TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Metro Caerdydd - Penarth

Submitted by positiveUser on

Metro Caerdydd – Penarth

Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2019

Diolch i chi am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar 10 Gorffennaf 2019. Roeddech wedi gofyn am yr wybodaeth ganlynol:

Yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ymestyn y rhwydwaith presennol ym Mhenarth y tu hwnt i’r terminws presennol.

Cefais fy hysbysu o’r blaen nad oedd unrhyw fwriad i ymestyn y rhwydwaith rheilffyrdd gyda rheilffordd ysgafn drydan nac mewn unrhyw ffordd arall, ac y byddai llwybrau bysiau integredig gyda system cerdyn “oyster” ar gael ar gyfer llwybrau y tu hwnt i Benarth. Wrth ystyried bod map mwy diweddar wedi cael ei gyhoeddi’n ddiweddar sy’n dangos y gwasanaeth yn cael ei ymestyn y tu hwnt i Benarth, a dyhead Cyngor Caerdydd i ddarparu system reilffordd a fyddai’n gallu gwasanaethu de Penarth, allwch chi roi eglurhad pellach i mi ynghylch hyn os gwelwch chi’n dda.

Dyma’r manylion rydych chi’n chwilio amdanyn nhw:

• ffurf y cynigion neu’r dyheadau,

• amserlenni’r camau nesaf, gan gynnwys ymgynghoriad,

• manylion y penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud ynghylch hyn ers fy ngohebiaeth ddiwethaf ar 22 Tachwedd 2018, gan gynnwys a ddylid cymryd unrhyw gamau ymgynghori pellach,

• llwybrau (arfaethedig neu fel arall),

• manylion unrhyw seilwaith ychwanegol, a

• sgyrsiau ynghylch newidiadau y mae’n bosib y bydd angen eu gwneud i ddatblygiadau presennol, oherwydd eu bod ar y llwybrau sydd dan ystyriaeth neu’n agos atynt.

Gallwn gadarnhau bod gennym ni rywfaint o’r wybodaeth roeddech wedi gofyn amdani.

Un rheilffordd sydd ym Mhenarth ar hyn o bryd, ac mae’n cael ei galw’n Rheilffordd Cangen. Mae ail reilffordd ar y gweill, a bydd yn rhedeg yn gyfochrog â’r llinell bresennol am tua 1,120 o fetrau. Y rheilffordd newydd yma fydd y brif reilffordd am i lawr. Fydd platfform y brif reilffordd newydd am i lawr ddim yn gyfochrog â phlatfform y rheilffordd cangen bresennol oherwydd topograffi’r safle. Bydd y rheilffordd Cangen sy’n bodoli’n barod yn newid i fod yn brif reilffordd am i fyny, oherwydd bydd dwy reilffordd ar ôl y gwaith adeiladu. Nid oes bwriad i ymestyn y byffer stopio ym Mhenarth.

Bydd ail blatfform newydd, 120 o fetrau, yn cael ei adeiladu ar ochr y rheilffordd am i lawr. Y cynnig gwreiddiol oedd cael grisiau i lawr i’r platfform newydd o Bont Stanwell. Ond, ar ôl ymweld â’r safle, rydym yn credu bod ramp yn bosib ar gyfer pobl ag anawsterau o ran symudedd. Bydd mynediad gwastad yn galluogi’r teithwyr i fynd ar y trên heb orfod camu i fyny nac i lawr.

Does dim amserlenni ar gyfer gwasanaethau newydd ar hyn o bryd. Bydd pedwar trên yr awr yn rhedeg i Benarth o 2023 ymlaen.

Nid oes unrhyw ymgynghoriadau wedi cael eu cynnal ynghylch rheilffordd Penarth ers 22 Tachwedd 2018. Dydy’r cam dylunio rhagarweiniol ddim yn dechrau tan fis Ionawr 2020. Fel rhan o hynny, byddwn yn penderfynu ar unrhyw ymgynghoriad angenrheidiol. Ar hyn o bryd, nid yw’n glir pa ymyriadau sydd eu hangen. Ond, bydd y gwaith adeiladu’n digwydd ar hyd coridor y rheilffordd bresennol.

Bydd yn rhaid i unrhyw wybodaeth ynghylch dyheadau Cyngor Caerdydd i ddarparu system reilffordd sy’n gallu gwasanaethu de Penarth gael ei chyfeirio at Gyngor Caerdydd. Nid oes gennym ni unrhyw wybodaeth am y dyheadau hyn.

Dyma fanylion cyfleusterau’r orsaf newydd ym Mhenarth:

yma fanylion cyfleusterau’r orsaf newydd ym Mhenarth:

• Adnewyddu 4 sgrin Gwybodaeth i Gwsmeriaid

• Adnewyddu 2 bwynt Cymorth • Adnewyddu offer Annerch y Cyhoedd

• 3 pheiriant newydd ar gyfer dilysu tocynnau

• Uwchraddio seddi

• 16 rac beic dan orchudd (newydd)

• Uwchraddio’r system teledu cylch cyfyng a’r goleuadau

• Ailwampio’r Ystafell Aros • Ailwampio ‘golau’ lloches

• Peintio, ailwampio’n gyffredinol a mân welliannau

Mae croeso i chi gysylltu â Trafnidiaeth Cymru os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru