TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Cost swyddogion diogelwch ar wasanaethau TrC

Submitted by positiveUser on

Cost swyddogion diogelwch ar wasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru

Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2019

Yn unol â’ch cais, rydym wedi cynnal adolygiad mewnol o’r ffordd mae Trafnidiaeth Cymru wedi delio â’ch cais Rhyddid Gwybodaeth.

Cafodd eich cais gwreiddiol, ‘faint o arian sydd wedi cael ei wario ar swyddogion diogelwch ar drenau yng Nghymru yn ystod y tri mis diwethaf, rhwng yr amseroedd canlynol: 0700 a 10000, 1600 a 1900, ac 2000 a 0000?’ ei wrthod gan fod eithriad wedi cael ei roi ar waith o dan adran 38 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (2000), sy’n datgan bod gwybodaeth yn wybodaeth esempt os byddai ei datgelu o dan y Ddeddf hon yn arwain at y canlynol, neu’n debygol o arwain at hynny— (a) peryglu iechyd corfforol neu iechyd meddwl unrhyw unigolyn, neu (b) peryglu diogelwch unrhyw unigolyn.

Yn dilyn hynny, ar 5 Tachwedd 2019, roeddech chi wedi gofyn am adolygiad mewnol ar y sail ‘y byddai modd ymateb mewn fformat gwahanol i’r rhesymau a roddwyd, gan gynnwys y gyllideb sy’n cael ei neilltuo ar gyfer swyddogion diogelwch. Ni fyddai’r wybodaeth yma’n cynnwys cyflogau unigol, ac felly ni fyddai’n mynd yn groes i Adran 38 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000’.

Rwyf fi wedi cynnal yr adolygiad yma oherwydd fy mod i’n aelod o Dîm Uwch-Reolwyr Trafnidiaeth Cymru, a doeddwn i ddim yn gysylltiedig â’r ymateb gwreiddiol i’ch cais. Rwyf wedi ystyried a oedd hi’n briodol rhoi eithriad o dan adran 38 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (2000) ar waith.

Ar ôl adolygu’ch cais a gwneud nodyn o’ch pwyntiau penodol, rwy’n fodlon bod adran 38 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei rhoi ar waith yn briodol yn yr achos yma.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio swyddogion diogelwch i gynnig presenoldeb gwrthderfysgaeth a diogelwch ar ei wasanaethau ac mewn gorsafoedd. Mae Trafnidiaeth Cymru o’r farn y byddai datgelu cost y swyddogion diogelwch ar ein gwasanaethau, fel y gofynnwyd, yn datgelu gwybodaeth am lefel y presenoldeb yma sy’n ceisio atal terfysgaeth a diogelu cwsmeriaid a staff rhag risgiau diogelwch. Felly, byddai datgelu’r wybodaeth yma yn gallu tanseilio effeithiolrwydd Trafnidiaeth Cymru wrth iddo gyflawni’r ddyletswydd yma.

Yn ystod y cyfnod roeddech wedi gofyn am wybodaeth ar ei gyfer (y tri mis diwethaf), roedd bygythiad difrifol o derfysgaeth i’r Deyrnas Unedig, a byddai datgelu’r wybodaeth roeddech wedi gofyn amdani yn gallu peryglu diogelwch gwladol drwy negyddu neu danseilio ymdrechion i wrthsefyll terfysgaeth.

Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd o’r farn y byddai datgelu costau swyddogion diogelwch yn effeithio ar effeithiolrwydd mesurau diogelwch i wrthwynebu eithafiaeth ac i ddiogelu ei gwsmeriaid a’i staff yn y dyfodol, oherwydd ni fyddai unrhyw gwmni diogelwch yn dewis ymwneud â gweithgareddau yn y dyfodol os yw’n credu y byddai ei gostau yn cael eu gwneud yn gyhoeddus.

Os ydych chi’n dal yn anfodlon ag ymateb Trafnidiaeth Cymru, mae gennych chi hawl i gyflwyno apêl i’r Comisiynydd Gwybodaeth: The ICO, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Mae manylion y drefn apelio ar gael ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: http://www.ico.org.uk.

Yn gywir

Geoff Ogden