TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Taliadau iawndal Mawrth 2019

Submitted by positiveUser on

Taliadau iawndal TrC

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2019

Ysgrifennaf atoch mewn ymateb i'ch cais Rhyddid Gwybodaeth ar 12 Chwefror 2019, ar yr iawndal a delir i gymudwyr oherwydd oedi ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.

Fe wnaethoch chi ofyn:

• A ydych chi'n gallu cadarnhau a yw'r wybodaeth hon ar gael wedi'i didoli'n iawndal a dalwyd am wasanaethau a ganslwyd ac iawndal a dalwyd am wasanaethau lle bu oedi?

• Hefyd, a oes ffordd o gael gafael ar y ffigurau ar gyfer dyddiadau cyn Hydref 14, pan oedd Trenau Arriva Cymru yn gweithredu?

Mae eich cais wedi'i ystyried yn unol â gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'n polisi mynediad at wybodaeth.

Gallaf gadarnhau nad oes gennym y wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Nid ydym yn gallu rhannu'r wybodaeth am daliadau iawndal ymhellach.

Nid oes gennym ychwaith wybodaeth sy'n ymwneud â dyddiadau cyn 14 Hydref, pan oedd Trenau Arriva Cymru yn gweithredu. Os hoffech gael y wybodaeth hon, byddwn yn awgrymu eich bod yn cysylltu ag Arriva UK:

Arriva plc

Admiral Way

Doxford International Business Park

Sunderland

SR3 3XP

Y Deyrnas Unedig

 

Ffôn: +44 (0)191 520 4000

E-bost: enquiries@arriva.co.uk

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu os oes gennych gwestiynau ynghylch sut rydym ni wedi ymdrin â'ch cais, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Cofion gorau

Trafnidiaeth Cymru