TrC Cais Rhyddid Gwybodaeth - Uwchraddio gorsafoedd

Submitted by positiveUser on

Swyddogion diogelwch

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2019

Diolch i chi am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar 14 Medi 2019. Roeddech wedi gofyn am yr wybodaeth ganlynol:

rhestr o’r gorsafoedd a fydd yn cael eu gwella dros y 15 mlynedd nesaf, a sut byddan nhw’n cael eu gwella

Rwy’n ysgrifennu atoch i gadarnhau bod eich cais wedi cael ei ystyried o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf), bod Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cwblhau’r broses o chwilio am yr wybodaeth, a bod ganddo’r wybodaeth roeddech wedi gofyn amdani.

Gallwn gadarnhau y bydd pob un o’r 247 o orsafoedd ar draws rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru yn cael eu gwella mewn rhyw ffordd dros y 15 mlynedd nesaf.

Ar hyn o bryd, allwn ni ddim dweud yn benodol beth yn union fydd yn cael ei wneud ym mhob gorsaf, dim ond rhannu’r egwyddorion rydym yn gweithio yn unol â nhw:

• bydd pob gorsaf yn cael ei glanhau’n drylwyr;

• bydd pob gorsaf yn cael ei hailfrandio; ac

• fel rhan o’n rhaglen gyffredinol ar gyfer cyfleusterau gorsafoedd, byddwn ni’n nodi gwelliannau i’r elfennau canlynol:

- seddi a lloches ar blatfformau;

- diogelwch a systemau teledu cylch cyfyng;

- arwyddion a Systemau Gwybodaeth i Gwsmeriaid; a

- swyddfeydd tocynnau, toiledau ac ystafelloedd aros mewn gorsafoedd perthnasol.

Cafodd Datganiad o Weledigaeth ei lunio a’i lansio gan y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar 16 Medi. Mae manylion y datganiad hwnnw ar gael yma:

https://trc.cymru/sites/default/files/documents/TfW%20Station%20Imp%20Vis%20Cymraeg%200919_1.pdf

Mae’r gofyniad i Wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru wneud y gwelliannau i orsafoedd yn ymrwymiad contractiol, fel y nodir yn y cytundeb rhwng KeolisAmey Wales Cymru Ltd a Gweinidogion Cymru. Mae’r manylion i’w gweld ar dudalennau 234-235.

https://trc.cymru/sites/default/files/documents/REDACTED%20ODP%20Grant%20Agreement%20clean%20final%2020181221_1.pdf

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru