TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Gwasanaeth Pen-y-bont ar Ogwr i Aberdâr

Submitted by Content Publisher on

Gwasanaeth Pen-y-bont ar Ogwr i Aberdâr

Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2019

Diolch am eich e-bost, 13 Mehefin, yn gofyn am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Fe wnaethoch chi ofyn am y canlynol:

  • Manylion yr ymchwil a wnaed a sut bydd unrhyw gynnydd o ran capasiti llinellau a gynlluniwyd yn diwallu'r nifer cynyddol o deithwyr mewn gwirionedd.
  • Tystiolaeth bod y datblygiadau tai hyn wedi cael eu hystyried a beth yw'r cynlluniau cysylltiedig i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn defnydd, gan gynnwys cofnodion cyfarfodydd a chamau y cytunwyd arnynt.

Fel y nodwyd yn ein hymateb blaenorol, cafodd ymchwil a wnaed ar unrhyw gynnydd o ran capasiti llinellau a gynlluniwyd a fydd mewn gwirionedd yn diwallu'r cynnydd yn nifer y teithwyr ar linell Pen-y-bont ar Ogwr i Aberdâr, ei wneud gan gynigwyr fel rhan o'r broses gaffael, gan ddefnyddio eu dulliau a phrosesau rhagamcanu / modelu eu hunain.

Byddai'r ceisiadau hyn hefyd wedi ystyried datblygiadau tai. Darparwyd ymchwil i gynigwyr a wnaed ar ran Trafnidiaeth Cymru a ddaeth i'r casgliad bod angen ail drên yr awr, yn y tymor byr, ar reilffordd Bro Morgannwg yn rhannol oherwydd y bydd y galw gan deithwyr nad ydynt yn defnyddio'r maes awyr yn llawer mwy na'r rhai sy'n teithio i ac o'r maes awyr. Mae hyn yn rhannol oherwydd datblygiadau tai allweddol yn ardaloedd y Rhws / Llanilltud Fawr. Ers cyflwyno'r cynigion a dyfarnu masnachfraint Cymru a'r Gororau, nid yw'r cynlluniau i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn defnydd o ganlyniad i'r datblygiadau tai hyn wedi ymddangos mewn cofnodion cyfarfodydd na chamau gweithredu y cytunwyd arnynt.

Mae'r wybodaeth yn y cynigion ar gyfer contract masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau yn gyfrinachol ac yn eiddo deallusol y cynigwyr unigol dan sylw. Felly, mae'r wybodaeth hon wedi'i gwrthod o dan adran 41(1)(b) y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (fel yr esbonnir isod), gan mai gwybodaeth a ddarparwyd yn gyfrinachol ydoedd. Yn ein barn ni, byddai datgelu'r wybodaeth hon yn achos o dorri cyfrinachedd mewn modd a fyddai'n agored i gyfraith, ac felly byddai ei datgelu yn anghyfreithlon hefyd o dan y Ddeddf. O dan yr amgylchiadau hyn, mae adran 41 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi eithriad absoliwt o ran datgelu ac nid oes prawf lles y cyhoedd i'w gynnal.

Adran 41 – gwybodaeth a roddwyd yn gyfrinachol

Mae adran 41 (1) yn darparu bod gwybodaeth yn esempt os yw'r canlynol yn wir: 

(a) Fe'i cafwyd gan yr awdurdod cyhoeddus gan unrhyw berson arall (gan gynnwys awdurdod cyhoeddus arall), a

Byddai datgelu'r wybodaeth i'r cyhoedd (ac eithrio o dan y Ddeddf hon) gan yr awdurdod cyhoeddus sydd â'r wybodaeth yn golygu torri cyfrinachedd mewn modd a fyddai'n peri bod y person hwnnw neu unrhyw berson arall yn agored i gamau cyfreithiol yn ei erbyn.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â Trafnidiaeth Cymru.

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru