TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Ffurfiannau Aber & Rhym

Submitted by positiveUser on

Trenau pedwar cerbyd – rheilffyrdd Aberdâr a Rhymni

Dyddiad cyhoeddi: 04 Hydref 2019

Diolch i chi am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar 25 Medi 2019. Roeddech wedi gofyn am yr wybodaeth ganlynol:

Faint o drenau pedwar cerbyd sydd wedi cael eu defnyddio yn ystod cyfnodau prysuraf y bore, a chyfnodau prysuraf y prynhawn? Hoffwn gael yr wybodaeth yma ar gyfer rheilffordd Aberdâr a rheilffordd Rhymni. 

Rwy’n ysgrifennu atoch i gadarnhau bod eich cais wedi cael ei ystyried o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf), bod Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cwblhau’r broses o chwilio am yr wybodaeth, a bod ganddo’r wybodaeth roeddech wedi gofyn amdani. 

Mae’r ffeil sydd wedi’i mewnosod yn cynnwys y data roeddech wedi gofyn amdano. Mae’r data yn rhoi sylw i’r cyfnodau prysuraf rhwng 21 Gorffennaf 2019 ac 14 Medi 2019. 

Yn gywir 

Trafnidiaeth Cymru