TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Llinellau dwbl ar y ffyrdd

Submitted by positiveUser on

Llinellau coch dwbl ar y ffyrdd

Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2019

Diolch i chi am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar 17 Medi 2019. Roeddech wedi gofyn am yr wybodaeth ganlynol:

1. Faint o filltiroedd o ffyrdd o dan eich awdurdodaeth chi sydd â llinellau coch dwbl/sydd wedi cael eu categoreiddio yn llwybrau coch?

2. Faint o filltiroedd o ffyrdd o dan eich awdurdodaeth chi oedd â llinellau coch dwbl/wedi cael eu categoreiddio yn llwybrau coch ym mis Medi 2018, Medi 2017, Medi 2016 a Medi 2015?

3. Oes gennych chi unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gynyddu neu leihau nifer y llinellau coch dwbl ar eich ffyrdd yn y dyfodol agos? Os oes, rhowch fanylion.

4. Pa gosbau ydych chi’n eu rhoi i bobl sy’n torri’r rheolau ar gyfer llwybrau coch?

5. Faint o gosbau ydych chi wedi’u rhoi i bobl sydd wedi torri’r rheolau llwybrau coch dros y pum mlynedd diwethaf? Rhowch ddadansoddiad o un flwyddyn i’r llall.

Gallaf gadarnhau nad oes gennym ni’r wybodaeth roeddech wedi gofyn amdani. Does gan Trafnidiaeth Cymru ddim cyfrifoldeb dros rwydweithiau cefnffyrdd na ffyrdd lleol.

Byddwn i’n awgrymu eich bod yn cysylltu ag awdurdodau lleol unigol yng Nghymru, neu Lywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/gofyn-am-wybodaeth-gan-lywodraeth-cymru-html

Yn gywir

Jeremy Morgan

Trafnidiaeth Cymru