TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Mark Barry

Submitted by positiveUser on

Gwasanaethau a ddarperir gan Mark Barry

Rwy'n ysgrifennu atoch mewn ymateb i'ch cais Rhyddid Gwybodaeth am waith a wnaed gan yr Athro Mark Barry.

Mae eich cais wedi'i ystyried yn unol â gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'n polisi mynediad at wybodaeth. Gallaf gadarnhau bod gennym y wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Fe wnaethoch chi ofyn am y canlynol:

• manylion am waith a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a ddarparwyd gan Trafnidiaeth Cymru; a

• manylion llawn cwmpas y gwaith, cynigion y ceisiadau, y prosesau a ddefnyddiwyd i benodi, a'r costau sy'n gysylltiedig â phenodi'r Athro Mark Barry i ymgymryd â dwy astudiaeth ar Yr Achos Dros Fuddsoddi mewn Rheilffyrdd.

Ar 1 Mawrth 2018, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyfarwyddyd i Trafnidiaeth Cymru i ddarparu Achos Amlinellol Strategol y Rhaglen ar gyfer Prif Reilffyrdd Gogledd a De Cymru ac Achos Amlinellol Strategol ar gyfer Wrecsam i Lannau Mersi.

Cwmpas y gwaith oedd darparu cyngor i Trafnidiaeth Cymru ar gwmpasu cyfleoedd posibl i wella amseroedd teithio rhwng Abertawe a Chaerdydd ar brif reilffordd de Cymru a gwelliannau i amserau siwrneiau a chapasiti ar brif linell gogledd Cymru.

Bwriad y gwaith oedd cefnogi trafodaethau gyda'r Adran Drafnidiaeth (DfT) i gael cyllid i ddatblygu'r cynlluniau hyn ymhellach. Roedd y cwmpas hwn yn cynnwys:

1. paratoi gweledigaeth, amcanion ac allbynnau drafft ar gyfer pob Achos Amlinellol Strategol;

2. goruchwylio'r broses o arfarnu ymyriadau posibl;

3. paratoi ar gyfer cyfarfod gyda'r Adran Drafnidiaeth a sicrhau cytundeb ar y dull gweithredu; ac

4. arwain, cefnogi a chyfrannu at unrhyw weithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd a'r cyfryngau, a gweithgareddau rhanddeiliaid a sicrhau eiddo deallusol rhanddeiliaid (lle y bo'n briodol).

 

Gan ddefnyddio ein fframwaith Gwasanaethau Ymgynghori ar Beirianneg, gofynnwyd i Mott MacDonald ddarparu Gorchmynion Tasg ar gyfer paratoi'r astudiaethau.

Roedd cwmpas y ddwy astudiaeth yn cynnwys elfen o gyngor strategol arbenigol ac er mwyn darparu'r elfen hon o waith, cyflogodd Mott MacDonald Mark Barry fel is-ymgynghorydd, a ganiateir o dan delerau'r fframwaith.

Cymharwyd y cyfraddau ar gyfer y gwaith arbenigol a ddarparwyd gan Mark Barry â gwaith arbenigol arall tebyg a ddarparwyd o dan fframweithiau eraill a ddefnyddiwyd gan Trafnidiaeth Cymru a chanfuwyd eu bod yn gystadleuol.

Cafodd y Gorchmynion Tasg eu cymeradwyo gan Trafnidiaeth Cymru a chafodd y gwaith ei wneud ar ran Llywodraeth Cymru o dan delerau llythyr cylch gwaith Trafnidiaeth Cymru.

Cost yr elfen arbenigol o'r gwaith a wnaed oedd £137,539 (yn cynnwys tri phecyn £50,319, £36,901, a £50,319).

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â Trafnidiaeth Cymru.

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru