TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Gorsaf yr Eglwys Wen

Submitted by positiveUser on

Gorsaf yr Eglwys Wen (Whitchurch, Swydd Amwythig)

Diolch i chi am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar 21 Gorffennaf 2019. Roeddech wedi gofyn am yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â gorsaf yr Eglwys Wen (Whitchurch, Swydd Amwythig):

• copi o’r Cynllun Datblygu Cymdeithasol a Masnachol, ac unrhyw amlinelliadau o waith i wella mynediad heb risiau a gyhoeddwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.

Mae’r Cynllun Datblygu Cymdeithasol a Masnachol yn canolbwyntio’n bennaf ar wella sut caiff adeiladau gorsafoedd eu defnyddio, yn enwedig gofod sy’n segur ar hyn o bryd, at ddibenion cymunedol. Nid oes adeiladau gorsaf fel y cyfryw yng ngorsaf yr Eglwys Wen, ac felly nid oes Cynllun Datblygu Cymdeithasol a Masnachol wedi cael ei baratoi. Mae cynllun ehangach, ar wahân ar gyfer ymgysylltu â'r gymuned, sy’n cael ei arwain gan ein Pennaeth Rheilffyrdd Cymunedol. Ar hyn o bryd mae Trafnidiaeth Cymru yn penodi Llysgenhadon Cymunedol i gefnogi’r rhaglen yma, ac i gydweithio ag awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol ynghylch anghenion penodol pob gorsaf a’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu. Bwriedir i’r rhaglen hon fod ar waith yn llawn erbyn mis Ebrill 2020. Nid yw'r Cynllun Datblygu Cymdeithas a Masnachol yn gysylltiedig yn benodol â phrosiectau hygyrchedd.

Roedd Trafnidiaeth Cymru wedi cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi gyflwyno rhaglen gyllido Mynediad i Bawb ar gyfer gorsafoedd ar draws y rhwydwaith ym mis Hydref 2018. Nid oedd yr Eglwys Wen wedi cael ei chynnwys ar y rhestr fer.

Fodd bynnag, ar hyn o bryd rydym yn edrych ar raglen gyllido Mynediad i Bawb arall; y rhaglen haen ganol. Network Rail sy’n rheoli’r rhaglen hon, a bydd Llywodraeth Cymru yn ei chymeradwyo cyn iddi gael ei chyflwyno i’r Adran Drafnidiaeth ym mis Tachwedd 2019. Mae Trafnidiaeth Cymru yn edrych ar ofynion ar gyfer yr Eglwys Wen, mynediad rhwng platfformau, ond ni all roi rhagor o wybodaeth benodol nes bod y cynnig cyffredinol yn cael ei gymeradwyo.

Ar hyn o bryd, mae ein Panel Hygyrchedd a Chynhwysiant yn edrych ar fân welliannau ar draws y rhwydwaith, a bydd unrhyw eitemau penodol a nodir ar gyfer yr Eglwys Wen yn cael sylw.

Mae croeso i chi gysylltu â Trafnidiaeth Cymru os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru