TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - data ar nifer y teithwyr

Submitted by positiveUser on

Data nifer teithwyr Trafnidiaeth Cymru

Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2018

Rwy’n ysgrifennu atoch i ymateb i'r Cais Rhyddid Gwybodaeth a wnaethoch am ddata nifer teithwyr Trafnidiaeth Cymru.

Cyflwynwyd eich cais Rhyddid Gwybodaeth i Drafnidiaeth Cymru, cwmni dielw sydd dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru. Sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru i ddarparu cymorth ac arbenigedd i Lywodraeth Cymru ar brosiectau trafnidiaeth yng Nghymru. Trafnidiaeth Cymru sy’n rheoli’r Cytundeb Grant rhwng Llywodraeth Cymru a Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.

Mae’r wybodaeth y gwnaethoch gais amdani yn rhan o gylch gorchwyl Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Mae Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, ac mae’n fenter sy’n cael ei chynnal ar y cyd rhwng dau gwmni yn y sector preifat sef Keolis ac Amey. Nid yw’r cwmnïau hyn dan awdurdodaeth y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (2000).

Os hoffech wneud cwyn am y modd y cafodd eich cais ei drin, ysgrifennwch at Jeremy Morgan, Swyddog Rhyddid Gwybodaeth, trwy e-bost i freedomofinformation@tfw.wales neu drwy’r post i Trafnidiaeth Cymru, Tŷ South Gate, Caerdydd, CF10 1EW.

Mae’n rhaid i mi hefyd eich cyfeirio at adran 50 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth lle gallwch ofyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth benderfynu a ydym wedi delio â’ch cais yn unol â’r Ddeddf ai peidio. Dyma fanylion y Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

Cheshire

SK9 5AF

e-bost: casework@ico.gsi.gov.uk

Ffôn: 01625 545745

Ffacs: 01625 524510

Ond, dylech nodi bod y Comisiynydd Gwybodaeth fel arfer yn disgwyl eich bod chi wedi dilyn ein prosesau cwyno mewnol cyn gwneud cais. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth: www.ico.org.uk

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â mi.

Yn gywir

Jeremy Morgan