TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Dibynadwyedd gwasanaethau o Amwythig tuag at arfordir y Cambrian
Dibynadwyedd gwasanaethau o Amwythig tuag at arfordir y Cambrian
Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2019
Diolch i chi am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar 14 Medi 2019. Roeddech wedi gofyn am yr wybodaeth ganlynol:
• faint o wasanaethau trên o Amwythig i Fachynlleth y bu’n rhaid darparu bysiau yn eu lle ers i fasnachfraint Arriva ddod i ben, a chost y bysiau hynny;
• a fu cynnydd o ran nifer a chost y gwasanaethau bysiau a ddarperir yn lle trenau o Amwythig tuag at arfordir y Cambrian, ac o ran nifer y teithwyr sydd wedi cael iawndal, ers i fasnachfraint Arriva ddod i ben?
• faint o wasanaethau y bu’n rhaid darparu bysiau yn eu lle ym mhob un o 3 blynedd diwethaf masnachfraint Arriva, a chost y bysiau hynny;
• faint o iawndal sydd wedi cael ei dalu i bobl sy’n teithio o Amwythig i leoliadau ar hyd rheilffyrdd Aberystwyth a Phwllheli ers i fasnachfraint Arriva ddod i ben, a nifer y teithwyr sydd wedi cael iawndal;
• faint o iawndal gafodd ei dalu i bobl a oedd yn gwneud y teithiau hynny ym mhob un o 3 blynedd diwethaf masnachfraint Arriva, a nifer y teithwyr a gafodd iawndal.
• a oes problem gyda system gyfathrebu y gyrrwr-caban signalau rhwng Amwythig a’r Trallwng? Os felly, beth yw’r broblem, a beth sy’n cael ei wneud i’w datrys?
• a oes unrhyw wirionedd yn y datganiadau bod prinder staff trên yn Trafnidiaeth Cymru, nad oes gan Trafnidiaeth Cymru ddigon o giardiau, a bod cyfradd uchel o salwch ymysg giardiau ym Machynlleth?
Rydym yn ysgrifennu atoch i gadarnhau bod eich cais wedi cael ei ystyried o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf), bod Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cwblhau’r broses o chwilio am yr wybodaeth, a bod ganddo rywfaint o’r wybodaeth roeddech wedi gofyn amdani.
Faint o wasanaethau trên o Amwythig i Fachynlleth y bu’n rhaid darparu bysiau yn eu lle ers i fasnachfraint Arriva ddod i ben, a chost y bysiau hynny
Byddai paratoi’r union fanylion roeddech chi wedi gofyn amdanyn nhw, o ran faint o drenau y bu’n rhaid darparu bysiau yn eu lle, yn dasg sylweddol a fyddai’n gofyn am lawer o amser ac yn golygu ein bod yn croesi’r trothwy, sef £600. Fodd bynnag, rydym wedi darparu rhywfaint o ddata a allai fod yn help mawr i ateb y cais penodol:
Trenau sydd wedi cael eu canslo’n llwyr/yn rhannol (ar y diwrnod) – 571
Trenau sydd wedi cael eu canslo’n llwyr/yn rhannol ymlaen llaw (o leiaf un diwrnod ymlaen
llaw, ac yn cynnwys ar gyfer pethau fel gwaith peirianyddol, Diwrnod Nadolig ac ati) – 701
Ni fydd pob achos o ganslo yn golygu bod gwasanaeth bws wedi cael ei ddarparu yn lle trên. Os oes gwasanaeth trên arall yn mynd o fewn awr, ni fyddem yn darparu bws yn lle’r gwasanaeth sydd wedi cael ei ganslo, oherwydd byddai’r trên nesaf yn pasio’r bws yn y pen draw cyn iddo gyrraedd pen ei daith.
I roi rhywfaint o gyd-destun i egluro’r sefyllfa, gan ei bod yn ymddangos bod nifer fawr iawn o wasanaethau’n cael eu canslo, dydy canslo un gwasanaeth (naill ai yn llwyr/yn rhannol/ymlaen llaw/yn annisgwyl) ddim o reidrwydd yn golygu nad ydym wedi rhedeg gwasanaeth. Yn hytrach na hynny, mae’n dangos sawl gwaith mae cod blaen yr amserlen sylfaenol wedi cael ei newid.
Er enghraifft, os yw’r trên yn arfer mynd o Birmingham i Aberystwyth, ond ein bod wedi gorfod trefnu i newid uned a rhedeg dau drên ar wahân am ba bynnag reswm – un trên yn teithio o Birmingham i Amwythig, a thrên arall yn teithio o Amwythig i Aberystwyth (yn gadael ar yr amser arferol, ond gyda set wahanol o drenau) – byddai hyn yn cael ei adlewyrchu yn y data, oherwydd byddai cod blaen yr ail drên yn wahanol. Felly, mewn gwirionedd, dydy’r sefyllfa ddim yn agos at fod mor annerbyniol ag y mae’r data uchod yn ei awgrymu.
a fu cynnydd o ran nifer a chost y gwasanaethau bysiau a ddarperir yn lle trenau o Amwythig tuag at arfordir y Cambrian, ac o ran nifer y teithwyr sydd wedi cael iawndal, ers i fasnachfraint Arriva ddod i ben?
Nid oes gennym wybodaeth am ddyddiadau cyn Hydref 14, pan mai Trenau Arriva Cymru oedd yn gweithredu masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, ac nid oes gennym ddata Arriva i allu cymharu. Felly, nid oes gennym yr wybodaeth roeddech wedi gofyn amdani. Os hoffech chi gael yr wybodaeth yma, rydym yn awgrymu i chi gysylltu ag Arriva UK:
Arriva plc
Admiral Way
Doxford International Business Park
Sunderland
SR3 3XP
Y Deyrnas Unedig
Ffôn: +44 (0)191 520 4000
E-bost: enquiries@arriva.co.uk
faint o wasanaethau y bu’n rhaid darparu bysiau yn eu lle ym mhob un o 3 blynedd diwethaf masnachfraint Arriva, a chost y bysiau hynny
Nid oes gennym wybodaeth am ddyddiadau cyn 14 Hydref 2018, pan mai Trenau Arriva Cymru oedd yn gweithredu masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r Gororau. Os hoffech chi gael yr wybodaeth yma, rydym yn awgrymu i chi gysylltu ag Arriva UK.
faint o iawndal sydd wedi cael ei dalu i bobl sy’n teithio o Amwythig i leoliadau ar hyd rheilffyrdd Aberystwyth a Phwllheli ers i fasnachfraint Arriva ddod i ben, a nifer y teithwyr sydd wedi cael iawndal
Cafwyd cyfanswm o 286 o hawliadau yn ystod y flwyddyn diwethaf, sy’n dod i gyfanswm o £2,555 o iawndal am oedi. Nid oes gennym wybodaeth am nifer y cwsmeriaid. Nid oes gennym ddata ar gyfer cyfrifon personol ar hyn o bryd – bydd yr wybodaeth yma ar gael o flwyddyn nesaf ymlaen.
faint o iawndal gafodd ei dalu i bobl a oedd yn gwneud y teithiau hynny ym mhob un o 3 blynedd diwethaf masnachfraint Arriva, a nifer y teithwyr a gafodd iawndal.
Nid oes gennym wybodaeth am ddyddiadau cyn 14 Hydref 2018, pan mai Trenau Arriva Cymru oedd yn gweithredu masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r Gororau. Os hoffech chi gael yr wybodaeth yma, rydym yn awgrymu i chi gysylltu ag Arriva UK.
a oes problem gyda system gyfathrebu y gyrrwr-caban signalau rhwng Amwythig a’r Trallwng? Os felly, beth yw’r broblem, a beth sy’n cael ei wneud i’w datrys?
Rydym wedi penderfynu bod yr wybodaeth yma wedi’i heithrio rhag cael ei rhyddhau o dan adran 38 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (2000), sy’n datgan bod gwybodaeth yn wybodaeth esempt os byddai ei datgelu o dan y Ddeddf hon yn arwain at y canlynol, neu’n debygol o arwain at hynny— (b) peryglu diogelwch unrhyw unigolyn.
Mae Adran 38 yn eithriad wedi’i gymhwyso. Felly, hyd yn oed os yw’r wybodaeth roeddech chi wedi gofyn amdani wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu, rhaid i ni ystyried a phenderfynu a yw cynnal yr eithriad yn fwy buddiol i’r cyhoedd na datgelu’r wybodaeth.
Er ein bod yn cydnabod bod deall pa mor ddibynadwy yw’r systemau cyfathrebu ar y rhwydwaith rheilffyrdd yn fuddiol i’r cyhoedd, yn yr achos yma, rydym ni’n teimlo y byddai rhannu’r wybodaeth yma a’i gwneud yn gyhoeddus yn gallu peryglu diogelwch teithwyr. Mae hyn yn golygu y byddai’n fwy buddiol i’r cyhoedd i ni beidio â datgelu’r wybodaeth yma.
A oes unrhyw wirionedd yn y datganiadau bod prinder staff trên yn Trafnidiaeth Cymru, nad oes gan Trafnidiaeth Cymru ddigon o giardiau, a bod cyfradd uchel o salwch ymysg giardiau ym Machynlleth?
Ar hyn o bryd, mae gan Wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru un swydd wag ar gyfer gyrrwr trên yn y depo yng Nghaergybi, fel y cafodd ei hysbysebu ar wefan Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Nid oes gennym unrhyw swyddi gwag ar gyfer goruchwylwyr ar hyn o bryd.
Mae ‘cyfradd uchel o salwch’ yn ddatganiad goddrychol, ac felly ni allwn ddarparu unrhyw wybodaeth ar gyfer y cais hwn.
Yn gywir
Trafnidiaeth Cymru