TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Gwasanaeth Cheltenham

Submitted by positiveUser on

Canslo gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru rhwng Cheltenham a Chaerdydd

Dyddiad cyhoeddi: 06 Medi 2019

Diolch i chi am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar 12 Gorffennaf 2019. Roeddech wedi gofyn am yr wybodaeth ganlynol:

yr ystadegau ynghylch faint o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru (TrC) i Cheltenham Spa ac oddi yno sydd wedi cael eu canslo ers i TrC gael y fasnachfraint. Mae gennyf ddiddordeb yn arbennig yn y gwasanaethau sy’n cyrraedd Cheltenham am 07:34, ac yn gadael Cheltenham am 16:45 ac 17:45. Os oes ystadegau ar gael, gofynnaf i chi eu cymharu ag ystadegau darparwr blaenorol yr un gwasanaethau, Trenau Arriva Cymru.

Rwy’n ysgrifennu atoch i gadarnhau bod eich cais wedi cael ei ystyried o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf), a bod Trafnidiaeth Cymru wedi cwblhau’r broses o chwilio am yr wybodaeth. Mae gennym rywfaint o’r wybodaeth roeddech wedi gofyn amdani. 

Atodwyd i’r llythyr yma ddata am wasanaethau trên i Cheltenham Spa ac oddi yno sydd wedi cael eu canslo, ar yr amseroedd a nodwyd, ers i TrC ddechrau bod yn gyfrifol am fasnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau. 

Ni allwn ddarparu data cymharol ar gyfer yr un gwasanaethau a oedd yn cael eu rhedeg gan y darparwyr gwasanaeth blaenorol ar gyfer masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau (Trenau Arriva Cymru). Arriva UK sy’n berchen ar y data hwnnw, ac yn ei gadw. Mae’n bosib cysylltu ag Arriva UK drwy unrhyw un o’r ffyrdd canlynol: 

Arriva plc
Admiral Way
Doxford International Business Park
Sunderland
SR3 3XP
Y Deyrnas Unedig

Ffôn: +44 (0)191 520 4000
E-bost: enquiries@arriva.co.uk

Mae croeso i chi gysylltu â Trafnidiaeth Cymru os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach.

Yn gywir 

Trafnidiaeth Cymru

 

Atodiad A

a.22 Gwybodaeth y bwriedir ei chyhoeddi yn y dyfodol 

(1) Mae gwybodaeth yn wybodaeth esempt os –
  
(a) yw’n cael ei dal gan yr awdurdod cyhoeddus gyda’r bwriad iddi gael ei chyhoeddi, gan yr awdurdod neu gan unrhyw berson arall, ar ddyddiad yn y dyfodol (boed y dyddiad wedi cael ei bennu ai peidio),
(b) oedd yr wybodaeth eisoes yn cael ei dal gyda’r bwriad i’w chyhoeddi pan wnaed y cais am wybodaeth, ac 
(c) ei bod yn rhesymol, yn yr holl amgylchiadau, i beidio â datgelu’r wybodaeth tan y dyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (a). 
(2) Nid yw’r ddyletswydd i gadarnhau neu wrthod yn codi os byddai, neu i’r graddau y byddai, cydymffurfio ag adran 1(1)(a) yn golygu datgelu unrhyw wybodaeth (boed yr wybodaeth honno wedi cael ei chofnodi’n barod ai peidio) sy’n dod o dan isadran (1).

 

Ffactorau o blaid datgelu

 

  • y budd cyffredinol i’r cyhoedd wrth ddatgelu’r wybodaeth, er mwyn craffu ar benderfyniadau Trafnidiaeth Cymru sy’n ymwneud â chaffael cyhoeddus, a sicrhau eu bod yn dryloyw.
  • y ffaith bod Gweinidogion Cymru yn hyrwyddo’r ddelfryd y dylai gwybodaeth gael ei gwneud yn gyhoeddus yn hytrach na pheidio, ac y dylai awdurdodau cyhoeddus Cymru fod yn fwy tryloyw.
  • byddai datgelu’r wybodaeth yn gallu helpu’r unigolyn dan sylw, neu’r cyhoedd yn gyffredinol, i ddeall prosesau awdurdodau cyhoeddus ar gyfer gwneud penderfyniadau.


Ffactorau yn erbyn datgelu

 

  • er mwyn i Trafnidiaeth Cymru allu cyflawni ei rôl yn effeithiol, mae’n rhaid i’w gontractwyr – fel Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru – deimlo eu bod yn gallu datgelu gwybodaeth fasnachol i Trafnidiaeth Cymru heb berygl y caiff yr wybodaeth yma ei datgelu’n gynnar i’r cyhoedd neu i gystadleuwyr.
  • mae’n bwysig bod Trafnidiaeth Cymru yn gallu ymgynghori â’i gontractwyr ynghylch yr wybodaeth cyn iddi gael ei chyhoeddi. Os nad oes gan gontractwyr ffydd y bydd Trafnidiaeth Cymru yn diogelu gwybodaeth sy’n cael ei hystyried yn wybodaeth fasnachol sensitif, mae’n debygol y byddent yn gyndyn o ddarparu gwybodaeth nad oes rhaid iddynt ei darparu o dan delerau’r Cytundeb Grant â Gweinidogion Cymru, fel y mae’n cael ei reoli gan Trafnidiaeth Cymru.
  • bydd cyhoeddi’r wybodaeth ariannol am y tro cyntaf ar wefan ORR yn golygu bod pawb yn cael gweld yr wybodaeth ar yr un pryd. Bydd hyn hefyd yn cynnig dull clir a chyson o weithredu.
  • byddai’n well i staff TrC dreulio amser yn casglu ac yn dilysu’r wybodaeth i’w pharatoi i’w chyhoeddi, yn hytrach na delio â cheisiadau tameidiog. Byddai hyn hefyd yn osgoi dryswch ac yn sicrhau nad yw’r wybodaeth yn cael ei chamddehongli.


Y Penderfyniad 


Mae’r wybodaeth ariannol rydych wedi gofyn amdani yn cael ei dal yn ôl ar hyn o bryd, gan fod bwriad i gyhoeddi’r wybodaeth yn y dyfodol. At ei gilydd, byddai dal yr wybodaeth yma’n ôl nes iddi gael ei chyhoeddi’n ffurfiol yn fwy buddiol i’r cyhoedd na phetai’r wybodaeth yn cael ei datgelu nawr.