TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - cyflog Prif Swyddog Gweithredol

Submitted by Content Publisher on

Cyflog Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru

Dyddiad cyhoeddi: 07 Rhagfyr 2018

Rwy’n ysgrifennu atoch i ymateb i’ch cais am wybodaeth ar y dyddiad isod ynghylch cyflog (gan gynnwys unrhyw fonws, pensiwn a.y.b.) y Prif Weithredwr, James Price am y flwyddyn 2017-18.

Mae'r wybodaeth rydych wedi gofyn amdani ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn y Cyfrifon Cyfunol Blynyddol 2017-18: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-11/cyfrifon-cyfunol-blynyddol-llywodraeth-ymru-2017-2018_0.pdf

Yn unol â hyn, mae’r wybodaeth hon ar gael i chi trwy ddulliau eraill ac wedi’i heithrio rhag cael ei datguddio o dan adran 21 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Fe wnaethoch gais hefyd am fanylion cyflog James Price am y flwyddyn 2018-19. Ond, Llywodraeth Cymru yw cyflogwr James Price, sydd ar secondiad gyda Trafnidiaeth Cymru. Felly o ganlyniad i hynny, nid oes gennym ni’r wybodaeth honno. Cysylltwch â Llywodraeth Cymru i gael ateb cwestiwn hwnnw. Cewch wybodaeth am sut i wneud cais ar: https://llyw.cymru/gofyn-am-wybodaeth-gan-lywodraeth-cymru-ceisiadau-foi

Os hoffech wneud cwyn am y modd y cafodd eich cais ei drin, ysgrifennwch at Jeremy Morgan, Swyddog Rhyddid Gwybodaeth, drwy e-bost i freedomofinformation@tfw.wales neu trwy’r post i Trafnidiaeth Cymru, Tŷ South Gate, Caerdydd, CF10 1EW.

Mae’n rhaid i mi hefyd eich cyfeirio at adran 50 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth lle gallwch wneud cais i’r Comisiynydd Gwybodaeth benderfynu a ydym wedi delio â’ch cais yn unol â’r Ddeddf ai peidio. Dyma fanylion y Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

Cheshire

SK9 5AF

 

e-bost: casework@ico.gsi.gov.uk

Ffôn: 01625 545745

Ffacs: 01625 524510

 

Ond, dylech nodi bod y Comisiynydd Gwybodaeth fel arfer yn disgwyl eich bod chi wedi dilyn ein prosesau cwyno mewnol cyn gwneud cais. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth: www.ico.org.uk

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â mi.

Yn gywir

Jeremy Morgan