TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Gwrthdrawiadau ar yr M4

Submitted by positiveUser on

Gwrthdrawiadau ar yr M4

Dyddiad cyhoeddi: 04 Tachwedd 2019

Diolch i chi am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar 4 Tachwedd 2019. Roeddech wedi gofyn am yr wybodaeth ganlynol:

• faint o wrthdrawiadau sydd wedi bod ar yr M4 rhwng Caerdydd a Chasnewydd ers dechrau Awst?

• yn ystod y tri mis diwethaf, sawl gwaith mae tagfeydd wedi bod ar hyd yr un darn o ffordd oherwydd bod cerbyd wedi torri i lawr?

Rydym yn ysgrifennu atoch i gadarnhau bod eich cais wedi cael ei ystyried o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf), a bod Trafnidiaeth Cymru wedi cwblhau’r broses o chwilio am yr wybodaeth roeddech wedi gofyn amdani.

Rydym yn ysgrifennu atoch i gadarnhau nad oes gennym ni’r wybodaeth yma. Dydy Trafnidiaeth Cymru ddim yn gyfrifol am gefnffyrdd yng Nghymru. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddiogelwch ar y cefnffyrdd, ac am adeiladu cefnffyrdd a’u cynnal a’u cadw, a dylech ailgyfeirio’ch cais at Lywodraeth Cymru.

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru