TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Trosglwyddo Asedau Llinellau Craidd y Cymoedd

Submitted by positiveUser on

Trosglwyddo Asedau Llinellau Craidd y Cymoedd

Dyddiad cyhoeddi: 26 Medi 2019

Diolch i chi am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar 14 Medi 2019. Roeddech wedi gofyn am yr wybodaeth ganlynol:

A gafodd asedau Llinellau Craidd y Cymoedd eu trosglwyddo ar amser?

Rwy’n ysgrifennu atoch i gadarnhau bod eich cais wedi cael ei ystyried o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf), bod Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cwblhau’r broses o chwilio am yr wybodaeth, a bod ganddo’r wybodaeth roeddech wedi gofyn amdani.

Mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn dal i weithio ar y cyd, ochr yn ochr â chydweithwyr yn y Llywodraeth, i sicrhau bod asedau Llinellau Craidd y Cymoedd yn cael eu trosglwyddo’n ddiogel ac yn unol â phrosesau’r diwydiant. Ar sail ein gweithgareddau diwydrwydd dyladwy a sicrwydd i gytuno ar fframwaith contractiol newydd ar gyfer defnyddio Llinellau Craidd y Cymoedd a rhwydweithiau’r brif reilffordd, rydym wedi gosod y dyddiad ar gyfer trosglwyddo asedau Llinellau Craidd y Cymoedd, sef 31 Ionawr 2020.

Fydd y dyddiad trosglwyddo ym mis Ionawr ddim yn effeithio ar ddyddiad gorffen cyffredinol rhaglen trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd. Rydym wedi dechrau ar y gwaith paratoi yn barod, sy’n cynnwys gwaith mapio a dylunio manwl, cyn dechrau ar y gwaith corfforol ar y seilwaith presennol yn 2020. Rydym hefyd wedi dechrau gweithio ar y safleoedd yn Ffynnon Taf a Threfforest i adeiladu depos newydd, sy’n ddwy elfen allweddol o’r broses drawsnewid.

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru