TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Cynnal a chadw pont Afon Mawddach

Submitted by positiveUser on

Cynnal a chadw pont Afon Mawddach

Dyddiad cyhoeddi: 16 Medi 2019

Rwy’n ysgrifennu atoch i ymateb i’ch cais Rhyddid Gwybodaeth am gopi o’r rhaglen cynnal a chadw ar gyfer y bont sy’n croesi Afon Mawddach, rhwng y Bermo a Morfa Mawddach.

Gallaf gadarnhau nad oes gennym ni’r wybodaeth yma. Mae’r bont dros Afon Mawddach yn rhan o’r seilwaith sy’n eiddo i Network Rail, ac sy’n cael ei gynnal a’i gadw ganddo.

I wneud cais am wybodaeth gan Network Rail, cyflwynwch eich cais drwy’r post neu dros e-bost:

FOI@networkrail.co.uk

 

Network Rail

Freedom of Information

1st Floor Willen, Area C

The Quadrant

Elder Gate

Milton Keynes

MK9 1EN

 

Yn gywir

Jeremy Morgan

Trafnidiaeth Cymru