TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Postio uniongyrchol a defnyddio

Submitted by Content Publisher on

Postio uniongyrchol a defnyddio Trenau Cyflym Iawn (HST)

Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2019

Rwy'n ysgrifennu mewn ymateb i'ch cais Rhyddid Gwybodaeth am ddefnydd Trafnidiaeth Cymru o bostio uniongyrchol a gweithredu Trenau Cyflym Iawn (HST).

Mae eich cais wedi'i ystyried yn unol â gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'n polisi mynediad at wybodaeth. Gallaf gadarnhau bod gennym y wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Fe wnaethoch chi ofyn:

  • petaech chi'n cofrestru gyda Trafnidiaeth Cymru a fyddech chi'n derbyn unrhyw lythyrau i'ch tŷ?
  • a fydd yna Drenau Cyflym Iawn (HSTs) yn rhedeg ar y lein?

Post uniongyrchol

Dim ond pan fyddwn wedi cael caniatâd y bydd Trafnidiaeth Cymru yn anfon post uniongyrchol.

Defnyddiwn y geiriad canlynol i alluogi optio i mewn neu allan o bostio uniongyrchol: "Hoffwn dderbyn cyfathrebiadau marchnata gan Keolis Amey Operations / Gweithrediadau Keolis Amey Limited (KA) (yn gweithredu fel Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru) ac rydw i wedi darllen polisi preifatrwydd KA". 

Yn y feddalwedd archebu dyma'r geiriad a ddefnyddir:

  • “Hoffem anfon gwybodaeth atoch trwy e-bost am docynnau trên gostyngol, cynigion, syniadau am gyrchfannau a chystadlaethau”; ac
  • “unwaith y byddwch wedi cofrestru cyfrif gallwch newid y ffordd rydym yn cysylltu â chi yn eich dewisiadau cyfrif ac optio allan o farchnata ar unrhyw adeg”.

Os yw cwsmer yn prynu tocyn gan Wasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru ac yn gofyn am i'r tocynnau gael eu postio yn hytrach na'u casglu yn yr orsaf neu eu darparu'n electronig, yna byddem yn cyflawni'r cais hwn waeth beth fo'r statws optio i mewn er mwyn cwblhau'r cais.

Os oes budd cyfreithlon, mae'n bosibl y bydd Trafnidiaeth Cymru yn cysylltu â chwsmeriaid o bryd i'w gilydd drwy'r post lle nad oes gennym ganiatâd penodol neu eu bod wedi optio i mewn. Gall budd cyfreithlon fod yn berthnasol, er enghraifft, os ydych yn byw o fewn pellter penodol i linell neu orsaf lle mae gwaith cynnal a chadw dros nos wedi'i gynllunio a allai, o bosibl, darfu arnoch. Yn y fath amgylchiadau, mae'n bosibl y gallai TrC ysgrifennu atoch fel rhywun sy'n byw yn ymyl llinell i roi gwybod i chi bod y gwaith yn digwydd ac am ba hyd ac ati.

Gweithredu Trenau Cyflym Iawn (HST)

Ystyriodd Trafnidiaeth Cymru'r defnydd o Drenau Cyflym Iawn (HSTs) rai misoedd yn ôl fel un o nifer o opsiynau i ddarparu capasiti ychwanegol tymor byr i'r rhwydwaith. Am nifer o resymau gweithredol cafodd hyn ei ddiystyru ac nid yw'n cael ei ystyried ar hyn o bryd. Yn hytrach, cyflwynwyd capasiti ychwanegol ar ffurf dau set o drenau dosbarth 37 a dynnir gan locomotif ar linell Rhymni.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â Trafnidiaeth Cymru.

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru