TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Taliadau iawndal Mehefin 2019

Submitted by Content Publisher on

Taliadau iawndal TrC

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2019

Rwy'n ysgrifennu mewn ymateb i'ch cais Rhyddid Gwybodaeth ar 21 Mai 2019, ynghylch hawliadau am iawndal ar gyfer gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru ers 14 Hydref 2018.

Fe wnaethoch chi ofyn:

  • Faint o geisiadau am iawndal a gawsoch ers 14 Hydref 2018?

  • Faint o geisiadau am iawndal sydd wedi'u talu?

  • Faint mae TrC wedi ei dalu mewn iawndal ers 14 Hydref 2018?

  • Rhowch y wybodaeth ddiweddaraf sydd gennych a dadansoddiad misol os yw ar gael

Mae eich cais wedi'i ystyried yn unol â gofynion y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'n polisi mynediad at wybodaeth.

Gallaf gadarnhau bod gennym y wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Mae'r wybodaeth wnaethoch chi ofyn amdani ar gael yn y ffeil atodedig.

Mae'n bwysig nodi bod y ffigurau yn y ddogfen amgaeedig yn ymwneud â phob hawliad a thaliadau, ac nid oedi yn unig. Cyfnod 8 oedd dechrau'r fasnachfraint.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu os oes gennych gwestiynau ynghylch sut rydym ni wedi ymdrin â'ch cais, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Cofion gorau

Trafnidiaeth Cymru