TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Brandio TrC

Submitted by positiveUser on

Brandio Trafnidiaeth Cymru

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2019

Rwy'n ysgrifennu mewn ymateb i'ch cais Rhyddid Gwybodaeth ar frandio Trafnidiaeth Cymru.

Mae eich cais wedi'i ystyried yn unol â gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'n polisi mynediad at wybodaeth. Gallaf gadarnhau bod gennym rywfaint o'r wybodaeth y gofynnoch amdani. Fe wnaethoch chi ofyn am:

1. wybodaeth am gyfanswm cost yr ail-frandio yn ddiweddar ar gyfer brandio TrC ar drenau, gorsafoedd ac ati a chopi o'r achosion busnes perthnasol sy'n gysylltiedig â hyn, gan gyfeirio'n benodol at sut mae gwariant o'r fath wedi cynhyrchu gwerth.

2. y rhesymau pam y mae rhai gorsafoedd yn Lloegr, megis Caer, Heswall a Helsby yn cael eu hail-frandio gydag ail-frandio TrC a chydag arwyddion sy'n defnyddio'r Gymraeg fel y brif iaith mewn perthynas â'r brand TrC.

Yng nghyswllt cais 1 ar gost ail-frandio, ers 14 Hydref 2018 pan ymgymerodd Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru â masnachfraint Cymru a'r Gororau oddi wrth Trenau Arriva Cymru, mae Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru wedi gwario £66,500 ar ailfrandio gorsafoedd.

Nid yw Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru yn gallu darparu manylion cywir o gost ail-frandio trenau heb fewnbwn sylweddol gan y staff a chost sylweddol i'r busnes yn sgil hynny. Mae hyn oherwydd anhawster wrth ddiffinio cwmpas yr 'ail-frandio' gan y gallai gynnwys amlapio trenau, ailddodrefnu mewnol, gosod sticeri a phaneli mewnol yr unedau.

O ystyried ehangder cwmpas y gwaith, byddai'n anodd iawn ac yn cymryd llawer o amser i ddarparu gwybodaeth gywir. Hyd yn oed pe gallem ddiffinio'r cwmpas yn fanwl mae'n debygol y byddai'n dal yn anodd iawn didoli'r costau oherwydd bod costau sy'n ymwneud ag ail-frandio yn rhan yn unig o gyfanswm y costau rhentu neu'r taliadau adnewyddu trenau mwy a wnaed i Gwmnïau Gweithredu Stoc Rholio (ROSCOs). Byddai'n cymryd cryn dipyn o amser y staff i adolygu'r cytundebau a'r anfonebau â llaw er mwyn pennu'r gost hon i unrhyw raddau manwl gywir.

Mae adran 12 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (2000) yn caniatáu i awdurdod cyhoeddus wrthod cais os yw'n amcangyfrif y byddai'r gost o ymdrin â'r cais yn fwy na £600. Mae Rheoliad 4(3) y Rheoliadau Ffioedd yn datgan na all awdurdod cyhoeddus ond ystyried y costau y mae'n disgwyl yn rhesymol iddynt eu hysgwyddo wrth gyflawni'r gweithgareddau canlynol a ganiateir wrth gydymffurfio â'r cais:

• penderfynu a yw'r wybodaeth ganddyn nhw;

• dod o hyd i'r wybodaeth, neu ddogfen sy'n ei chynnwys;

• adfer y wybodaeth, neu ddogfen sy'n ei chynnwys;

• tynnu'r wybodaeth o ddogfen sy'n ei chynnwys.

Mae Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru wedi cyfrifo y byddai'r gost o brosesu eich cais yn fwy na'r terfyn o £600.

Gwnaethoch hefyd ofyn am achosion busnes perthnasol sy'n gysylltiedig â'r [brandio] hwn. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi penderfynu bod yr achosion busnes hyn yn fasnachol sensitif gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth am gyflenwyr, prisio, ac ystyriaethau mewnol ynghylch risg a gwobr. Felly gwrthodir eich cais am achosion busnes gan fod y wybodaeth y gofynnwyd amdani wedi'i heithrio rhag cael ei rhyddhau o dan adran 43 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Mae Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru wedi penderfynu y byddai rhyddhau'r wybodaeth hon yn debygol o niweidio buddiannau masnachol Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru a phartïon eraill a enwir yn yr achosion busnes.

O ran cais 2, mae gorsaf Caer, ynghyd â gorsafoedd Heswall a Helsby a nifer o orsafoedd eraill yn Lloegr, yn rhan o fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau. Ym mis Mai 2018, yn dilyn proses gaffael a wnaed gan Trafnidiaeth Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, dyfarnwyd y contract ar gyfer rhedeg masnachfraint Cymru a'r Gororau i KeolisAmey Wales Cymru Ltd, wnaeth gymryd drosodd oddi wrth gweithredwr blaenorol y fasnachfraint, sef Trenau Arriva Cymru. Mae KeolisAmey yn gweithredu o dan frand Trafnidiaeth Cymru.

Mae masnachfraint gyfredol Cymru a'r Gororau yn gweithredu llawer o wasanaethau trên ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr a nifer fach o wasanaethau sy'n gyfan gwbl o fewn Lloegr (e.e. gwasanaeth lleol rhwng Crewe a Chaer). Mae hyn ar waith ers i'r fasnachfraint gael ei chreu yn 2003 a oedd yn cael ei gweithredu bryd hynny gan Drenau Arriva Cymru ac mae'n cydnabod daearyddiaeth rheilffyrdd Cymru lle mae'r unig reilffordd rhwng Gogledd a De Cymru yn gweithredu drwy Loegr.

Trafnidiaeth Cymru yw Perchennog Cyfleusterau'r Orsaf (SFO) mewn sawl gorsaf yn Lloegr. Caiff y rhan fwyaf o'r rhain eu gwasanaethu gan fasnachfraint Cymru a'r Gororau yn unig. Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn Berchennog Cyfleusterau'r Orsaf ar gyfer y gorsafoedd mwy yn Henffordd, Amwythig a Chaer, gan adlewyrchu eu rôl fel canolfannau allweddol ar gyfer gwasanaethau Cymru a'r Gororau a'r ffaith mai Trafnidiaeth Cymru yw'r gweithredwr mwyaf yn y gorsafoedd hyn o bell ffordd. Felly, fel Perchennog Cyfleusterau'r Orsaf, defnyddir brand Trafnidiaeth Cymru yng ngorsafoedd Caer, Heswall a Helsby. Mae brand a logo Trafnidiaeth Cymru yn seiliedig ar enw'r awdurdod a gweithredwr y gorsafoedd a'r gwasanaethau.

Ein hymrwymiad i'r Adran Drafnidiaeth yw mai'r iaith a ddefnyddir mewn gorsafoedd yn Lloegr ar gyfer arwyddion, a phosteri yw Saesneg yn unig a chaiff hyn ei ddiffinio ymhellach yn y cytundeb asiantaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r DU. Cytundeb Asiantaeth 3 (Atodlen 3, para 7) sy'n cynnwys y canlynol:

“Bydd Gweinidogion Cymru yn sicrhau bod y canllawiau brand a ddatblygir gyda'r masnachfreiniwr ar drenau, gorsafoedd ac ar gyfer deunydd marchnata a chyhoeddusrwydd (heb gynnwys y rhai ar gyfer gwasanaethau i Gymru'n unig), yn cydnabod ac yn dangos natur drawsffiniol y Fasnachfraint ac yn parhau i gydymffurfio ag unrhyw ofynion trwyddedu ynglŷn â'r defnydd o nodau masnach a drwyddedwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion Cymru.”

O ganlyniad i'r ymrwymiad hwn, mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymgorffori elfen 'Cymru a'r Gororau' i'r brand. Bydd dynodwyr 'Trafnidiaeth Cymru - Cymru a'r Gororau' i'w gweld ar:

• Lifrai trenau

• Tu mewn i drenau, lle bwriedir rhoi'r logo llawn (h.y. y ddyfais 'T' a thestun i gyd-fynd ag ef).

• Deunyddiau traul salŵn h.y. rhestrau prisiau, bwydlenni, dodrefn meddal tafladwy perthnasol, taflenni/posteri ynghylch gwasanaethau penodol, ac ati.

• Posteri amserlenni sy'n cael eu harddangos mewn gorsafoedd ar gyfer llwybrau/trenau/siarteri penodol sy'n benodol i wasanaethau perthnasol e.e. y posteri amserlen perthnasol penodol ar gyfer 'llinell llwybr' Caer i Fanceinion, Crewe/Wrecsam i Lerpwl, Caerdydd i Fanceinion, Birmingham i Aberystwyth, ac ati, ac ati.

• Deunyddiau hyrwyddo a marchnata wedi'u hargraffu yn unig ar gyfer llwybrau/trenau/siarteri penodol i'r gwasanaethau perthnasol.

• Pob deunydd hyrwyddo marchnata trwy'r cyfryngau sy'n benodol ar gyfer llwybrau/trenau/siarteri y gwasanaethau perthnasol a delir gan drydydd parti.

• Pob neges farchnata e-bost a gyhoeddir i hyrwyddo llwybrau/trenau/siarteri sy'n benodol i'r gwasanaethau perthnasol yn unig.

• Pob deunydd marchnata sy'n hyrwyddo cynhyrchion/cynigion sy'n unigryw i lwybrau/trenau/siarteri ar gyfer gwasanaethau penodol.

• Tudalennau cynnwys ar y wefan sy'n unigryw i lwybrau/trenau/siarteri ar gyfer gwasanaethau penodol.

• Cysylltiadau cyhoeddus sy'n unigryw i lwybrau/trenau/siarteri ar gyfer gwasanaethau penodol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â Trafnidiaeth Cymru.

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru