TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - tacsis

Submitted by positiveUser on

Costau tacsi

Rwy’n ysgrifennu atoch i ymateb i’r cais Rhyddid Gwybodaeth a wnaethoch ynglŷn â faint mae Trafnidiaeth Cymru a Threnau Arriva Cymru wedi ei wario ar dacsis i gwsmeriaid allu cwblhau eu teithiau ar gyfer pob blwyddyn ariannol, 2018-19 (hyd heddiw), 2017-18 a 2016-17.

Gallaf gadarnhau fod y gost i bwrs y wlad am y gwasanaethau hyn yn £0. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi talu costau pob taith tacsi ers 14 Hydref 2018. Mae Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg gwasanaethau trên Cymru a'r Gororau, ac mae’n fenter sy’n cael ei chynnal ar y cyd rhwng dau gwmni yn y sector preifat sef Keolis ac Amey. Nid yw’r cwmnïau hyn dan awdurdodaeth y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (2000). Trenau Arriva Cymru dalodd unrhyw gostau eraill o'r fath yn 2016-17, a’r cyfnod hyd at 13 Hydref 2018 yn ystod 2017-18. Yn debyg iawn, roedd Trenau Arriva hefyd yn gwmni sector preifat ac felly nid oedd dan awdurdodaeth y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Cyflwynwyd eich cais Rhyddid Gwybodaeth i Drafnidiaeth Cymru, cwmni dielw sydd dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru. Sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru i ddarparu cymorth ac arbenigedd i Lywodraeth Cymru ar brosiectau trafnidiaeth yng Nghymru. Trafnidiaeth Cymru sy’n rheoli’r Cytundeb Grant rhwng Llywodraeth Cymru a Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Felly, nid oes gan Trafnidiaeth Cymru’r wybodaeth y gwnaethoch gais amdani.

Os hoffech wneud cwyn am y modd y cafodd eich cais ei drin, ysgrifennwch at Jeremy Morgan, Swyddog Rhyddid Gwybodaeth, trwy e-bost i freedomofinformation@tfw.wales neu drwy’r post i Trafnidiaeth Cymru, Tŷ South Gate, Caerdydd, CF10 1EW.

Mae’n rhaid i mi hefyd eich cyfeirio at adran 50 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth lle gallwch ofyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth benderfynu a ydym wedi delio â’ch cais yn unol â’r Ddeddf ai peidio. Dyma fanylion y Comisiynydd Gwybodaeth:

Information Commissioner’s Office

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

Cheshire

SK9 5AF

e-bost: casework@ico.gsi.gov.uk

Ffôn: 01625 545745

Ffacs: 01625 524510

Ond, dylech nodi bod y Comisiynydd Gwybodaeth fel arfer yn disgwyl eich bod chi wedi dilyn ein prosesau cwyno mewnol cyn gwneud cais. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth: www.ico.org.uk

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â mi.

Yn gywir

Jeremy Morgan