TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Twyll cerdyn talu

Submitted by positiveUser on

Twyll cerdyn talu

Diolch am eich e-bost dyddiedig 28 Mai yn gofyn am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Fe wnaethoch chi ofyn:

Diolch am eich e-bost dyddiedig 28 Mai yn gofyn am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Fe wnaethoch chi ofyn:

•    faint o achosion sy'n ymwneud â thwyll cardiau talu (gan gynnwys rhai digyffwrdd) sydd wedi'u cofnodi ar y rhwydwaith rheilffyrdd y mae TrC yn berchen arno/yn ei weithredu neu'n ei frandio?

Allwch chi ddidoli'r ffigurau i'r cyfnodau isod, gyda'r dyddiadau i gyd yn gynwysedig? Ar ôl cymryd drosodd y fasnachfraint yn ddiweddar, rwy'n deall nad yw eich data o bosibl yn cynnwys gwybodaeth o'r cyfnod cyn y dyddiad i chi gymryd drosodd. Os nad yw'r data gennych, anwybyddwch y cyfnodau isod a rhowch wybodaeth o ddyddiad cychwyn y fasnachfraint.

01/01/2018 – 31/12/2018
01/01/2017 – 31/12/2017
01/01/2016 – 31/12/2016
01/01/2015 – 31/12/2015
01/01/2014 – 31/12/2014
 
• Faint o achosion a oedd yn ymwneud â thwyll cardiau talu a gyfeiriwyd at Action Fraud neu'r Biwro Cudd-wybodaeth Twyll Cenedlaethol o fewn y cyfnodau yng nghwestiwn 1?
• Faint o achosion yn ymwneud â thwyll cardiau talu a gyfeiriwyd at yr heddlu, o fewn y cyfnodau yng nghwestiwn 1?
• Os yw wedi'i chofnodi, a wnewch chi ddarparu'r golled gyfartalog fesul achos ar gyfer pob blwyddyn a chyfanswm y golled ar gyfer pob blwyddyn, o fewn y cyfnodau yng nghwestiwn 1?

Gallaf gadarnhau bod gan Trafnidiaeth Cymru rywfaint o'r wybodaeth sy'n berthnasol i'ch cais:

1. faint o achosion sy'n ymwneud â thwyll cardiau talu (gan gynnwys rhai digyffwrdd) sydd wedi'u cofnodi ar y rhwydwaith rheilffyrdd y mae TrC yn berchen arno/yn ei weithredu neu'n ei frandio?

Yr unig wybodaeth y gallwn ei darparu yw nifer y trafodion y mis y rhoddwyd gwybod amdanynt i'r banc fel rhai twyllodrus ers i Wasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru gymryd drosodd fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau ym mis Hydref 2018. Mae'r data sydd gennym yn y daenlen atodedig.

2. Faint o achosion a oedd yn ymwneud â thwyll cardiau talu a gyfeiriwyd at Action Fraud neu'r Biwro Cudd-wybodaeth Twyll Cenedlaethol o fewn y cyfnodau yng nghwestiwn 1?
Nid oes gennym y wybodaeth hon.

3. Faint o achosion yn ymwneud â thwyll cardiau talu a gyfeiriwyd at yr heddlu, o fewn y cyfnodau yng nghwestiwn 1?

Nid oes gennym y wybodaeth hon.

4. Os yw wedi'i chofnodi, a wnewch chi ddarparu'r golled gyfartalog fesul achos ar gyfer pob blwyddyn a chyfanswm y golled ar gyfer pob blwyddyn, o fewn y cyfnodau yng nghwestiwn 1?
Nid oes gennym y wybodaeth hon.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â Trafnidiaeth Cymru.

Yn gywir 

Trafnidiaeth Cymru