TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Swyddfa Pontypridd

Submitted by positiveUser on

Addasu swyddfa Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd

Dyddiad cyhoeddi: 16 Medi 2019

Diolch i chi am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar 10 Medi 2019. Roeddech wedi gofyn am yr wybodaeth ganlynol:

1. Faint o aelodau staff rydych chi’n disgwyl a fydd yn cael eu symud i Bontypridd?

2. Oes unrhyw asesiad wedi cael ei gynnal o ganran y staff sy’n debygol o deithio mewn car - os oes, beth gafodd ei ddatgelu yn yr asesiad hwnnw?

3. Pa drefniadau sydd wedi cael eu gwneud / yn cael eu gwneud i ddarparu llefydd parcio yn y safle newydd?

Rwy’n ysgrifennu atoch i gadarnhau bod eich cais wedi cael ei ystyried o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf), bod Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cwblhau’r broses o chwilio am yr wybodaeth, a bod ganddo’r wybodaeth roeddech wedi gofyn amdani. Mae’r wybodaeth wedi cael ei nodi isod:

1. Faint o aelodau staff rydych chi’n disgwyl a fydd yn cael eu symud i Bontypridd?

Bydd prif swyddfa TrC yn symud o Gaerdydd i Bontypridd yn ystod Hydref 2020. Dyma’r staff sy’n gweithio yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, a fydd yn symud i’r swyddfa newydd ym Mhontypridd:

  • Timau TrC - tua 180
  • Timau Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC - tua 130
  • Timau Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, a fydd yn symud o Lywodraeth Cymru i weithio i TrC yn 2020 - tua 80

2. Oes unrhyw asesiad wedi cael ei gynnal o ganran y staff sy’n debygol o deithio mewn car - os oes, beth gafodd ei ddatgelu yn yr asesiad hwnnw?

Nid oes unrhyw asesiad wedi cael ei gynnal hyd yma i weld pa ganran o staff TrC fydd yn teithio i Bontypridd mewn car. Nid oes gan TrC unrhyw wybodaeth ynghylch unrhyw asesiadau sydd wedi cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru.

3. Pa drefniadau sydd wedi cael eu gwneud / yn cael eu gwneud i ddarparu llefydd parcio yn y safle newydd?

Bydd 30 o lefydd parcio ar gael yn y swyddfa newydd ym Mhontypridd. Bydd ymwelwyr, staff anabl a cherbydau gwaith yn cael blaenoriaeth. Dydyn ni ddim wedi penderfynu ar nifer y llefydd parcio ar gyfer staff eto.

Mae meysydd parcio cyhoeddus ar gael gerllaw. Mae TrC wedi dechrau ymchwilio i gostau parcio blynyddol yn y meysydd parcio hynny, i sicrhau bod yr wybodaeth yma ar gael i’r staff cyn symud er mwyn eu helpu i gynllunio sut byddan nhw’n teithio yno.

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru