TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Llanharan - Dociau'r Barri
Gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru – Llanharan – Caerdydd – Dociau'r Barri
Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2019
Diolch am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth dyddiedig 08 Gorffennaf 2019. Fe wnaethoch chi ofyn am y wybodaeth ganlynol:
Dibynadwyedd y daith hon ers mis Hydref. Ai dim ond y llwybr hwn yw e, neu a oes gwasanaeth gwael fel hyn ar yr holl lwybrau eraill? Llanharan – Caerdydd – Dociau'r Barri yn yr oriau brig.
Ysgrifennaf atoch i gadarnhau bod eich cais wedi'i ystyried o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf) a bod Trafnidiaeth Cymru wedi cwblhau ei chwiliad am y wybodaeth.
Mae'r wybodaeth wnaethoch chi ofyn amdani wedi'i hatodi. Mae'r wybodaeth a ddarperir ar gyfer Cyfnodau Rheilffordd 1908 - 2003 (14 Hydref 2018 – 22 Mehefin 2019). Mae'r ffigurau a ddarparwyd ar gyfer gwasanaethau yn ystod oriau brig (AM 07:30 – 09:00, PM oriau brig 16:30 – 18:00).
Cyflwynir y data gan ddefnyddio'r Mesur Perfformiad Cyhoeddus (PPM). Mae'r mesur hwn yn dangos canran y trenau sy'n cyrraedd eu gorsaf derfynu ar amser. Mae'r mesur hwn yn diffinio trên fel 'ar amser' os yw'n cyrraedd y gyrchfan o fewn pum munud i'r amser a bennwyd ar gyfer gwasanaethau cymudo ac o fewn 10 munud ar gyfer gwasanaethau pellter hir. Mae'r mesur perfformiad cyhoeddus yn cyfuno ffigurau ar gyfer prydlondeb a dibynadwyedd yn un mesur perfformiad a dyna yw mesur perfformiad safonol y diwydiant y mae Network Rail yn ei ddefnyddio'n rheolaidd ac yn adrodd arno ym mhob un o'r 13 cyfnod pedair wythnos bob blwyddyn.
Nodwch nad yw Dociau'r Barri yn bwynt cofnodi felly nid oes gennym amseriadau perfformiad penodol yn yr orsaf hon. Er mwyn rhoi persbectif ar berfformiad y gwasanaethau brig i Ddociau'r Barri, rydym wedi darparu'r ffigurau perfformiad yn y man cofnodi nesaf - Tref y Barri.
Nid yw Llanharan ychwaith yn bwynt cofnodi felly nid oes gennym amseriadau perfformiad penodol yn yr orsaf hon. Er mwyn rhoi persbectif o berfformiad gwasanaethau brig yn Llanharan rydym wedi darparu'r ffigurau perfformiad i'r pwynt cofnodi nesaf - Pen-y-bont ar Ogwr.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â Trafnidiaeth Cymru.
Yn gywir
Trafnidiaeth Cymru