TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Metro De Cymru
Metro De Cymru
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2019
Diolch i chi am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar 2 Hydref 2019. Roeddech wedi gofyn am yr wybodaeth ganlynol:
- ar ba Awdurdodau Lleol yng Nghymru y bydd cynigion Metro De Cymru yn effeithio?
- ar ba gam y mae’r prosiect, a beth sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd fel rhan o’r cynllun? Rwyf wedi ceisio defnyddio’r wybodaeth sydd ar gael ar-lein i gael gwybod hynny, ond byddai’n fuddiol dros ben petaech chi’n gallu rhoi unrhyw ddiweddariadau pellach
- manylion unrhyw estyniadau arfaethedig, a’u lleoliad
Rwy’n ysgrifennu atoch i gadarnhau bod eich cais wedi cael ei ystyried o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf), bod Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cwblhau’r broses o chwilio am yr wybodaeth, a bod ganddo’r wybodaeth roeddech wedi gofyn amdani.
1. ar ba Awdurdodau Lleol yng Nghymru y bydd cynigion Metro De Cymru yn effeithio?
Bydd prosiect Metro De Cymru yn effeithio’n bennaf ar y 10 awdurdod lleol sy’n rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy a Thorfaen).
2. Ar ba gam y mae’r prosiect, a beth sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd fel rhan o’r cynllun?
Ym mis Mehefin 2018, cafodd Partner Datblygu a Gweithredu ei benodi gan Trafnidiaeth Cymru i’n helpu i adeiladu Metro De Cymru, ac mae’r prosiect ar gam cynnar yn ei ddatblygiad. Er ein bod wrthi’n cwblhau dyluniad manwl Metro De Cymru ar hyn o bryd, mae’r gwaith wedi dechrau ar Ddepo Cynnal a Chadw'r Fflyd a Chanolfan Reoli’r Metro sydd werth £100 miliwn yn Ffynnon Taf, yn ogystal â’n Canolfan Rheoli Seilwaith yn Nhrefforest.
Ar ôl i ni gwblhau’r broses o drosglwyddo perchnogaeth llinellau craidd y Cymoedd (y rheilffyrdd i Aberdâr, Coryton, Merthyr Tudful, Rhymni a Threherbert) o ddwylo Network Rail i Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2020, rydym yn bwriadu dechrau uwchraddio’r rheilffyrdd yma o fis Mawrth 2020 ymlaen.
Mae’n bosib y bydd y dolenni canlynol yn ddefnyddiol i chi:
https://newyddion.trc.cymru/newyddion/gwneud-lle-i-fetro-de-cymru
https://trc.cymru/amdanom-ni/beth-syn-digwydd/yn-ne-ddwyrain-cymru
https://trc.cymru/prosiectau/metro/metro-de-cymru
3. Manylion unrhyw estyniadau arfaethedig, a’u lleoliad
Cynigir estyniad i gangen Bae Caerdydd fel rhan o’r cam yma yn y broses gyflawni. Mae’r system yn cael ei dylunio i fod yn aml-foddol ac yn un y gellir ei hymestyn, a fydd yn golygu bod estyniadau ychwanegol yn bosib yn y dyfodol.
Yn gywir
Trafnidiaeth Cymru