TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Caergybi – Caerdydd
Gwasanaeth Caergybi i Gaerdydd
Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2019
Diolch i chi am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar 26 Gorffennaf 2019. Roeddech wedi gofyn am yr wybodaeth ganlynol:
• unrhyw ddata sydd gennych chi am nifer y teithwyr ar y llwybr hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf;
• eglurhad ynghylch y prinder cerbydau ar y llwybr rhwng gorsafoedd gogledd Cymru a Chaerdydd; a
• manylion am nifer y cwynion a gafwyd gan deithwyr mewn perthynas â'r gwasanaeth hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae eich cais wedi cael ei ystyried yn unol â gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Gallwn gadarnhau bod gennym ni rywfaint o’r wybodaeth rydych yn gofyn amdani.
Data sydd gennych chi am nifer y teithwyr ar y llwybr hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf
Nid ydym yn cofnodi nifer y teithwyr ar gyfer y llwybr hwn.
Eglurhad ynghylch y prinder cerbydau ar y llwybr rhwng gorsafoedd gogledd Cymru a Chaerdydd
Mae data Ffurfiannau Byr yn mesur canran y gwasanaethau sy’n gweithredu o dan y capasiti sydd ei angen yn yr amserlen, h.y. pan fydd y trenau’n cynnwys llai o gerbydau na’r hyn a gynlluniwyd. Mae’r data sydd wedi’i atodi yn rhoi manylion am ganran y gwasanaethau â ffurfiannau byr ar gyfer y llwybrau Caergybi i Gaerdydd a Chaerdydd i Gaergybi, rhwng 6 Ionawr 2019 ac 20 Gorffennaf 2019.
Nifer y cwynion a gafwyd gan deithwyr mewn perthynas â'r gwasanaeth hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf
Ar hyn o bryd nid yw Trafnidiaeth Cymru yn categoreiddio’r cwynion a gaiff yn ôl lleoliad na chyrchfan eu gwasanaethau. Felly, nid oes gennym wybodaeth ynghylch nifer y cwynion a gafwyd gan deithwyr mewn perthynas â’r gwasanaeth rhwng Caergybi a Chaerdydd. Fodd bynnag, rydym wrthi’n gweithio ar system newydd ar gyfer rheoli cwynion a fydd yn ein galluogi i wneud hynny.
Mae croeso i chi gysylltu â Trafnidiaeth Cymru os oes gennych unrhyw ymholiadau.
Yn gywir
Trafnidiaeth Cymru