TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Uned ddadansoddol

Submitted by positiveUser on

Contract TrC ar gyfer Darpariaeth Data Rhwydwaith Symudol ar gyfer Matricsau Model Trafnidiaeth OD

Dyddiad cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2019

Diolch am eich e-bost, 27 Mehefin, yn gofyn am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Fe wnaethoch chi ofyn am:

• rhestr o'r holl gwmnïau sydd wedi cynnig ar y tendr ar gyfer contract Trafnidiaeth Cymru ar gyfer Darpariaeth Data Rhwydwaith Symudol ar gyfer Matricsau Model Trafnidiaeth OD.

Gallaf gadarnhau bod gan Trafnidiaeth Cymru wybodaeth sy'n berthnasol i'ch cais.

Yn anffodus, ni allwn roi'r wybodaeth hon i chi. Mae hyn oherwydd ei fod yn dod o dan esemptiad adran 43(2) o'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Mae hyn yn esemptio gwybodaeth os byddai ei datgelu o dan y Ddeddf hon yn neu'n debyg o; ragfarnu buddiannau masnachol unrhyw berson (gan gynnwys yr awdurdod cyhoeddus sydd â'r wybodaeth). Mae gwybodaeth sy'n ymwneud â'r cynigwyr ar gyfer contract Trafnidiaeth Cymru ar gyfer Darpariaeth Data ar Rwydwaith Symudol ar gyfer Matricsau Model Trafnidiaeth OD yn cael ei ystyried wedi'i hesemptio o dan adran 43(2) y Ddeddf.

Mae adran 43(2) yn esemptio gwybodaeth os byddai ei datgelu yn debygol o ragfarnu buddiannau masnachol unrhyw berson (gan gynnwys yr awdurdod cyhoeddus sydd â'r wybodaeth).

Mae adran 43(2) yn esemptiad cymwys ac mae'n ofynnol i ni gynnal prawf lles y cyhoedd wrth weithredu unrhyw esemptiad cymwys. Mae hyn yn golygu, ar ôl penderfynu bod yr esemptiad yn cael ei gynnwys, bod yn rhaid ystyried budd y cyhoedd pe byddem yn rhyddhau'r wybodaeth. Os yw lles y cyhoedd o ddatgelu'r wybodaeth yn drech na budd y cyhoedd o'i hatal, yna nid yw'r esemptiad yn gymwys a rhaid ei rhyddhau. Yn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, rhagdybir y dylid rhyddhau gwybodaeth oni bai bod rhesymau cryf dros ei hatal.

Roedd ystyriaethau o blaid rhyddhau'r wybodaeth yn cynnwys ymrwymiad Trafnidiaeth Cymru i fod yn agored ac yn dryloyw yn ei gweithgareddau masnachol, i ganiatáu craffu cyhoeddus ac i ddangos bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio mewn modd effeithlon ac effeithiol. At hynny, rhaid i gwmnïau'r sector preifat sy'n ymgymryd â gweithgareddau masnachol gyda'r sector cyhoeddus ddisgwyl i rywfaint o wybodaeth am y gweithgareddau hynny gael ei datgelu.

Roedd ystyriaethau yn erbyn datgelu yn cynnwys y gydnabyddiaeth y gallai datgelu achosi niwed i enw da cyflenwr aflwyddiannus, gan effeithio ar safle cystadleuol y cyflenwr yn ei farchnad briodol a'r hyder a allai fod gan ei gwsmeriaid, cyflenwyr neu fuddsoddwyr yn ei weithrediadau masnachol. Byddai datgelu'r data yn debygol o atal darpar gynigwyr am gontractau yn y dyfodol rhag cystadlu a rhannu gwybodaeth sy'n fasnachol sensitif gyda ni, a byddai hynny'n cael effaith negyddol ar ansawdd a nifer y cyflenwyr a fydd ar gael i Trafnidiaeth Cymru. Rhaid i Trafnidiaeth Cymru gynnal hyder masnachol cynigwyr trydydd parti pan fyddant yn dewis cymryd rhan mewn gweithgareddau masnachol gyda ni. Gallai rhyddhau'r wybodaeth hon danseilio’r hyder masnachol hwn.

I gloi, mae Trafnidiaeth Cymru wedi penderfynu nad yw er lles y cyhoedd i ragfarnu buddiannau masnachol y cyflenwyr aflwyddiannus. O'r herwydd, ystyriwyd bod y wybodaeth hon wedi'i hesemptio rhag cael ei datgelu o dan adran 43(2) y Ddeddf.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â Trafnidiaeth Cymru.

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru