TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Proffil cymhorthdal

Submitted by positiveUser on

Proffil cymhorthdal Trafnidiaeth Cymru

Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2019

Diolch am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth dyddiedig 12 Gorffennaf 2019. Fe wnaethoch chi ofyn am y wybodaeth a ganlyn:

Manylion y proffil cymhorthdal a dalwyd i Keolis Amey Wales, sy'n masnachu fel Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru ar gyfer gweithredu masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.

Ysgrifennaf atoch i gadarnhau bod eich cais wedi'i ystyried o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf) a bod Trafnidiaeth Cymru wedi cwblhau ei chwiliad am y wybodaeth.

Mae'r wybodaeth y gofynnoch amdani ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19 wedi'i hamserlennu i'w chyhoeddi ym mis Hydref eleni yn y ddolen isod. Felly, mae'r wybodaeth yn cael ei hatal ar hyn o bryd gan ddibynnu ar yr esemptiad yn adran 22 y Ddeddf sy'n cynnwys gwybodaeth y bwriedir ei chyhoeddi yn y dyfodol. Mae Atodiad A i'r llythyr hwn yn nodi'r esemptiad yn llawn a manylion pam mae prawf lles y cyhoedd o blaid atal yr wybodaeth ar hyn o bryd.

https://dataportal.orr.gov.uk/statistics/finance/rail-industry-finance/table-7273-government-subsidy-by-franchised-passenger-operator-up-to-2018-19/

Fe'ch hysbysir bod gwybodaeth sy'n ymwneud â thaliadau a gontractir yn y dyfodol ar gyfer masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau sy'n cael ei rhedeg gan Wasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru yn cael ei dal yn ôl gan ddibynnu ar yr esemptiad yn adran 44 (gwaharddiadau ar ddatgelu) y Ddeddf. Mae adran 44 yn darparu esemptiad absoliwt pan fo datgelu'r wybodaeth wedi ei "wahardd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad.” Y deddfiad perthnasol yma yw adran 145 Deddf Rheilffyrdd 1993, sy'n gwahardd datgelu gwybodaeth sydd "(a) wedi'i sicrhau o dan neu yn rhinwedd unrhyw un o ddarpariaethau'r Ddeddf hon; a (b) sy'n ymwneud â materion unrhyw unigolyn neu ag unrhyw fusnes penodol.” Mae'r wybodaeth “wedi ei chael o dan neu yn rhinwedd unrhyw rai o ddarpariaethau'r Ddeddf hon,” gan gynnwys adrannau 23 i 31 y Ddeddf Rheilffyrdd. Mae'r adrannau hyn yn pennu dyletswyddau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â'r system fasnachfreinio rheilffyrdd a'r gofynion y gall y cwmni/cwmnïau sydd â'r fasnachfraint rheilffyrdd fod yn ddarostyngedig iddynt o dan eu cytundebau masnachfraint. Gan fod y wybodaeth wedi'i gwahardd rhag cael ei datgelu o dan adran 145 Deddf Rheilffyrdd 1993, mae hefyd wedi'i heithrio rhag cael ei datgelu o dan adran 44(1)(a) Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â Trafnidiaeth Cymru.

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru

Atodiad A

S22 Gwybodaeth y bwriedir ei chyhoeddi yn y dyfodol

(1) Mae gwybodaeth yn wybodaeth eithriedig -

(a) os yw'r wybodaeth yn cael ei chadw gan yr awdurdod cyhoeddus gyda golwg ar ei chyhoeddi, gan yr awdurdod neu unrhyw berson arall, ar ddyddiad yn y dyfodol (p'un a bennwyd y dyddiad ai peidio),

(b) os yw'r wybodaeth eisoes wedi'i chadw gyda'r bwriad o'i chyhoeddi ar yr adeg y gwnaed y cais am wybodaeth, a

(c) os yw'n rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i'r wybodaeth gael ei hatal rhag cael ei datgelu tan y dyddiad y cyfeirir ati ym mharagraff (a).

(2) Nid yw'r ddyletswydd i gadarnhau neu wadu yn codi os, neu i'r graddau y byddai cydymffurfiaeth ag adran 1(1)(a) yn golygu datgelu unrhyw wybodaeth (p'un ai wedi ei chofnodi eisoes ai peidio) sy'n dod o fewn isadran (1).

 

Ffactorau ar gyfer datgelu

- lles y cyhoedd yn gyffredinol o'i datgelu ar gyfer craffu a thryloywder penderfyniadau Trafnidiaeth Cymru sy'n ymwneud â chaffael cyhoeddus.

- Gweinidog Cymru yn hyrwyddo'r ddelfryd y dylai gwybodaeth gael ei gwneud yn gyhoeddus yn hytrach na pheidio, ac y dylai awdurdodau cyhoeddus Cymru fod yn fwy tryloyw.

- gallai datgelu'r wybodaeth helpu i ganiatáu i'r unigolyn dan sylw, neu'r cyhoedd yn gyffredinol, ddeall y broses o wneud penderfyniadau a gyflawnir gan awdurdodau cyhoeddus.

 

Ffactorau yn erbyn datgelu

- er mwyn i Trafnidiaeth Cymru allu cyflawni ei rôl yn effeithiol, rhaid i'w chontractwyr fel Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru deimlo y gallant ddatgelu gwybodaeth fasnachol i Trafnidiaeth Cymru heb risg y datgelir yr wybodaeth hon i'r cyhoedd neu gystadleuwyr yn gynamserol.

- Mae'n bwysig bod Trafnidiaeth Cymru yn gallu ymgynghori â'i chontractwyr ynglŷn â'r wybodaeth cyn iddi gael ei chyhoeddi. Os nad oes gan gontractwyr yr hyder y bydd Trafnidiaeth Cymru yn diogelu gwybodaeth a ystyrir yn fasnachol sensitif, byddent yn fwy tebygol o fod yn gyndyn i ddarparu gwybodaeth nad oes rheidrwydd arnynt ei darparu, o dan delerau'r Cytundeb Grant gyda Gweinidogion Cymru fel y'u rheolir gan Trafnidiaeth Cymru.

- bydd cyhoeddi'r wybodaeth ariannol am y tro cyntaf ar wefan Y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd yn caniatáu i bawb ei gweld ar yr un pryd a darparu dull clir a chyson o weithredu.

- byddai'n well bod amser staff TrC yn cael ei dreulio ar baratoi a gwirio'r wybodaeth yn barod i'w chyhoeddi yn hytrach na delio â cheisiadau tameidiog ac osgoi camddehongli a dryswch

 

Penderfyniad

Mae'r wybodaeth ariannol rydych wedi gofyn amdani yn cael ei dal yn ôl ar yr adeg hon gan mai'r bwriad yw ei chyhoeddi yn y dyfodol. Ar y cyfan, mae lles y cyhoedd o ddal y wybodaeth hon yn ôl nes bod cyhoeddiad ffurfiol yn drech na’r ddadl dros ddatgelu nawr.