TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - IR35

Submitted by Content Publisher on

Asesiadau o statws o dan bennod 10

Dyddiad cyhoeddi: 08 Chwefror 2019

Rwy'n ysgrifennu mewn ymateb i'ch cais Rhyddid Gwybodaeth am asesiadau statws o dan bennod 10.

Rwy'n ysgrifennu mewn ymateb i'ch cais Rhyddid Gwybodaeth am asesiadau statws o dan bennod 10 Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003.

Mae eich cais wedi'i ystyried yn unol â gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'n polisi mynediad at wybodaeth. Gallaf gadarnhau bod gennym rywfaint o'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Fe wnaethoch chi ofyn am:

  • Ddadansoddiad misol, o Ebrill 2017 ymlaen o'r nifer o asesiadau a gynhaliwyd gennych chi;
  • ynghyd â nifer yr asesiadau yr ystyrir eu bod "y tu mewn i IR35" (h.y. bod 61M(1)(d) yn gymwys) a'r nifer sydd "y tu allan i IR35" (h.y. nid yw 61M(1)(d) yn gymwys).

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cynnal dau asesiad ffurfiol ynglŷn ag IR35 ers Ebrill 2017, ynghyd â nifer o asesiadau unigol ad hoc o fewn y cyfnod hwn hefyd.

Cynhaliwyd yr asesiad diweddaraf yn ystod Ionawr / Chwefror 2019, yn cwmpasu 19 o asesiadau arlein. Pennwyd bod pob un y tu allan i IR35.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â mi.

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru