TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - GU Trains
GU Trains
Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2019
Diolch i chi am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar 10 Medi 2019. Roeddech wedi gofyn am yr wybodaeth ganlynol:
- Allwch chi gadarnhau a yw Trafnidiaeth Cymru wrthi’n trafod defnyddio trenau Class 802 ar y gwasanaeth arfaethedig newydd rhwng De Cymru a Llundain, neu a oes ganddo unrhyw gytundeb i wneud hynny?
- Os na, a yw’r defnydd o’r brand yma wedi cael ei awdurdodi?
Mae eich cais wedi cael ei ystyried yn unol â gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Gallwn gadarnhau bod gennym ni rywfaint o’r wybodaeth roeddech wedi gofyn amdani.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi’r egwyddor o gael trenau cyflymach rhwng De Cymru a Llundain. Fodd bynnag, Llywodraeth Cymru sy’n arwain y trafodaethau â Grand Union Trains ynghylch ei gynnig i redeg gwasanaethau rhwng De Cymru a Llundain, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf. Yn sgil hynny, nid oes gennym wybodaeth am unrhyw drafodaethau na chytundebau ar gyfer defnyddio trenau Class 802 ar wasanaeth arfaethedig Grand Union Trains rhwng De Cymru a Llundain.
Mae’r defnydd o frand Trafnidiaeth Cymru ar gyfer y ddelwedd ar wefan Grand Union Trains wedi cael ei awdurdodi.
Mae croeso i chi gysylltu â Trafnidiaeth Cymru os oes gennych unrhyw ymholiadau.
Yn gywir
Trafnidiaeth Cymru