TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - TG

Submitted by Content Publisher on

Siart Trefniadaeth TG / Nifer y staff Contract / Gwariant ar Gontractau

Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2019

Diolch i chi am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar 17 Hydref 2019. Roeddech wedi gofyn am yr wybodaeth ganlynol:

  • siart trefniadaeth TG
  • nifer y gweithwyr TG parhaol / contract
  • yr asiantaethau sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd i recriwtio
  • gwariant ar asiantaethau / gwariant ar gontractau
  • dadansoddiad o’r prosiectau TG presennol

Rydym yn ysgrifennu atoch i gadarnhau bod eich cais wedi cael ei ystyried o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf), bod Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cwblhau’r broses o chwilio am yr wybodaeth, a bod ganddo’r wybodaeth roeddech wedi gofyn amdani.

Siart trefniadaeth TG

Delwedd: Siart yn darlunio hierarchaeth TG. Cyfarwyddwr TG / Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol> Pennaeth Systemau Busnes. Cyfarwyddwr TG / Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol > Swyddogion TG ac Ymgynghorwyr.

Nifer y gweithwyr TG parhaol / contract

6/0

Yr asiantaethau sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd i recriwtio

1

Gwariant ar asiantaethau / gwariant ar gontractau

£0 / £581,000 (2019-20 – hyd at 30 Medi)

Dadansoddiad o’r prosiectau TG presennol

  • diweddaru’r system gyllid 2
  • gosod system AD newydd

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru