TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - TrC Crewe i Gaerdydd

Submitted by Content Publisher on

Gwasanaeth Crewe i Gaerdydd, dydd Sul 4 Awst 2019

Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2019

Diolch i chi am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar 6 Awst 2019. Roeddech wedi gofyn am yr wybodaeth ganlynol:

  • ar y diwrnod [dydd Sul, 4 Awst], faint o’r trenau o Crewe i Gaerdydd oedd yn drenau â dau gerbyd yn unig

Gallaf gadarnhau bod gennym ni’r wybodaeth roeddech wedi gofyn amdani.

Ddydd Sul, 4 Awst, roedd Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru wedi rhedeg 12 gwasanaeth rhwng Crewe a gorsaf Caerdydd Canolog. O blith y rhain, roedd chwech yn drenau dau gerbyd. Roedd tri o’r rheini yn wasanaethau dau gerbyd bwriadol, ac roedd tri yn ffurfiannau byr ar y diwrnod. Roedd y trenau yma’n rhai â ffurfiannau byr oherwydd bod gwaith cynnal a chadw annisgwyl wedi cael ei wneud ar unedau tri cherbyd 175.

Mae’r data sydd wedi’i atodi yn cynnwys gwybodaeth fanylach.

O blith y gwasanaethau hyn, mae ein log Rheoli yn dangos bod y canlynol yn llawn/yn cynnwys teithwyr a oedd yn gorfod sefyll:

1V17 [13:30 MANCR PIC-CARDIFCEN] 2 gerbyd 175 fel y trefnwyd.

1V18 [15:30 MANCR PIC-CARDIFCEN] 2 yn lle tri cherbyd 175

1V97 [16:30 MANCR PIC-CARDIFCEN] 2 gerbyd 175 fel y trefnwyd.

Mae croeso i chi gysylltu â Trafnidiaeth Cymru os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach.

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru

 

Atodiad A

a.22 Gwybodaeth y bwriedir ei chyhoeddi yn y dyfodol

(1) Mae gwybodaeth yn wybodaeth esempt os -

(a) yw’n cael ei dal gan yr awdurdod cyhoeddus gyda’r bwriad iddi gael ei chyhoeddi, gan yr awdurdod neu gan unrhyw berson arall, ar ddyddiad yn y dyfodol (boed y dyddiad wedi cael ei bennu ai peidio),

(b) oedd yr wybodaeth eisoes yn cael ei dal gyda’r bwriad i’w chyhoeddi pan wnaed y cais am wybodaeth, ac

(c) ei bod yn rhesymol, yn yr holl amgylchiadau, i beidio â datgelu’r wybodaeth tan y dyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (a).

(2) Nid yw’r ddyletswydd i gadarnhau neu wrthod yn codi os byddai, neu i’r graddau y byddai, cydymffurfio ag adran 1(1)(a) yn golygu datgelu unrhyw wybodaeth (boed yr wybodaeth honno wedi cael ei chofnodi’n barod ai peidio) sy’n dod o dan isadran (1).

Ffactorau o blaid datgelu

- y budd cyffredinol i’r cyhoedd wrth ddatgelu’r wybodaeth, er mwyn craffu ar benderfyniadau Trafnidiaeth Cymru sy’n ymwneud â chaffael cyhoeddus, a sicrhau eu bod yn dryloyw.

- y ffaith bod Gweinidogion Cymru yn hyrwyddo’r ddelfryd y dylai gwybodaeth gael ei gwneud yn gyhoeddus yn hytrach na pheidio, ac y dylai awdurdodau cyhoeddus Cymru fod yn fwy tryloyw.

- byddai datgelu’r wybodaeth yn gallu helpu’r unigolyn dan sylw, neu’r cyhoedd yn gyffredinol, i ddeall prosesau awdurdodau cyhoeddus ar gyfer gwneud penderfyniadau.

Ffactorau yn erbyn datgelu

- er mwyn i Trafnidiaeth Cymru allu cyflawni ei rôl yn effeithiol, mae’n rhaid i’w gontractwyr – fel Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru – deimlo eu bod yn gallu datgelu gwybodaeth fasnachol i Trafnidiaeth Cymru heb berygl y caiff yr wybodaeth yma ei datgelu’n gynnar i’r cyhoedd neu i gystadleuwyr.

- mae’n bwysig bod Trafnidiaeth Cymru yn gallu ymgynghori â’i gontractwyr ynghylch yr wybodaeth cyn iddi gael ei chyhoeddi. Os nad oes gan gontractwyr ffydd y bydd Trafnidiaeth Cymru yn diogelu gwybodaeth sy’n cael ei hystyried yn wybodaeth fasnachol sensitif, mae’n debygol y byddent yn gyndyn o ddarparu gwybodaeth nad oes rhaid iddynt ei darparu o dan delerau’r Cytundeb Grant â Gweinidogion Cymru, fel y mae’n cael ei reoli gan Trafnidiaeth Cymru.

- bydd cyhoeddi’r wybodaeth ariannol am y tro cyntaf ar wefan ORR yn golygu bod pawb yn cael gweld yr wybodaeth ar yr un pryd. Bydd hyn hefyd yn cynnig dull clir a chyson o weithredu.

- byddai’n well i staff TrC dreulio amser yn casglu ac yn dilysu’r wybodaeth i’w pharatoi i’w chyhoeddi, yn hytrach na delio â cheisiadau tameidiog. Byddai hyn hefyd yn osgoi dryswch ac yn sicrhau nad yw’r wybodaeth yn cael ei chamddehongli.

Y Penderfyniad

Mae’r wybodaeth ariannol rydych wedi gofyn amdani yn cael ei dal yn ôl ar hyn o bryd, gan fod bwriad i gyhoeddi’r wybodaeth yn y dyfodol. At ei gilydd, byddai dal yr wybodaeth yma’n ôl nes iddi gael ei chyhoeddi’n ffurfiol yn fwy buddiol i’r cyhoedd na phetai’r wybodaeth yn cael ei datgelu nawr.