TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Seilwaith a Penarth

Submitted by Content Publisher on

Seilwaith a Penarth

Dyddiad cyhoeddi: 28 Awst 2019

Diolch i chi am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar 08 Awst 2019. Roeddech wedi gofyn am yr wybodaeth ganlynol:

  • Pryd bydd Gorsaf Bae Caerdydd yn cau?

  • Pryd bydd gorsaf Gilfach Fargoed yn cau?

  • Ydy’r estyniad ar gyfer Greyfriars Road wedi cael ei ddiystyru'n llwyr nawr ers i’r ODP gael ei lofnodi?

  • Allwch chi roi amserlen ar gyfer pryd mae Trafnidiaeth Cymru/Network Rail yn bwriadu dyblu Cangen Penarth, fel y gwelir ar fap datblygiadau Trafnidiaeth Cymru a ddarparwyd ganddo’n ddiweddar, ac a gyhoeddwyd ar wefan ORR?

  • Yn dilyn yr ymateb i Vaughan Gething, allwch chi ddweud beth yw nifer cyfartalog y teithwyr bob wythnos a faint o bobl sy’n teithio ar hyd rheilffordd Penarth yn y bore a’r prynhawn ar hyn o bryd, ynghyd â’r amcanestyniad ar gyfer cyfnod y fasnachfraint?

  • Allwch chi roi gwybodaeth am ffurfiannau’r trenau ar gyfer gwasanaethau Penarth yn ystod cyfnodau prysuraf y bore a chyfnodau prysuraf y prynhawn ym mis Gorffennaf (e.e. amser y gwasanaeth gyda nifer yr unedau a’r math o drên (Class)?

Mae eich cais wedi cael ei ystyried yn unol â gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Gallwn gadarnhau bod gennym ni rywfaint o’r wybodaeth rydych yn gofyn amdani.

1. Cau gorsaf Bae Caerdydd

Bydd gorsaf dros dro wedi cael ei gosod yn lle gorsaf bresennol Bae Caerdydd erbyn mis Rhagfyr 2022, er mwyn hwyluso’r broses o ailalinio cledrau dwbl a chreu estyniad ar gyfer gorsaf newydd yn Flourish erbyn diwedd 2023, i baratoi at yr amserlen newydd ym mis Rhagfyr 2023. Bydd yr orsaf dros dro yn cau ar ôl i orsaf Flourish a gorsaf newydd Sgwâr Loudon agor.

Er y bydd y gwaith adeiladu yn amharu rhywfaint ar deithwyr a’r cyhoedd, bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r diweddaraf ac yn darparu ffyrdd eraill o deithio ar yr adegau hynny. Mae TrC yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd i integreiddio cynigion y cyngor yn y dyfodol yn ardal Bae Caerdydd, a allai arwain at newidiadau i’r amserlen arfaethedig.

2. Pryd bydd gorsaf Gilfach Fargoed yn cau?

Mae TrC yn aros am adborth gan Lywodraeth Cymru ynghylch cau gorsaf Gilfach Fargoed. Mae ein modelau amserlenni a’n cynlluniau ar hyn o bryd wedi’u seilio ar gau’r orsaf erbyn 2023 er mwyn paratoi at yr amserlen newydd ym mis Rhagfyr 2023.

3. Ydy’r estyniad ar gyfer Greyfriars Road wedi cael ei ddiystyru'n llwyr nawr ers i’r ODP gael ei lofnodi?

Mae’r Cytundeb Grant yn cynnwys pedwar opsiwn o ran estyniad. Mae estyniad Greyfriars Road yn dal yn opsiwn, ond yn sgil datblygiadau sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd, dydy’r llwybr a gynigiwyd ddim yn ymarferol erbyn hyn. Bydd y gwaith dylunio rhagarweiniol ar gyfer Cam C yn dechrau ym mis Medi 2019, ac felly dydy’r opsiwn estyniad ddim wedi cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

4. Allwch chi roi amserlen ar gyfer pryd mae Trafnidiaeth Cymru/Network Rail yn bwriadu dyblu Cangen Penarth, fel y gwelir ar fap datblygiadau Trafnidiaeth Cymru a ddarparwyd ganddo’n ddiweddar, ac a gyhoeddwyd ar wefan ORR?

Bydd y cam dylunio rhagarweiniol ar gyfer dyblu Cangen Penarth yn dechrau ym mis Ionawr 2020. Un rheilffordd sydd ym Mhenarth ar hyn o bryd, ac mae’n cael ei galw’n Rheilffordd Cangen. Mae ail reilffordd ar y gweill, a bydd yn rhedeg yn gyfochrog â’r llinell bresennol am tua 1,120 o fetrau. Y rheilffordd newydd yma fydd y brif reilffordd am i lawr. Fydd platfform y brif reilffordd newydd am i lawr ddim yn gyfochrog â phlatfform y rheilffordd cangen bresennol oherwydd topograffi’r safle. Bydd y rheilffordd Cangen sy’n bodoli’n barod yn newid i fod yn brif reilffordd am i fyny, oherwydd bydd dwy reilffordd ar ôl y gwaith adeiladu. Nid oes bwriad i ymestyn y byffer stopio ym Mhenarth.

Bydd ail blatfform newydd, 120 o fetrau, yn cael ei adeiladu ar ochr y rheilffordd am i lawr. Y cynnig gwreiddiol oedd cael grisiau i lawr i’r platfform newydd o Bont Stanwell. Ond, ar ôl ymweld â’r safle, rydym yn credu bod ramp yn bosib ar gyfer pobl ag anawsterau o ran symudedd. Bydd mynediad gwastad yn galluogi’r teithwyr i fynd ar y trên heb orfod camu i fyny nac i lawr.

5. Yn dilyn yr ymateb i Vaughan Gething, allwch chi ddweud beth yw nifer cyfartalog y teithwyr bob wythnos a faint o bobl sy’n teithio ar hyd rheilffordd Penarth yn y bore a’r prynhawn ar hyn o bryd, ynghyd â’r amcanestyniad ar gyfer cyfnod y fasnachfraint?

Yn anffodus, ni allwn roi’r wybodaeth hon i chi gan ei bod yn dod o dan adran 43(2) o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Mae’r adran yma’n eithrio gwybodaeth os byddai ei datgelu o dan y Ddeddf hon yn niweidio buddiannau masnachol unrhyw berson (gan gynnwys yr awdurdod cyhoeddus sy’n dal yr wybodaeth), neu os byddai ei datgelu yn debygol o wneud hynny. Mae gwybodaeth sy’n ymwneud â niferoedd teithwyr ar hyn o bryd, neu amcanestyniad o’r niferoedd hynny, yn cael ei hystyried yn wybodaeth esempt dan adran 43(2) o’r Ddeddf.

Mae Adran 43(2) yn eithrio gwybodaeth os byddai ei datgelu yn debygol o niweidio buddiannau masnachol unrhyw berson (gan gynnwys yr awdurdod cyhoeddus sy’n dal yr wybodaeth). Mae Adran 43(2) yn eithriad wedi’i gymhwyso, ac mae’n rhaid i ni gynnal prawf budd y cyhoedd wrth roi unrhyw eithriad wedi’i gymhwyso ar waith. Felly, ar ôl penderfynu bod yr eithriad yn berthnasol, rhaid ystyried y budd i’r cyhoedd petai’r wybodaeth yn cael ei rhyddhau. Os byddai’n fwy buddiol i’r cyhoedd petai’r wybodaeth yn cael ei datgelu yn hytrach na’i bod yn cael ei dal yn ôl, ni fydd yr eithriad yn berthnasol a rhaid rhyddhau’r wybodaeth. Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cynnwys rhagdybiaeth y dylid rhyddhau gwybodaeth oni bai fod rhesymau cadarn dros ei dal yn ôl.

Roedd yr ystyriaethau o blaid rhyddhau’r wybodaeth yn cynnwys ymrwymiad Trafnidiaeth Cymru i fod yn agored ac yn dryloyw yn ei weithgareddau masnachol, rhoi cyfle i’r cyhoedd graffu ar hynny, a dangos bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd effeithlon ac effeithiol. Hefyd, mae cwmnïau yn y sector preifat sy’n ymwneud â gweithgareddau masnachol yn y sector cyhoeddus yn gorfod disgwyl y bydd rhywfaint o wybodaeth yn cael ei datgelu am y gweithgareddau hynny.

Roedd yr ystyriaethau yn erbyn rhyddhau’r wybodaeth yn cynnwys cydnabod y gallai’r data gael ei ddefnyddio gan gystadleuwyr yn sgil cael ei datgelu. Gallai hynny effeithio ar safle cystadleuol y cyflenwr yn y farchnad berthnasol, ac ar ffydd ei gwsmeriaid, ei gyflenwyr neu ei fuddsoddwyr yn ei weithrediadau masnachol. Rhaid i Trafnidiaeth Cymru gynnal hyder masnachol ei gontractwyr, a phenderfynwyd y byddai rhyddhau’r wybodaeth yma’n gallu peryglu’r hyder masnachol hwn.

6. Allwch chi roi gwybodaeth am ffurfiannau’r trenau ar gyfer gwasanaethau Penarth yn ystod cyfnodau prysuraf y bore a chyfnodau prysuraf y prynhawn ym mis Gorffennaf (e.e. amser y gwasanaeth gyda nifer yr unedau a’r math o drên (Class)?

Mae’r daenlen sydd wedi’i hatodi yn cynnwys yr wybodaeth roeddech wedi gofyn amdani.

Mae croeso i chi gysylltu â Trafnidiaeth Cymru os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru