TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - systemau meddalwedd

Submitted by Content Publisher on

Systemau meddalwedd

Dyddiad cyhoeddi: 06 Chwefror 2019

Rwy'n ysgrifennu mewn ymateb i'ch cais Rhyddid Gwybodaeth ar systemau meddalwedd.

Fe wnaethoch chi ofyn:

Pa systemau meddalwedd a ddefnyddir gan y Cyngor ar hyn o bryd (Nodwch bob system os defnyddir mwy nag un) ar gyfer:

  • Rheoli rhaglenni a/neu brosiectau?
  • Cofnodi ac adrodd ar Reoli Risg
  • Adrodd ar Reoli Perfformiad
  • Cofnodi ac olrhain Rhyddid Gwybodaeth

2. Pryd fydd y contractau'n dod i ben ar gyfer pob system feddalwedd a ddefnyddir?

3. A oes gennych unrhyw gynlluniau arfaethedig i newid neu uwchraddio'r feddalwedd a ddefnyddir ar hyn o bryd? Os felly, pryd?

4. Faint mae pob system yn ei gostio gan gynnwys ffi gychwynnol y drwydded a'r tâl blynyddol?

5. Os nad oes gennych system, sut y caiff rhaglenni a phrosiectau eu rheoli ar hyn o bryd?

6. Sut (pa lwybr neu fframwaith caffael) y cafodd y contract ei dendro yn y lle cyntaf a phryd y dyfarnwyd y tendr hwn?

7. Os nad oes meddalwedd neu gontract wedi'i dendro ar waith ar hyn o bryd, ydych chi'n ystyried tendro neu brynu rhagor o feddalwedd o fewn y 12 mis nesaf? Os felly, pa lwybr neu fframwaith caffael y byddech yn ei ddefnyddio?

8. Faint o ddefnyddwyr/trwyddedau ar gyfer pob system rydych chi wedi'u prynu ar gyfer pob system?

9. Pwy yw'r sawl sy'n gyfrifol am y systemau meddalwedd a nodwyd? Rhowch enw llawn, teitl a manylion cyswllt os oes modd.

Gan nad yw Trafnidiaeth Cymru yn gyngor, fe ofynnon ni i chi ar 9 Ionawr 2019 i egluro a oedd y cais hwn am wybodaeth wedi'i fwriadu ar gyfer Trafnidiaeth Cymru.

Gan nad ydych wedi egluro a oedd y cais hwn wedi'i fwriadu ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, gallaf gadarnhau nad oes gennym wybodaeth gofnodedig y gofynnwyd amdani sy'n bodloni disgrifiad eich cais.

Cofion gorau