TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - taliadau iawndal

Submitted by Content Publisher on

Taliadau iawndal Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru

Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2019

Rwy'n ysgrifennu mewn ymateb i'ch cais Rhyddid Gwybodaeth am daliadau iawndal Trafnidiaeth Cymru oherwydd oedi ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.

Mae eich cais wedi'i ystyried yn unol â gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'n polisi mynediad at wybodaeth. Gallaf gadarnhau bod gennym rywfaint o'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Fe wnaethoch chi ofyn:

  • faint o iawndal sydd wedi'i dalu i gymudwyr oherwydd oedi ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru; ac

  • os yw'n bosibl, a allwch ddarparu cyfanswm yr iawndal a dalwyd ym mhob mis am y 12 mis diwethaf, gan gynnwys Ionawr 2019 (hyd yma).

Dim ond o 14 Hydref 2018 ymlaen y mae data ar gyfer Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru ar gael. Trenau Arriva Cymru sy'n berchen ar ddata cyn y dyddiad hwn. Am ddata cyn y dyddiad hwn, cysylltwch yn uniongyrchol â Threnau Arriva Cymru.

Mae'r data wnaethoch chi ofyn amdano yn yr atodiad

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu os oes gennych gwestiynau ynghylch sut rydym ni wedi ymdrin â'ch cais, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Cofion gorau

Trafnidiaeth Cymru