TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - rheoli gwastraff

Submitted by Content Publisher on

Gwastraff a phlastig ar wasanaethau TrC

Rwy'n ysgrifennu mewn ymateb i'ch cais Rhyddid Gwybodaeth ar wasanaethau gwastraff a phlastig ar wasanaethau TrC. 

Fe wnaethoch chi ofyn:

  • Sawl tunnell o wastraff sy'n cael ei gynhyrchu ar wasanaethau TrC bob blwyddyn?
  • O hyn, faint sy'n cael ei ailgylchu?
  • Pa ganran o'r nwyddau a werthir ar wasanaethau TrC sydd wedi'u pecynnu naill ai'n rhannol neu'n gyfan gwbl mewn plastig untro?
  • Faint o elw Mae TrC yn ei wneud o werthu nwyddau ar ei wasanaethau (heb gynnwys tocynnau)

Dylech hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth arall sydd ar gael a fyddai yn eich tyb chi'n berthnasol i'r cwestiynau hyn.

Mae data a ddarparwyd gan gyflenwr rheoli gwastraff Gwasanaethau Rheilffordd TrC, Biffa, yn nodi, ar gyfer y cyfnod 1 Tachwedd 2017 i 31 Hydref 2018, bod gwasanaethau TrC wedi cynhyrchu 1352 tunnell o wastraff. Mae'r holl ddata cyn 13 Hydref 2018 yn ymwneud â Threnau Arriva Cymru.

Y gyfradd ailgylchu gyfartalog dros y cyfnod oedd 25%, gyda gwaredu gwastraff i ynni yn 38%.

Ar hyn o bryd, nid oes gennym y wybodaeth y gofynnwyd amdani ar ganran y nwyddau a werthir ar wasanaethau TrC sydd wedi'u pecynnu naill ai'n rhannol neu'n gyfan gwbl mewn plastig untro.

Mae gwerthu nwyddau a gwasanaethau ar y trenau yn wasanaeth a gontractir allan a reolir gan Rail Gourmet sy'n gost net i Wasanaethau Rheilffordd TrC. 

Cofion gorau

Jeremy Morgan