TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Pennaeth Materion Allanol

Submitted by positiveUser on

Pennaeth Materion Allanol Gwasanaethau Rheilffordd TrC

Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2019

Rwy'n ysgrifennu atoch mewn ymateb i'ch cais Rhyddid Gwybodaeth ynghylch Pennaeth Materion Allanol Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru.

Mae eich cais wedi'i ystyried yn unol â gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'n polisi mynediad at wybodaeth. Gallaf gadarnhau bod gennym y wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Fe wnaethoch chi ofyn am:

Fanylion y swydd ddisgrifiad, manylion yr hysbyseb gyhoeddus, a'r broses a ddefnyddiwyd i lenwi rôl Pennaeth Materion Allanol Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru.

Ers Tachwedd 2018, mae ymgynghorydd wedi darparu gwasanaethau i Wasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru mewn perthynas â rôl y Pennaeth Materion Allanol. Darperir y gwasanaethau hyn ar sail ran-amser, interim gan fod y Pennaeth Materion Allanol blaenorol ar secondiad.

Mae'r trefniadau interim hyn yn darparu'r sylw angenrheidiol i Wasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru ar gyfer rôl sy'n hanfodol i fusnes a byddant yn parhau hyd nes y bydd proses recriwtio, a fydd yn anelu at lenwi rôl y Pennaeth Materion Allanol ar sail tymor hwy, wedi'i chwblhau.

Mae Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru wrthi'n datblygu'r broses recriwtio ar gyfer y rôl hon. Unwaith y bydd y broses wedi'i chwblhau, caiff y rôl ei hysbysebu.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â mi.

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru