TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Siartiau Trefniadaeth ac Uwch Reolwr Rhanddeiliaid

Submitted by positiveUser on

Siartiau Trefniadaeth TrC ac Uwch Reolwr Rhanddeiliaid Rheilffyrdd

Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2019

Rwy'n ysgrifennu mewn ymateb i'ch cais Rhyddid Gwybodaeth ynglŷn â Siartiau Trefniadaeth Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru ac Uwch Reolwr Rhanddeiliaid Rheilffyrdd.

Mae eich cais wedi'i ystyried yn unol â gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'n polisi mynediad at wybodaeth. Gallaf gadarnhau bod gennym y wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Fe wnaethoch chi ofyn am y canlynol:

• strwythur y sefydliad wedi'i arddangos ar ffurf diagram; a'r

• hysbyseb swydd wreiddiol a'r disgrifiad swydd, ac os yw'n briodol, manylion y broses benodi ar gyfer swydd yr Uwch Reolwr Rhanddeiliaid Rheilffyrdd.

Mae'r siart trefniadaeth gyfredol ynghlwm. Mae rhai o'r swyddi yn wag ar hyn o bryd tra bod eraill wedi'u llenwi dros dro neu drwy secondiad.

O ran swydd yr Uwch Reolwr Rhanddeiliaid Rheilffyrdd, cafwyd ceisiadau gan ymgeiswyr am rôl Rheolwr Rhanddeiliaid y Rheilffyrdd drwy broses hysbysebu allanol a reolir gan ein partneriaid recriwtio (TMP Worldwide). Gwahoddwyd yr ymgeiswyr a fu'n llwyddiannus yn y cam sifftio i gyfweliad yn seiliedig ar asesiad o'u gwybodaeth, eu sgiliau a'u profiad yn erbyn y disgrifiad swydd. Gwahoddwyd saith ymgeisydd a derbyniodd pob un y gwahoddiad i gyfweliad.

Atodir y disgrifiad swydd gwreiddiol a hysbysebwyd.

Cynigiodd yr ymgeisydd llwyddiannus y dylai'r rôl gael ei galw'n Uwch Reolwr Rhanddeiliaid Rheilffyrdd i ddangos datblygiad gyrfa o'i swydd flaenorol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â Trafnidiaeth Cymru.

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru