TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Peiriant Tocynnau y Tyllgoed

Submitted by Content Publisher on

Peiriant Tocynnau y Tyllgoed

Dyddiad cyhoeddi: 06 Medi 2019

Diolch i chi am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar 09 Gorffennaf 2019. Roeddech wedi gofyn am yr wybodaeth ganlynol:

ers faint mae’r peiriant tocynnau wedi cael ei dynnu o orsaf y Tyllgoed? Yn benodol, rwy’n awyddus i gael gwybod beth oedd ei statws ar 01/07/19?

Gallwn gadarnhau bod gennym ni’r wybodaeth roeddech wedi gofyn amdani.

Cafodd y ddau Beiriant Prynu Tocynnau yn y Tyllgoed eu tynnu oddi yno gan Trenau Arriva Cymru, cyn-ddeiliad masnachfraint rheilffordd Cymru a’r Gororau yn 2017, oherwydd eu bod wedi cael eu fandaleiddio.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu gosod peiriannau newydd ar gyfer prynu tocynnau yng ngorsaf y Tyllgoed yn 2020. Bydd y rhain yn fwy solet, ac wedi cael eu dewis oherwydd eu gallu i wrthsefyll fandaliaeth yn well. 

Os hoffech gael gwybodaeth ychwanegol, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru