TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Costau adeiladu

Submitted by Anonymous (not verified) on

Costau adeiladu

Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2019

Diolch i chi am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar 19 Hydref 2019. Roeddech wedi gofyn am yr wybodaeth ganlynol:

• faint o arian mae Trafnidiaeth Cymru wedi’i wario ar gwmnïau allanol sy’n darparu gwasanaethau Rheoli Costau Adeiladu?

• faint o arian mae Trafnidiaeth Cymru wedi’i wario ar gwmnïau allanol sy’n darparu gwasanaethau Rheoli Prosiect Adeiladu?

• faint o arian mae Trafnidiaeth Cymru wedi’i wario ar gwmnïau allanol sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer Rheolaethau Prosiect Adeiladu?

Rydym yn ysgrifennu atoch i gadarnhau bod eich cais wedi cael ei ystyried o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf), bod Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cwblhau’r broses o chwilio am yr wybodaeth, a bod ganddo rywfaint o’r wybodaeth roeddech wedi gofyn amdani.

Rhwng 01 Ionawr 2018 a 30 Medi 2019, roedd Trafnidiaeth Cymru wedi gwario £2,875,566 ar wasanaethau rheoli costau a rheoli prosiect adeiladu.

Does dim modd i ni rannu’r costau yn ôl gwasanaethau Rheoli Costau / Rheoli Prosiect / Rheolaethau Prosiect Adeiladu.

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru