau tryloywder

Rydym yn ysgrifennu atoch i gadarnhau bod eich cais wedi cael ei ystyried o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf), a bod Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cwblhau’r broses o chwilio am yr wybodaeth.

Dydy Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru ddim wedi cyhoeddi eu hamserlen lawn ar gyfer mis Rhagfyr 2019 eto. Rydym yn disgwyl i’r amserlen gael ei chyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf. Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi pan fydd yr amserlen ar gael ar wefan Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC: https://trc.cymru/statws-gwasanaeth/amserlenni.

Ar hyn o bryd, mae’r wybodaeth roeddech chi wedi gofyn amdani i fod i gael ei chyhoeddi ym mis Tachwedd 2019, ar y ddolen uchod. Felly, mae’r wybodaeth yn cael ei dal yn ôl am y tro ar sail yr eithriad yn adran 22 o’r Ddeddf, sy’n ymdrin â gwybodaeth y bwriedir ei chyhoeddi yn y dyfodol. Mae Adran 22 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, sef Gwybodaeth y bwriedir ei chyhoeddi yn y dyfodol, yn datgan bod gwybodaeth yn wybodaeth esempt os:

(a) yw’n cael ei dal gan yr awdurdod cyhoeddus gyda’r bwriad iddi gael ei chyhoeddi, gan yr awdurdod neu gan unrhyw berson arall, ar ddyddiad yn y dyfodol (boed y dyddiad wedi cael ei bennu ai peidio),

(b) oedd yr wybodaeth eisoes yn cael ei dal gyda’r bwriad i’w chyhoeddi pan wnaed y cais am wybodaeth, ac

(c) ei bod yn rhesymol, yn yr holl amgylchiadau, i beidio â datgelu’r wybodaeth tan y dyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (a).

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru