TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Sŵn trenau yn Llandaf

Submitted by Content Publisher on

Sŵn trenau yn Llandaf

Dyddiad cyhoeddi: 7 Hydref 2019

Diolch i chi am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar 2 Hydref 2019. Roeddech wedi gofyn am yr wybodaeth ganlynol:

Cyflwynwch y manylion llawn ynghylch terfyn cyflymder uchaf yr HOLL drenau a ganiateir ar Linellau Craidd y Cymoedd rhwng Radur a Llandaf, ac unrhyw achos yn ddiweddar o ostwng y terfyn cyflymder uchaf, yn ogystal ag unrhyw gynlluniau i ostwng y cyflymder yn y dyfodol.

Yn benodol, rwy’n gofyn am y cyflymder uchaf a ganiateir gan Network Rail wrth ddynesu at yr orsaf, gan gynnwys y cyfyngiad oherwydd bod y trac yn crymu cyn pont reilffordd Ty Mawr Road.

Rwy’n ysgrifennu atoch i gadarnhau bod eich cais wedi cael ei ystyried o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf), bod Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cwblhau’r broses o chwilio am yr wybodaeth, a bod ganddo’r wybodaeth roeddech wedi gofyn amdani. 

Mae’r data isod yn seiliedig ar yr wybodaeth mae Network Rail yn ei rhoi i yrwyr trenau. Network Rail sy’n berchen ar seilwaith Llinellau Craidd y Cymoedd, ac yn rheoli cyflymder y rheilffordd.

Mae Gorsaf Radur ar bwynt 05 32 milltir a chadwyn (mae 1 Gadwyn yn 22 llathen, ac mae 80 Cadwyn yn filltir). Y cyflymder uchaf ar gyfer ein holl drenau sy’n teithio drwy orsaf Radur ar hyd rheilffordd Llandaf am i lawr yw 60 milltir yr awr. Mae’r cyflymder yn newid i 65 milltir yr awr ar bwynt 05 09 milltir a chadwyn. Mae tanbont Ty Mawr Rd ar bwynt 04 42 milltir a chadwyn. Mae’r cyflymder uchaf yn newid i 60 milltir yr awr ar bwynt 04 33 milltir a chadwyn. Mae gorsaf Llandaf ar bwynt 04 27 milltir a chadwyn.

Dyma’r cyflymder ar y rheilffordd am i fyny wrth ddynesu at orsaf Llandaf o Cathays:

  • 50 milltir yr awr ar bwynt 04 03 milltir a chadwyn (gan arafu ar gyfer yr orsaf er mwyn sicrhau na fydd y trên byth yn cyrraedd 60 milltir yr awr ar y rhan sy’n dilyn wrth gario teithwyr)
  • 60 milltir yr awr ar bwynt 04 20 milltir a chadwyn
  • Mae gorsaf Llandaf ar bwynt 04 27 milltir a chadwyn
  • 70 milltir yr awr ar bwynt 04 32 milltir a chadwyn
  • 50 milltir yr awr ar bwynt 05 15 milltir a chadwyn
  • 60 milltir yr awr ar bwynt 05 28 milltir a chadwyn
  • 20 milltir yr awr ar bwynt 05 23 milltir a chadwyn (os yw’r trên yn dod i mewn i blatfform 2)
  • Mae Gorsaf Radur ar bwynt 05 32 milltir a chadwyn.

Nid ydym yn cadw unrhyw wybodaeth ynghylch a yw Network Rail yn bwriadu newid unrhyw gyflymderau uchaf yn y dyfodol.

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru