Terfyn cyflymder 20mya diofyn ar ffyrdd cyfyngedig | Adroddiad monitro cenedlaethol (Medi 2023 - Ebrill 2024)

Submitted by Content Publisher on

Terfyn cyflymder 20mya diofyn ar ffyrdd cyfyngedig

Adroddiad monitro cenedlaethol (Medi 2023 - Ebrill 2024)

 


Diwygiad Terfynol


Dyddiad Cyhoeddi 26 Medi 2024


 

Crynodeb gweithredol

Mae’r adroddiad hwn yn adolygu’r data sydd ar gael hyd at fis Ebrill 2024 ar gyfer monitro effeithiau’r terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya, a roddwyd ar waith ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru ar 17 Medi 2023.

Bwriad y polisi yw hyrwyddo diogelwch a llesiant pobl yng Nghymru drwy leihau tebygolrwydd a difrifoldeb gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yn ogystal ag annog pobl i gerdded, olwyno a beicio. Disgwylir iddo hefyd arwain at fanteision ehangach fel mwy o ryngweithio cymdeithasol, cymunedau cryfach a gwell iechyd meddwl a chorfforol.

Mae’r adroddiad hwn yn asesu newidiadau mewn dangosyddion perfformiad allweddol (DPAau) a nodir yn y Fframwaith Monitro Cenedlaethol 20mya.¹ Mae’n cynnwys DPAau ar gyflymder cerbydau, amseroedd teithio a dibynadwyedd amseroedd teithio, rhyngweithio rhwng cerddwyr a cherbydau wrth groesfannau cerddwyr ac ansawdd aer. Cafodd y data diweddaraf ar gyfer y dangosyddion hyn ei gasglu rhwng mis Medi 2023 a mis Ebrill 2024.

Nid yw rhai DPAau yn cael sylw yn yr adroddiad monitro hwn gan fod angen data arnynt dros gyfnod hir i wneud asesiad ystyrlon. Mae’r rhain yn cynnwys cyfraddau damweiniau cerddwyr a beicwyr, newidiadau yn agweddau’r cyhoedd at y terfyn 20mya a newidiadau mewn allyriadau carbon deuocsid. 

Mae Tabl 1 yn crynhoi’r canlyniadau ar gyfer pob un o’r DPAau a adolygwyd. Disgrifir y rhain yn fanylach yng nghorff yr adroddiad hwn.

Mae’r prif ganfyddiadau’n cynnwys:

  • Mae cyflymder cerbydau ar brif ffyrdd trwodd 20mya wedi gostwng 4.3mya ar gyfartaledd, a gwelwyd y cyflymder yn gostwng yn fuan ar ôl cyflwyno’r terfyn newydd. Mae 58% o gerbydau nawr yn cael eu gyrru ar neu o dan 24mya, o’i gymharu ag 20% cyn hynny. Disgwylir i’r gostyngiadau hyn leihau’r risg o wrthdrawiad a difrifoldeb yr anafiadau sy’n deillio o hynny.
  • Mae amseroedd teithio cyfartalog wedi cynyddu ar y rhan fwyaf o lwybrau a aseswyd ond, yn gyffredinol, o ddim mwy na 2 funud.² Ar yr un pryd, mae amrywioldeb amseroedd teithio wedi lleihau ar y rhan fwyaf o lwybrau, gan ddangos bod yr amseroedd teithio yn fwy dibynadwy ac felly bod mwy o sicrwydd ynghylch pa mor hir y bydd yn ei gymryd i yrru llwybr penodol.
  • Nid yw monitro’r rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr ar groesfannau i gerddwyr wedi datgelu unrhyw effeithiau clir hyd yma, ac mae’r newidiadau mewn ymddygiad ildio yn amrywio rhwng y safleoedd a aseswyd.
  • Ni wnaeth y gwaith parhaus o fonitro ansawdd aer yn yr ardaloedd cam 1 hyd at Ebrill 2024 ddatgelu unrhyw wahaniaeth sylweddol mewn crynodiadau nitrogen deuocsid rhwng ardaloedd o fewn y terfyn 20mya a’r tu allan iddo.

¹ Trafnidiaeth Cymru, Terfyn cyflymder 20mya diofyn ar ffyrdd cyfyngedig: Dogfen Fframwaith Monitro, 2023
² Mae’r llwybrau a aseswyd yn amrywio o 5km i 61km o hyd. Ceir rhagor o fanylion ym mhrif gorff yr adroddiad.


 

Tabl 1: Crynodeb o’r asesiad DPA (hyd at Ebrill 2024)

DPA

Disgrifiad o’r DPA Asesiad Effaith³
1.1 Canran sy’n teithio ar neu o dan 24mya (fel procsi ar gyfer cydymffurfio â’r terfyn cyflymder 20mya) Cynnydd o 20% (cyn gweithredu) i 58% yn teithio ar neu o dan 24mya

Cadarnhaol iawn

1.2 Newid yn y cyflymder 85ed ganradd Gostyngiad o 3.9mya mewn cyflymder

Cadarnhaol iawn

1.3 Newid yn y cyflymder cymedrig Gostyngiad o 4.3mya mewn cyflymder

Cadarnhaol iawn

1.4 Amseroedd teithio cerbydau ac amrywioldeb amseroedd teithio, ar sail y gwahaniaeth rhwng amseroedd teithio’r 5ed a’r 95ed ganradd fel procsi ar gyfer dibynadwyedd amseroedd teithio, ar brif lwybrau trwodd

Cynnydd ymylol mewn amseroedd teithio cyfartalog.

Gostyngiad ymylol yn amrywioldeb yr amseroedd teithio (h.y. mae’r amseroedd teithio yn fwy dibynadwy)

Ychydig yn negyddol  

Ychydig yn gadarnhaol

3.2 Newid o ran ymddygiad ildio cerbydau a cherddwyr Nid yw’n bendant ar hyn o bryd, gan fod y newidiadau mewn ymddygiad ildio yn amrywio rhwng y safleoedd a aseswyd.

Dim newid amlwg

4.1 Newid yn ansawdd yr aer lleol - NO2 Dim effaith sylweddol wedi’i nodi

Dim newid amlwg

Mae cymariaethau rhwng y canlyniadau yn Nhabl 1 a chanlyniadau monitro cam 1 (lle cyflwynwyd y terfynau 20mya yn 2021-22, cyn cyflwyno’r cynllun yn genedlaethol) wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn.


³ Lle bo newid yn cael ei ddisgrifio fel effaith gadarnhaol, deellir hyn yn yr ystyr bod y canlyniad yn cyd-fynd ag amcanion y terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig.


Amser teithio ac amrywioldeb Medi 2024

 

1. Cyflwyniad

1.1 Cefndir

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru derfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru ar 17 Medi 2023. Dyma’r polisi cenedlaethol cyntaf o’i fath yn y DU ac mae diddordeb brwd ymysg y cyhoedd yn ei effeithiau.

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau priffyrdd i asesu’r effeithiau hyn drwy fonitro newidiadau mewn rhestr o ddangosyddion perfformiad allweddol (DPAau) a bennwyd ymlaen llaw. Mae’r rhain wedi’u nodi yn y fframwaith monitro 20mya cenedlaethol ac maent yn cael eu crynhoi yn adran 2 o’r adroddiad hwn.⁴

Mae’r adroddiad hwn yn adolygu’r data diweddaraf sydd ar gael ar gyfer DPAau y fframwaith monitro. Casglwyd y data hwn mewn amrywiaeth o leoliadau ar ôl cyflwyno’r polisi ac mae’n cwmpasu’r cyfnod hyd at ddiwedd Ebrill 2024. Mae’n cynnwys y ffynonellau canlynol:

  • Data monitro cyflymder cerbydau.
  • Data ar amseroedd teithio a dibynadwyedd amseroedd teithio.
  • Dadansoddi ymddygiad ildio, gan ddefnyddio technoleg camera i asesu’r rhyngweithio rhwng cerddwyr a cherbydau wrth groesfannau mewn ardaloedd 20mya. 
  • Cam 1 y cynllun 20mya: Adroddiad Monitro Ansawdd Aer⁵

Lle bo data cyfatebol ar gael, gwneir cymariaethau â data a gasglwyd i asesu effeithiau’r terfyn 20mya ar gyfer yr wyth ardal cam 1. Yn yr ardaloedd cam 1 hyn cyflwynwyd terfynau cyflymder 20mya yn 2021-22, cyn cyflwyno’r cynllun yn genedlaethol.

 

1.2 Y rhesymeg dros ymyrryd

Bwriad gostwng cyflymder traffig yw bod o fudd i gymunedau a hyrwyddo diogelwch a llesiant pobl yng Nghymru. Disgwylir y bydd cyflwyno terfyn cyflymder is yn lleihau tebygolrwydd a difrifoldeb gwrthdrawiadau ar y ffyrdd, gyda llai o gerddwyr a beicwyr yn cael eu hanafu’n ddifrifol neu’n angheuol. Nod y terfyn cyflymder is hefyd yw cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru mai cerdded, olwyno a beicio fydd y dewis naturiol ar gyfer teithiau byr bob dydd.⁶


⁴ Trafnidiaeth Cymru, Terfyn cyflymder 20mya diofyn ar ffyrdd cyfyngedig: Dogfen Fframwaith Monitro, 2023
⁵ Cyhoeddir adroddiadau cryno a llawn ar ansawdd aer yn https://trc.cymru/amdanom-ni/tryloywder/cyhoeddiadau/terfyn-cyflymder-20mya-diofyn
⁶ Mae’r weledigaeth hon wedi'i nodi yng Nghanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol (Gorffennaf 2021).


 

Drwy leihau nifer yr anafiadau a’r marwolaethau ar ffyrdd, a lleihau effeithiau negyddol defnyddio ceir ar yr amgylchedd ehangach, rhagwelir y bydd y newid i 20mya yn arwain at ragor o fanteision pellgyrhaeddol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Mwy o bobl yn dewis cerdded, olwyno neu feicio (teithio llesol), gan leihau nifer y teithiau byr mewn ceir mewn ardaloedd adeiledig.
  • Mwy o ryngweithio cymdeithasol mewn cymunedau ac ar eu traws, gan helpu i wella cydlyniant cymdeithasol.
  • Canlyniadau gwell i iechyd corfforol a meddyliol, yn sgil mwy o weithgarwch corfforol a mwy o ryngweithio cymdeithasol.
  • Lleihau costau i’r GIG a threthdalwyr, a lleihau llwyth gwaith y GIG o ganlyniad i lai o wrthdrawiadau ar y ffyrdd (a thrawma ac anafiadau llai difrifol).
  • Lleihau costau i’r GIG o ganlyniad i’r iechyd corfforol a meddyliol gwell sy’n deillio o fwy o deithio llesol.
  • Economïau lleol cryfach mewn ardaloedd lle’r oedd problemau cyflymder traffig yn flaenorol, o ganlyniad i fwy o ymwelwyr a mwy o weithgarwch ym maes manwerthu a lletygarwch.
  • Cyfrannu at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn enwedig ‘i alluogi lleoedd i gynorthwyo iechyd a llesiant pobl a chymunedau’ fel rhan o’r nod ‘Cymru iachach’.

Er y rhagwelir y manteision pellgyrhaeddol hyn, ni ellir eu mesur a’u priodoli’n hawdd i un ymyriad polisi. Mae hyn oherwydd yr ystod eang o ffactorau dylanwadol eraill, gan gynnwys ymyriadau eraill Llywodraeth Cymru sy’n ceisio sicrhau manteision tebyg.

Serch hynny, mae’r DPAau a nodir yn y fframwaith monitro 20mya yn ffordd o asesu effeithiau uniongyrchol penodol y polisi, ac felly’n dangos a yw’r polisi’n debygol o fod yn cyfrannu at y manteision cymdeithasol ehangach a amlinellir uchod. Mae’r amcanion a’r DPAau hyn yn cael eu disgrifio’n fanylach yn adran 2. 

 

2. Amcanion a dangosyddion perfformiad allweddol

2.1 Trosolwg o’r fframwaith monitro

Mae’r fframwaith monitro 20mya cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2023, yn nodi tri amcan craidd ar gyfer gweithredu 20mya fel y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig:

  1. Lleihau nifer yr anafiadau a'r marwolaethau.
  2. Annog newid mewn ymddygiad teithio.
  3. Lleihau’r effeithiau negyddol y mae defnyddio cerbydau yn ei chael ar yr amgylchedd yn ehangach.

Mae’r tri amcan craidd yn gysylltiedig â phum amcan mesuradwy penodol ar gyfer gweithredu terfynau cyflymder 20mya (gweler Ffigur 1). Yr amcanion hyn yw:

  • Lleihau nifer y cerddwyr a beicwyr sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y rhwydwaith ffyrdd.
  • Annog pobl i gerdded a beicio ar gyfer teithiau byrrach mewn ardaloedd adeiledig yn hytrach na defnyddio ceir preifat.
  • Lleihau goruchafiaeth cerbydau modur mewn rhyngweithiadau rhwng cerbydau a cherddwyr.
  • Lleihau allyriadau carbon o drafnidiaeth yn sgil newid i gerdded, olwyno a beicio ar gyfer teithiau byrrach mewn ardaloedd adeiledig yn hytrach na defnyddio ceir preifat.
  • Cynnal neu wella ansawdd yr aer lleol o ganlyniad i gyflymder traffig mwy llyfn a llai o gyflymu ac arafu.

 

Ffigur 1: Amcanion y terfyn cyflymder diofyn o 20mya

Mesur polisi: Gostwng y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig i 20mya

Gwella llesiant pobl yng Nghymru (canlyniadau iechyd, rhyngweithio cymdeithasol, costau’r GIG, economïau lleol)

Lleihau nifer yr anafiadau a'r marwolaethau

Lleihau nifer y cerddwyr a beicwyr sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y rhwydwaith ffyrdd

Annog newid mewn ymddygiad teithio

Annog pobl i gerdded a beicio ar gyfer teithiau byrrach mewn ardaloedd adeiledig yn hytrach na defnyddio ceir 

Lleihau goruchafiaeth cerbydau modur mewn rhyngweithiadau rhwng cerbydau a cherddwyr

Lleihau’r effeithiau negyddol y mae defnyddio cerbydau yn ei chael ar yr amgylchedd yn ehangach

Lleihau allyriadau carbon o drafnidiaeth

Cynnal neu wella ansawdd aer lleol

Mae monitro cynnydd tuag at yr amcanion hyn yn cael ei wneud drwy asesu 12 DPA, fel y nodir yn Ffigur 2.

 

Ffigur 2: DPAau ar gyfer asesu effeithiau gweithredu’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya

Amcanion

Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPAau)
 

1.1: Cydymffurfiaeth traffig â’r terfyn cyflymder o 20mya

1.2: Newid o ran cyflymder 85ed ganradd 1.3: Newid yn y cyflymder cymedrig

1.4: Amseroedd teithio cerbydau ac amrywioldeb amseroedd teithio ar y prif lwybrau trwodd (gwahaniaeth rhwng amseroedd teithio’r 5ed a’r 95ed ganradd)

Lleihau nifer y cerddwyr a beicwyr sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y rhwydwaith ffyrdd

2.1: Cyfradd y damweiniau i blant sy’n cerdded (rhwng 5 ac 11 oed), yn ôl rhyw a'r un rhan o bump mwyaf amddifad, ac yn ôl rhyw a dosbarthiad trefol neu wledig

2.3: Cyfradd y damweiniau i bobl hŷn sy’n cerdded a beicio (dros 75 oed), yn ôl rhyw a'r un rhan o bump mwyaf amddifad, ac yn ôl rhyw a dosbarthiad trefol neu wledig

2.2: Cyfradd y damweiniau i gerddwyr a beicwyr 12-74 oed yn ôl rhyw a'r un rhan o bump mwyaf amddifad, ac yn ôl rhyw a dosbarthiad trefol neu wledig

Annog newid modd o geir preifat i gerdded a beicio

Lleihau goruchafiaeth cerbydau modur mewn rhyngweithiadau rhwng cerbydau a cherddwyr

3.1: Newid mewn agweddau tuag at ddefnyddio teithio llesol mewn ardaloedd adeiledig

3.2: Newid o ran ymddygiad ildio cerbydau a cherddwyr

Lleihau allyriadau carbon o drafnidiaeth
Cynnal neu wella ansawdd aer lleol

4.1: Newid yn ansawdd yr aer lleol - NO2 4.2: Newid o ran allyriadau CO2
 

5.1: Newid yn agweddau’r cyhoedd at derfynau cyflymder 20mya

 

2.2 Monitro’r broses o gyflwyno’r terfyn cyflymder yn genedlaethol

Yn seiliedig ar ddata a gasglwyd hyd at ddiwedd Ebrill 2024, caiff y chwe DPA a ganlyn eu hasesu yn yr adroddiad hwn:

  • Y traffig sy’n cydymffurfio â’r terfyn cyflymder o 20mya (DPA 1.1). Mae hyn yn defnyddio canran y cerbydau sy’n teithio ar neu o dan 24mya fel procsi ar gyfer cydymffurfio⁷
  • Newid mewn cyflymder 85ed ganradd (DPA 1.2)⁸
  • Newid mewn cyflymder cymedrig (DPA 1.3)
  • Amseroedd teithio cerbydau ac amrywioldeb amseroedd teithio ar y prif lwybrau trwodd (DPA 1.4). Mae hyn yn defnyddio’r gwahaniaeth rhwng amseroedd teithio'r 5ed a’r 95ed ganradd fel procsi ar gyfer dibynadwyedd amseroedd teithio.
  • Newid o ran ymddygiad ildio cerbydau a cherddwyr (DPA 3.2)
  • Newid mewn ansawdd aer lleol yn seiliedig ar grynodiadau nitrogen deuocsid (NO2) (DPA 4.1)

Nid yw data newydd ar ôl cyflwyno’r terfyn 20mya yn genedlaethol wedi cael ei gasglu eto i adrodd ar y chwe DPA arall, am y rhesymau canlynol:

  • Cyfraddau damweiniau ar gyfer cerddwyr a beicwyr (DPA 2.1, 2.2, 2.3). Bydd angen o leiaf dair blynedd o ddata am ddamweiniau ar ôl gweithredu er mwyn gallu cymharu’n ystyrlon â chyfnod o dair blynedd o leiaf cyn gweithredu. Felly, mae’n rhy gynnar adrodd yn erbyn y dangosyddion hyn.
  • Newid mewn agwedd tuag at ddefnyddio teithio llesol mewn ardaloedd adeiledig (DPA 3.1). Cafodd y DPA hwn ei asesu i ddechrau yn 2022 drwy waith ymchwil pwrpasol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddefnyddio teithio llesol ar gyfer teithiau i ysgolion cynradd. Nid yw’r gwaith ymchwil hwn wedi cael ei ailadrodd felly nid oes data newydd ar gael. Fodd bynnag, mae crynodeb o ganlyniadau 2022 ar gael yn yr adroddiad hwn er gwybodaeth.
  • Newid mewn allyriadau carbon deuocsid (CO2) (DPA 4.2) Bydd hyn yn cynnwys dadansoddiadau a wneir dros gyfnod hirach.
  • Newid yn agweddau’r cyhoedd at derfynau cyflymder 20mya (DPA 5.1). Bydd y DPA hwn yn ystyried canfyddiadau o gyflymderau traffig, sŵn traffig ac effeithiau ar gymunedau, a bydd yn cael ei asesu drwy waith ymchwil yn y dyfodol.

Mae Tabl 14 yn Atodiad C yn darparu’r amserlenni a’r lleoliadau tarddiad ar gyfer y data monitro ac yn nodi pa safleoedd yr edrychwyd arnynt yng ngham 1 a pha rai sy’n newydd i’r rhaglen fonitro genedlaethol.


⁷ Am resymau a esbonnir yn adran 3.1, ystyrir bod cerbydau sy’n teithio ar gyflymder o 24mya neu lai yn cydymffurfio â’r terfyn cyflymder.
⁸ Y cyflymder y mae 85% o yrwyr yn gyrru arno neu'n is mewn amodau llifo’n rhwydd.


 

3. Canlyniadau monitro

3.1 Cyflymderau traffig

Lleoliadau a dulliau

Traffic speed monitoring devices were installed at 44 locations across 10 areas. They provided data for the following KPIs:

  • Traffig sy’n cydymffurfio â’r terfyn cyflymder o 20mya (DPA 1.1)
  • Newid mewn cyflymder 85ed ganradd (DPA 1.2)⁹
  • Newid mewn cyflymder cymedrig (DPA 1.3)

Mae Tabl 2 yn rhoi crynodeb o leoliadau monitro cyflymder. Mae mapiau sy’n dangos y lleoliadau penodol wedi’u cynnwys yn Atodiad A.

Casglwyd y data gan ddefnyddio dyfeisiau monitro a osodwyd ar draws y gerbytffordd ar y prif ffyrdd trwodd ym mhob ardal. Roedd gan bob ffordd a gafodd ei monitro derfyn cyflymder o 30mya cyn 17 Medi 2023 a therfyn cyflymder o 20mya ar ôl hynny.  Adeg y monitro, roedd pob ffordd yn rhydd, i raddau helaeth, o waith ar y ffordd a chyfyngiadau ffisegol sy’n lleihau cyflymder traffig. 

Casglwyd data cyflymder cyn gweithredu dros bedair wythnos yn ystod mis Gorffennaf a ddechrau Medi 2023, ac eithrio yn ardal Torfaen (Cwmbrân, Pont-y-pŵl a Blaenafon), lle casglwyd wythnos o ddata ddechrau 2023.

Mae data cyflymder ôl-weithredu yn seiliedig ar bedair wythnos o ddata a gasglwyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Tachwedd 2023 a mis Ionawr 2024, ac eithrio cyfnod y Nadolig a’r flwyddyn newydd.

Tabl 2: Crynodeb o leoliadau’r dyfeisiau monitro cyflymder ac argaeledd data

Ardal

Nifer y lleoliadau monitro cyflymder
Llanbedr Pont Steffan

4

Bae Penrhyn

4

Llanrug

3

Allt-yr-ynn (Casnewydd)

3

Doc Penfro

3

Y Drenewydd

4

Tylorstown

4

Torfaen (Cwmbrân, Pont-y-pŵl a Blaenafon)

8

Wrecsam

10

Peniel

1


⁹ Y cyflymder y mae 85% o yrwyr yn gyrru arno neu'n is mewn amodau llifo’n rhwydd.


 

Mae newidiadau yn y cyflymderau cymedrig a’r cyflymderau 85ed ganradd ym mhob ardal yn cael eu pwysoli yn ôl llif y traffig ar bob ffordd.

Mae dyfeisiau monitro cyflymder traffig yn cofnodi union gyflymder cerbydau ac yna’n categoreiddio cyflymderau i’w dadansoddi o fewn bandiau 5mya, er enghraifft 15 19mya neu 20 24mya (cynhwysol). Ar gyfer DPA 1.1, tybir bod unrhyw un sy'n gyrru ar neu o dan 24mya yn cydymffurfio â'r terfyn cyflymder newydd, fwy neu lai, gan fod hyn yn cyfateb i un o'r trothwyon a ddefnyddir yn aml ar gyfer gorfodi.

Prif ddata

Mae Tabl 3 yn cyflwyno prif asesiadau DPA ar gyfer cyflymderau traffig ar sail data a gasglwyd rhwng mis Gorffennaf 2023 a mis Ionawr 2024. Mae’r pedair wythnos ddiweddaraf o ddata ar ôl gweithredu (o fis Tachwedd 2023 i fis Ionawr 2024, ac eithrio cyfnod y Nadolig a’r flwyddyn newydd) wedi cael ei gymharu â’r pedair wythnos o ddata cyn gweithredu (Gorffennaf a Medi 2023).

Tabl 3: Asesiadau DPA o gyflymder traffig (cyflwyno’n genedlaethol)

DPA

Cyn gweithredu Ar ôl gweithredu  Newid

1.1. Canran sy’n teithio ar neu o dan 24mya (fel procsi ar gyfer cydymffurfio â’r terfyn cyflymder 20mya)

20%  58% Cynnydd o 38 pwynt canran

1.2 Newid yn y cyflymder 85ed ganradd

33.1mya 29.2mya Gostyngiad o 3.9mya

1.3 Newid mewn cyflymder cymedrig

28.9mya 24.6mya Gostyngiad o 4.3mya

Mae unrhyw ostyngiad mewn cyflymder yn gam cadarnhaol tuag at gyflawni’r fantais llesiant ehangach, o ystyried ei fod yn lleihau’r tebygolrwydd o wrthdrawiadau a difrifoldeb yr anafiadau sy’n deillio o hynny.¹⁰


¹⁰ Canfu astudiaeth gynharach y dangosir bod pob gostyngiad o 1mya mewn cyflymderau cymedrig trefol yn lleihau amlder gwrthdrawiadau rhwng 2% a 7%. Ffynhonnell: Taylor, M., Lynam, D., Baruya, A (2000) The effects of drivers’ speed on the regular of road accidents, Crowthorne: TRL


 

Cymharu cyflymder traffig â chanfyddiadau cam 1

Cynhaliwyd gwaith monitro cyflymder ar gyfer yr un DPAau hefyd yng ngham 1 y broses o weithredu’r terfyn 20mya (2021-22), mewn gwahanol leoliadau monitro.¹¹ Cyflwynir y canlyniadau ar gyfer hyn yn Tabl 4.

Mae’r canlyniadau ar gyfer y gweithredu cenedlaethol a cham 1 yn dangos gostyngiad cyffredinol mewn cyflymder traffig. Roedd y gostyngiad mewn cyflymderau 85ed ganradd a chyflymderau cymedrig yn llai ar gyfer cam 1 nag ar gyfer y broses weithredu genedlaethol. Fodd bynnag, mae’n werth nodi bod y cyflymderau 85ed ganradd a’r cyflymderau cymedrig cyn gweithredu eisoes yn is yn ardaloedd cam 1 o gymharu â’r rheini ar y ffyrdd sy’n cael eu monitro ar gyfer y rhaglen fonitro genedlaethol.

Tabl 4: Asesiadau DPA o gyflymder traffig (cam 1 at ddibenion cymharu)

DPA

Cyn gweithredu Ar ôl gweithredu Newid

1.1. Canran sy’n teithio ar neu o dan 24mya (fel procsi ar gyfer cydymffurfio â’r terfyn cyflymder 20mya)

50%  65% Cynnydd o 15 pwynt canran

1.2 Newid yn y cyflymder 85ed ganradd

29.6mya 26.6mya Gostyngiad o 3.0mya

1.3 Newid mewn cyflymder cymedrig

25.2mya 23.6mya Gostyngiad o 1.6mya

¹¹ Casglwyd data Cam 1 yn y safleoedd canlynol: Y Fenni, Bwcle, Caerdydd (Gogledd), Cilfrew, Llanelli (Gogledd), Glannau Hafren (Caer-went, Cil-y-coed, Magwyr, Gwndy), Saint-y-brid, Llandudoch, gweler https://trc.cymru/sites/default/files/2024-02/20mya-cam-un-adroddiad-monitro-terfynol.pdf


 

Cydymffurfio â’r terfyn cyflymder (DPA 1.1)

Ar gyfer y DPA hwn, mae unrhyw un sy’n gyrru ar neu o dan 24mya yn cael ei ystyried fel rhywun sy’n cydymffurfio â’r terfyn cyflymder newydd. Mae Ffigur 3 yn dangos y newid yng nghyfran y cerbydau sy’n teithio ar neu o dan 24mya. Mae ‘cymedr cyffredinol wedi’i bwysoli’ yn cael ei phwysoli gan lif traffig ym mhob ardal.

Yn gyffredinol, roedd cyfran y cerbydau a oedd yn teithio ar neu o dan 24mya wedi cynyddu o 20% cyn gweithredu i 58% fel cyfartaledd ar draws yr holl safleoedd a gafodd eu monitro ar ôl gweithredu. Gwelwyd y newid mwyaf ym Mheniel, cynnydd o 60 pwynt canran, o 10% i 70% yn teithio ar neu o dan 24mya. Roedd y newid lleiaf yn Tylorstown/Pontygwaith, gyda chynnydd o 19 pwynt canran yn teithio ar neu o dan 24mya.

Ffigur 3: Canran y cerbydau sy’n teithio ar neu o dan 24mya

Canran y cerbydau sy’n teithio ar neu o dan 24mya

 

Dosbarthu cyflymder

Mae Ffigur 4 yn cymharu canran y gyrwyr mewn bandiau cyflymder gwahanol o’r cyfnod cyn ac ar ôl gweithredu.

Roedd cyfran y cerbydau a oedd yn gyrru rhwng 20-24mya wedi cynyddu o 15% i 39%.

Gostyngodd cyfran y cerbydau a oedd yn gyrru dros 24mya o 80% i 43%.

Mae’r holl newidiadau hyn yn adlewyrchu’r ffaith bod cyflymderau traffig yn arafu’n gyffredinol, hyd yn oed ymysg y gyrwyr hynny sy’n gyrru’n sylweddol uwch na’r terfyn cyflymder. Ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder cenedlaethol o 20mya, gostyngodd canran y cerbydau a oedd yn teithio dros 35mya o 12% i 4%.

Ffigur 4: Cyfran y cerbydau sy’n teithio mewn gwahanol gategorïau cyflymder

Cyfran y cerbydau sy’n teithio mewn gwahanol gategorïau cyflymder

 

Cyflymderau 85ed ganradd (DPA 1.2)

Mae’r DPA hwn yn mesur ar ba gyflymder neu o dan ba gyflymder mae 85% o’r cerbydau a arsylwyd yn teithio. Mae’n fesur safonol a ddefnyddir i werthuso terfynau cyflymder ac mae’n mesur y cyflymder uchaf y mae’r rhan fwyaf o yrwyr yn ei ddefnyddio ar ffordd benodol. Yn wahanol i’r mesur cyflymder cymedrig, nid yw unrhyw gyflymder eithriadol o uchel sy’n uwch o lawer na’r terfyn cyflymder gan gyfran fach o yrwyr yn effeithio arno.

Wrth gymharu data cyn ac ar ôl gweithredu, gostyngodd y cyflymderau 85ed ganradd ym mhob ardal, fel y gwelir yn Ffigur 5 sy’n dangos:

  • Bod y cyflymderau 85ed ganradd wedi gostwng 3.9mya ar gyfartaledd.
  • Gwelwyd y gostyngiadau mwyaf mewn cyflymderau 85ed ganradd ym Mheniel (-6.4mya), Llanbedr Pont Steffan (-5.1mya) a Bae Penrhyn (-4.9mya).
  • Roedd y gostyngiad lleiaf yn Tylorstown/Pontygwaith (-2.6mya).

Ffigur 5: Cyflymder 85ed ganradd, cyn ac ar ôl gweithredu

Cyflymder 85ed ganradd, cyn ac ar ôl gweithredu

 

Cyflymder Cymedrig (DPA 1.3)

Mae Ffigur 6 yn dangos cymhariaeth rhwng cyflymderau cymedrig cyn ac ar ôl gweithredu (Gorffennaf/Medi 2023 o gymharu â mis Tachwedd 2023 a mis Ionawr 2024).

Gostyngodd cyflymderau 4.3mya, ar gyfartaledd, ar ôl cyflwyno’r terfyn 20mya. Roedd y gostyngiadau mwyaf ym Mheniel (- 7.1mya), Bae Penrhyn (-5.2mya) a Llanbedr Pont Steffan (-5.1mya). Roedd y newid lleiaf mewn cyflymderau cymedrig yn Tylorstown/Pontygwaith (-2.9mya).

Ffigur 6: Cyflymder cymedrig, cyn ac ar ôl gweithredu

Cyflymder cymedrig, cyn ac ar ôl gweithredu

 

Tueddiadau cyflymder traffig

Mae Ffigur 7 a Tabl 5 yn cadarnhau bod cyflymder cyfartalog wedi gostwng ym mhob un o’r deg ardal fonitro yn syth ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder o 20mya yn genedlaethol ym mis Medi 2023. Ar ôl hyn, roedd y cyflymder cyfartalog yn dal i ostwng ychydig mewn pump o’r deg ardal fonitro ond roedd wedi cynyddu ychydig yn y pum ardal arall.

Ffigur 7: Tueddiadau mewn cyflymderau cymedrig, Gorffennaf 2023 - Ionawr 2024

Tueddiadau mewn cyflymderau cymedrig, Gorffennaf 2023 - Ionawr 2024

Tabl 5: Tueddiadau mewn cyflymderau cymedrig, Gorffennaf 2023 - Ionawr 2024

Ardal Cyn Cyn Ar ôl Ar ôl
Gorffennaf 2023 (mya) Medi 2023 (mya) Tachwedd 2023 (mya) Ionawr 2024 (mya)
Llanbedr Pont Steffan 30.2 28.7 24.1 24.4
Bae Penrhyn 31.1 31.0 25.9 25.6
Llanrug 30.3 30.4 26.6 25.7
Allt-yr-ynn (Casnewydd) 27.1 25.4 23.1 23.3
Doc Penfro 28.1 29.0 24.1 23.5
Y Drenewydd 29.2 30.4 25.7 25.6
Tylorstown 29.9 27.2 25.7 25.5
Torfaen 30.1 * 26.2 26.4
Wrecsam 28.4 27.5 23.2 23.5
Peniel 31.5 29.7 23.2 23.7
Cymedr cyffredinol wedi’i bwysoli 30.5 * 24.6 24.6

*Data ddim ar gael ar gyfer ardal Torfaen

 

3.2 Dibynadwyedd amseroedd teithio

Prif ddata

Tabl 6: Asesiad DPA o amseroedd teithio ac amrywioldeb amseroedd teithio

DPA

Disgrifiad o’r DPA Asesiad

1.4

Amseroedd teithio cerbydau ac amrywioldeb amseroedd teithio ar y prif lwybrau trwodd  Yn gyffredinol, bu cynnydd ymylol mewn amseroedd teithio cyfartalog, a gostyngiad ymylol yn amrywioldeb yr amseroedd teithio (h.y. mae dibynadwyedd amseroedd teithio yn well)

Lleoliadau a dulliau

Mae data telemateg cerbydau dienw a gasglwyd gan INRIX wedi cael ei ddefnyddio i asesu amseroedd teithio a dibynadwyedd amseroedd teithio ar bymtheg o lwybrau, fel y’i cyflwynir yn Nhabl 7 ac yn Atodiad B.

Dewiswyd y llwybrau i gynrychioli ystod eang o wahanol fathau a hyd llwybrau gan gynnwys llwybrau gwledig rhyng-drefol, llwybrau trefol byr, llwybrau i gyrchfannau y tu allan i drefi, llwybrau cymudo a llwybrau ysgol.

Cafodd y data ei gasglu yn y ddau gyfeiriad ar bob llwybr ac ar gyfer cyfnodau brig yn y bore a gyda’r nos, fel bod pedwar amser teithio cyfartalog cyn gweithredu a phedwar amser teithio cyfartalog ar gyfer pob llwybr ar ôl gweithredu. Mae hyn yn darparu cyfanswm o 60 pwynt data ar draws y llwybrau, sydd wedi’u nodi’n llawn yn Nhabl 15 yn Atodiad C.

Cymerwyd data cyn gweithredu rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2023 a data ar ôl gweithredu rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2024. Cymerwyd data a gasglwyd ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau i osgoi gwyliau cyhoeddus o amgylch y Pasg sy’n effeithio ar gymariaethau tebyg am debyg.

Tabl 7: Llwybrau a ddefnyddiwyd ar gyfer asesu amseroedd teithio

Llwybr

Cyfeiriad Disgrifiad o’r llwybr Pellter (km)
1 A Aberystwyth i Aberteifi 61
B Aberteifi i Aberystwyth 61
2 A Llandudno i Fetws-y-coed 29
B Betws-y-coed i Landudno 29
3 A Caerfyrddin i Goleg Sir Gâr 27
B Coleg Sir Gâr i Gaerfyrddin 27
4 A Porthmadog i Gaernarfon 32
B Caernarfon i Borthmadog 32
5 A Caerffili i Gasnewydd 18
B Casnewydd i Gaerffili 18
6 A Wrecsam i Lannau Dyfrdwy (Shotton) 20
B Glannau Dyfrdwy (Shotton) i Wrecsam 20
7 A Tyddewi i Hwlffordd 25
B Hwlffordd i Dyddewi 25
8 A Ystrad Mynach i Crosskeys 12
B Crosskeys i Ystrad Mynach 12
9 A Sgeti i Ysbyty Treforys 9
B Ysbyty Treforys i Sgeti 9
10 A Pont-y-pŵl i Flaenafon 11
B Blaenafon i Bont-y-pŵl 11
11 A Bangor Is-coed i Ysbyty Maelor Wrecsam 10
B Ysbyty Maelor Wrecsam i Fangor Is-coed 10
12 A Ysbyty’r Barri i Ddinas Powys 8
B Dinas Powys i Ysbyty’r Barri 8
13 A Llanelwy i Ddinbych 9
B Dinbych i Lanelwy 9
14 A Trefforest i Nantgarw 7
B Nantgarw i Drefforest 7
15 A Coed-poeth i Ysbyty Maelor Wrecsam 5
B Ysbyty Maelor Wrecsam i Goed-poeth 5

Canlyniadau monitro - amseroedd teithio

Mae Ffigur 8 yn cyflwyno amseroedd teithio cyfartalog ar y pymtheg llwybr, yn ôl cyfeiriad a chyfnod (AM/PM), ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya. 

Mae Ffigur 9 a Ffigur 10 yn dangos y newid absoliwt a chymharol mewn amseroedd teithio o gymharu â’r cyfnod cyn gweithredu.

Cyfrifwyd yr amser teithio cyfartalog ar gyfer y ddau gyfeiriad a chyfnod amser ar bob un o’r pymtheg llwybr, felly mae cyfanswm o 60 pwynt data.

  • Yn y rhan fwyaf o achosion (55 allan o 60), mae amseroedd teithio cyfartalog wedi cynyddu. O’r rhain, mae bron pob un wedi cynyddu llai na 2 funud. Mewn dros hanner yr achosion, maent wedi cynyddu llai na munud.
  • Yn y rhan fwyaf o achosion lle’r oedd amseroedd teithio cyfartalog wedi cynyddu (38 o’r 55), roeddent wedi cynyddu llai na 5%. Dim ond mewn 7 achos y gwelwyd cynnydd o fwy nag 8%.
  • Y newid mwyaf yn yr amseroedd teithio cyfartalog oedd cynnydd o 3 munud ar y llwybr o Aberystwyth i Aberteifi yn ystod y cyfnod brig gyda’r nos. Fodd bynnag, dim ond 5% o gynnydd yw hyn mewn termau cymharol gan fod y llwybr hwn, sy’n 61km, yn hirach o lawer na’r lleill.
  • Y newid mwyaf mewn termau cymharol oedd cynnydd o 10% yn yr amser teithio ar lwybr Blaenafon i Bont-y-pŵl (rhif y llwybr 10B) yn ystod cyfnod y bore.

Ffigur 8: Amseroedd teithio cyfartalog yn ôl llwybr ar ôl gweithredu¹²

Amseroedd teithio cyfartalog yn ôl llwybr ar ôl gweithredu


¹² Gweler Tabl 7 am enwau’r llwybrau sydd wedi’u rhifo 1-15 ar yr echelin x. Mae Atodiad B yn cynnwys map sy’n dangos lleoliadau’r llwybrau.


 

Ffigur 9: Newid mewn amseroedd teithio cyfartalog (ar ôl gweithredu o gymharu â chyn gweithredu)

Newid mewn amseroedd teithio cyfartalog (ar ôl gweithredu o gymharu â chyn gweithredu)

Ffigur 10: Newid canrannol mewn amseroedd teithio cyfartalog (ar ôl gweithredu o gymharu â chyn gweithredu)

Newid canrannol mewn amseroedd teithio cyfartalog (ar ôl gweithredu o gymharu â chyn gweithredu)

 

Canlyniadau monitro - dibynadwyedd amseroedd teithio

Mae dibynadwyedd amseroedd teithio yn fesur o ba mor rhagweladwy yw unrhyw amrywioldeb amseroedd teithio i'r unigolyn sy'n teithio. Mae amseroedd teithio annisgwyl yn cael eu hachosi gan dagfeydd traffig fel arfer, sy’n golygu y bydd yr un daith ar yr un adeg o’r dydd yn cymryd amser annisgwyl o wahanol i’w chwblhau o’r naill ddiwrnod i’r llall.

Mae amrywioldeb amseroedd teithio wedi cael ei gynnwys yn y fframwaith monitro cenedlaethol fel DPA i asesu a yw’r terfyn cyflymder diofyn newydd ar ffyrdd cyfyngedig wedi arwain at unrhyw newid o ran dibynadwyedd amseroedd teithio. Ar gyfer y DPA hwn, mae dibynadwyedd wedi cael ei ddiffinio fel yr ystod amser teithio ar lwybr penodol rhwng y 5% arafaf (y 5ed ganradd) a’r 5% cyflymaf (y 95ed ganradd) o bob taith.

Mae dibynadwyedd amser teithio cyfartalog wedi cael ei gyfrifo ar gyfer y ddau gyfeiriad yn y bore (AM) ac yn y prynhawn (PM) ar bob un o’r pymtheg llwybr, felly mae cyfanswm o 60 pwynt data.

Mae Ffigur 11 yn dangos yr amrywioldeb amser teithio cyfartalog ar gyfer y cyfnod cyn gweithredu ar y chwith a’r cyfnod ar ôl gweithredu ar y dde. Mae gwaelod pob bar yn cynrychioli amser teithio’r 5ed ganradd ac mae’r top yn cynrychioli amser teithio’r 95ed ganradd. Felly, mae hyd pob bar yn cynrychioli amrywioldeb amseroedd teithio ar hyd y llwybr hwnnw. Gallwn weld bod y bar cyfan wedi symud i fyny mewn llawer o achosion, sy’n dangos cynnydd bach yn amser cyfartalog y daith, ond mae hyd y bar wedi lleihau, sy’n golygu llai o amrywioldeb o ran amseroedd teithio. Mae hyn yn golygu bod amseroedd teithio ychydig yn hirach ond yn fwy dibynadwy ar y rhan fwyaf o lwybrau, fel ei bod yn haws rhagweld pa mor hir y bydd y daith yn ei chymryd.

Mae Ffigurau 12 a 13 yn dangos y newidiadau yn amrywioldeb yr amseroedd teithio cyfartalog mewn termau absoliwt (munudau) a newidiadau cymharol (canran).

Ffigur 11: Amrywioldeb amseroedd teithio cyfartalog yn ôl llwybr i’r ddau gyfeiriad a chyfnod amser (AM/PM)¹³

Amrywioldeb amseroedd teithio cyfartalog yn ôl llwybr i’r ddau gyfeiriad a chyfnod amser (AM/PM)

Amrywioldeb amseroedd teithio cyfartalog yn ôl llwybr i’r ddau gyfeiriad a chyfnod amser (AM/PM)


¹³ Gweler Tabl 7 am enwau’r llwybrau sydd wedi’u rhifo 1-15 ar yr echelin x. Mae Atodiad B yn cynnwys map sy’n dangos lleoliadau’r llwybrau.


 

Ffigur 12: Newid absoliwt mewn amrywioldeb amseroedd teithio (ar ôl gweithredu o gymharu â chyn gweithredu)¹⁴

Newid absoliwt mewn amrywioldeb amseroedd teithio (ar ôl gweithredu o gymharu â chyn gweithredu)

Ffigur 13: Newid cymharol mewn amrywioldeb amseroedd teithio (ar ôl gweithredu o gymharu â chyn gweithredu)

Newid cymharol mewn amrywioldeb amseroedd teithio (ar ôl gweithredu o gymharu â chyn gweithredu)

Yn gyffredinol, mae’n ymddangos bod amseroedd teithio yn fwy dibynadwy.

  • Yn y rhan fwyaf o achosion (50 allan o 60), mae amrywioldeb amseroedd teithio cyfartalog wedi gostwng.
  • Mewn bron i hanner mae’r amrywioldeb cyfartalog wedi gostwng mwy na munud.
  • Mewn dros hanner yr achosion (33 allan o 60) mae’r amrywioldeb cyfartalog wedi gostwng dros 20%. Y gostyngiad mwyaf oedd 50% ar y llwybr rhwng Glannau Dyfrdwy (Shotton) a Wrecsam yn ystod cyfnod y bore (-5:36 minutes).
  • Mewn nifer fach o achosion (10 allan o 60), cynyddodd amrywioldeb amseroedd teithio ond mewn dim ond dau o’r achosion hyn, cynyddodd fwy na munud, ar lwybr Coleg Sir Gâr i Gaerfyrddin (3B) lle gwelwyd y cynnydd mwyaf o +1:36 munud (cynnydd o 53%) yn ystod cyfnod y bore.

¹⁴ Gweler Tabl 7 am enwau’r llwybrau sydd wedi’u rhifo 1-15. Dangosir lleoliadau’r llwybrau yn Atodiad B.


 

3.3 Newid mewn agweddau tuag at ddefnyddio teithio llesol mewn ardaloedd adeiledig

Nid oes data newydd ar gael i olrhain y DPA ar agweddau at deithio llesol. Fodd bynnag, mae canlyniadau ymchwil 2022 ar y mater hwn wedi’u cynnwys yma er gwybodaeth.

Yn 2021, comisiynodd Llywodraeth Cymru Living Streets i weithio gydag ysgolion cynradd yn yr ardaloedd terfyn cyflymder 20mya cam 1 ac mewn ardaloedd rheoli ar wahân (a arhosodd ar 30mya yn bennaf). Y nod oedd deall yn well ymddygiad teithio ac agweddau pobl at deithio llesol (cerdded, olwyno a beicio).

Dangosodd arolygon llinell sylfaen yn rhan gyntaf blwyddyn academaidd 2021/22 fod 49% o blant ar draws yr ardaloedd cam 1 a’r ardaloedd rheoli naill ai wedi cerdded neu feicio i’r ysgol. 

Dangosodd arolygon a gynhaliwyd yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn academaidd (rhwng mis Ionawr a mis Mai, yn dibynnu ar yr ardal) fod teithio llesol wedi cynyddu ymhlith plant ysgol yn yr ardaloedd cam 1 ac yn yr ardaloedd rheoli.  Fodd bynnag, yn yr ysgolion cam 1 yn yr ardaloedd 20mya cynyddodd teithio llesol o 49% i 74% (cynnydd o 25 pwynt canran), o gymharu â chynnydd o 49% i 67% (cynnydd o 18 pwynt canran) yn yr ardaloedd rheoli.

Maint sampl yr astudiaeth oedd 3,036 o blant.

Tabl 8: Asesiad DPA o deithio llesol

DPA

Disgrifiad o’r DPA Asesiad (Tachwedd 2022)
3.1 Newid mewn agweddau tuag at ddefnyddio teithio llesol mewn ardaloedd adeiledig Cynnydd o 25 pwynt canran yn y defnydd o deithio llesol ar deithiau i’r ysgol mewn ardaloedd 20mya cam 1, o gymharu â chynnydd o 18 pwynt canran mewn lleoliadau rheoli 30mya.

 

3.4. Rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr

Prif ddata

Mae Tabl 9 yn cyflwyno’r prif asesiad DPA ar gyfer y rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr ar sail data a gasglwyd mewn tair ardal cyn ac ar ôl gweithredu’r polisi terfyn cyflymder 20mya.

Tabl 9: Asesiad DPA o’r rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr

DPA

Disgrifiad o’r DPA Asesiad
3.2 Newid o ran ymddygiad ildio cerbydau a cherddwyr Nid yw’r canlyniadau’n bendant ar hyn o bryd, gan fod y newidiadau mewn ymddygiad ildio yn amrywio rhwng y safleoedd a aseswyd.

Lleoliadau a dulliau

Mae asesiadau o’r rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr yn ystyried sut mae gyrwyr yn ymateb i gerddwyr sy’n bwriadu croesi neu sydd eisoes yn croesi’r ffordd. Roedd Trafnidiaeth Cymru wedi comisiynu VivaCity i osod offer camera i fonitro’r rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr. Mae data wedi cael ei brosesu ar gyfer cyfnod cyn gweithredu, pan oedd y terfyn cyflymder yn 30mya (28 Chwefror - 31 Mawrth 2023) a chyfnod ar ôl gweithredu, pan oedd y terfyn cyflymder yn 20mya (19 Chwefror - 18 Mawrth 2024), mewn tri lleoliad croesi i gerddwyr:

  1. Gilwern - Heol Crucywel
  2. Queensferry - Ffordd yr Orsaf
  3. Y Ddraenen Caerdydd - Excalibur Drive (croesfan sebra)

Mae meddalwedd soffistigedig sy’n gysylltiedig â’r camerâu yn neilltuo’r rhyngweithio a welir rhwng cerbydau a cherddwyr i un o bum categori ar wahân:

  • Cerbyd wedi arafu neu stopio, er mwyn gadael i gerddwr groesi.
  • Cerbyd wedi cynnal y cyflymder, er bod cerddwr yn aros wrth y groesfan.
  • Cerbyd wedi cynnal y cyflymder, er bod cerddwr eisoes yn croesi’r ffordd.
  • Cerbyd wedi cyflymu, er bod cerddwr yn aros wrth y groesfan.
  • Cerbyd wedi cyflymu, er bod cerddwr eisoes yn croesi’r ffordd.  

Canlyniadau monitro - rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr

Dangosir y canlyniadau monitro yn Nhabl 10.  Gall ymddygiad gyrwyr amrywio’n sylweddol rhwng gwahanol safleoedd yn dibynnu ar gynllun y ffordd a nifer o ffactorau eraill yn ogystal â’r terfyn cyflymder. Er enghraifft, cyn i’r terfyn cyflymder newid ar safle Gilwern, roedd dros 70% o’r rhyngweithio’n ymwneud â gyrrwr yn arafu neu’n stopio wrth y groesfan, ond yn y ddau safle arall roedd hyn yn llai nag 20%. Felly, mae’r newid mewn ymddygiad ildio ers cyflwyno’r terfyn cyflymder newydd wedi cael ei asesu ar gyfer pob un o’r tri safle ar wahân.

Yn y ddau gyfnod monitro, nid yw’r achosion a gofnodwyd o ‘gynnal cyflymder er bod cerddwr yn croesi’ o reidrwydd yn arwydd o ymddygiad peryglus, gan y byddai’n dibynnu ar gyflymder y cerbyd a’r pellter oddi wrth y groesfan a lleoliad y cerddwr.

Roedd y newidiadau a welwyd yn fach ac yn amrywio rhwng y safleoedd, felly mae’n anodd dod i unrhyw gasgliadau pendant ynghylch effaith y newid yn y terfyn cyflymder ar ymddygiad ildio.

Ar ddau o’r tri safle, roedd cynnydd bach yng nghyfran y rhyngweithio a oedd yn ymwneud â cherbydau’n cyflymu wrth nesáu at groesfan lle’r oedd cerddwr yn aros. Fodd bynnag, ni welwyd hyn ar groesfan sebra safle’r Ddraenen Caerdydd.

Tabl 10: Rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr

  Gilwern Queensferry

Y Ddraenen Caerdydd

2023 2024 Newid 2023 2024 Newid 2023 2024

Newid

Wedi arafu neu stopio

71% 74% +3% 11% 9% -2% 17% 15% -2%

Wedi cynnal cyflymder

24% 18% -6% 55% 56% -1% 82% 84% +2%

- cerddwr yn aros

21%

13%

-8% 46% 49% -3% 31% 33% +2%

- cerddwr yn croesi

3% 5% +2% 9% 7% -2% 51% 51% -

Wedi cyflymu

5% 8% +3% 34% 35% +1% 1% 1% -

- cerddwr yn aros

5% 7% +2% 29% 32% +3% 1% 1% -

- cerddwr yn croesi

0% 1% +1% 5% 3% -2% 1% 1% -

 

Ffigur 14: Cymharu’r rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr

Cymharu’r rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr

 

Cymharu â cham 1

Ar gyfer adroddiadau monitro cam 1, cafodd y rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr ei ddadansoddi ar gyfer tri safle lle cyflwynwyd y terfyn cyflymder o 20mya (Y Fenni, Bwcle a Gogledd Caerdydd) a thri lleoliad rheoli lle’r oedd y terfyn cyflymder yn dal i fod yn 30mya (Gilwern, Queensferry a’r Ddraenen Caerdydd).

Cafodd cyfanswm y rhyngweithio ar gyfer y tri safle 20mya cam 1 ei gymharu â’r cyfanswm ar gyfer y tri safle 30mya yn ystod cyfnodau tebyg ym mis Mehefin 2022 a mis Mawrth 2023. Roedd yr asesiad cam 1 hwn yn dangos bod llai o gerbydau’n cyflymu wrth agosáu at gerddwyr sy’n croesi mewn ardal 20mya o gymharu ag ardal 30mya. Fodd bynnag, gan fod yr asesiad yn cymharu gwahanol leoliadau, ni allem fod yn hyderus bod unrhyw wahaniaeth ymddangosiadol mewn ymddygiad ildio yn deillio o’r newid yn y terfyn cyflymder yn hytrach na ffactorau eraill sy’n benodol i’r safle, fel cynllun y ffordd a’r math o groesfan.

Mae’r asesiad o’r data diweddaraf (Tabl 10 a Ffigur 14) yn cymharu data ymddygiad ildio rhwng gwahanol gyfnodau amser (cyn ac ar ôl gweithredu) yn yr un lleoliadau, a ddylai arwain at asesiad mwy cadarn o effeithiau’r polisi dros amser.

Ffigur 15: Cymharu’r rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr ar gam 1

Cymharu’r rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr ar gam 1

3.5 Ansawdd aer

Prif ddata

Mae Tabl 11 yn cyflwyno’r prif asesiad DPA ar gyfer ansawdd aer ar sail data a gasglwyd yn y Fenni, Caerdydd (Gogledd) a Magwyr (ardal Glannau Hafren) rhwng mis Mai 2022 a mis Ebrill 2024. Cafodd terfynau cyflymder eu gostwng yn 2022 ym mhob un o’r tair ardal fel rhan o gam 1 y rhaglen 20mya.

Tabl 11: Asesiad DPA o ansawdd aer

DPA

Disgrifiad o’r DPA Asesiad
4.1 Newid yn ansawdd yr aer lleol - NO2 Dim effaith sylweddol arwyddocaol.

Lleoliadau a dulliau

Yn 2021, comisiynodd TrC Jacobs i ddatblygu methodoleg asesu ansawdd aer i asesu unrhyw newidiadau mewn llygredd aer a allai ddeillio o weithredu’r terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya. Defnyddiwyd synwyryddion ansawdd aer mewn tri lleoliad cam 1 yng Nghaerdydd, Glannau Hafren (Magwyr) a’r Fenni, i fonitro’r gwahaniaethau mewn crynodiadau nitrogen deuocsid (NO2), deunydd gronynnol sy’n llai na 10 µm mewn diamedr (PM10) a deunydd gronynnol llai na 2.5 µm mewn diamedr (PM2.5). Gosodwyd parau o synwyryddion ansawdd aer ar yr un darn o ffordd, y naill o fewn yr ardal terfyn cyflymder 20mya a gyflwynwyd a’r llall y tu allan iddi.

Cafodd y synwyryddion eu calibradu yn erbyn gorsaf gyfeirio fwy cywir a oedd yn rhan o Rwydwaith Ansawdd Aer Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cyn cael eu gosod ac o bryd i’w gilydd yn ystod y cyfnod monitro. Serch hynny, mae’r canlyniadau’n dal i fod yn destun rhywfaint o wall mesur.

Cafodd data ei gasglu a’i ddadansoddi o fis Mai 2022 hyd at fis Ebrill 2024. Er bod crynodiadau o PM10 a PM2.5 wedi cael eu mesur, canfuwyd nad oedd allyriadau traffig ffyrdd ar ffyrdd cyfagos yn cyfrannu llawer at y crynodiadau gronynnol hyn ym mhob pâr o synwyryddion.  Felly, mae’r asesiad wedi canolbwyntio ar y llygrydd NO2, y mae allyriadau egsôst traffig ar y ffyrdd yn dylanwadu’n gryf arno.

Yn ogystal â monitro ansawdd aer, cafodd y cyflymder a’r traffig hefyd eu monitro mewn lleoliad cyfagos o fewn ardal y terfyn cyflymder 20mya yng Nghaerdydd a Magwyr ac mewn lleoliadau cyfagos y tu mewn a’r tu allan i ardal y terfyn cyflymder 20mya yn y Fenni.  Lle bo’n bosibl, cafodd y data traffig ei gymharu â’r data ansawdd aer i asesu a ellid dweud yn rhesymol bod unrhyw wahaniaethau a welwyd mewn crynodiadau NO2 a fesurwyd yn deillio o wahaniaethau mewn cyflymder cerbydau ar ôl cyflwyno’r terfyn 20mya.

 

Canlyniadau monitro - ansawdd aer

Mae Tabl 12 yn cynnwys crynodeb o’r crynodiadau NO2 cyfartalog a fesurwyd yn y synwyryddion y tu mewn a’r tu allan i bob un o’r ardaloedd terfyn cyflymder 20 mya. Roedd yn rhaid symud y synhwyrydd y tu allan i’r ardal 20mya yng Nghaerdydd o ‘leoliad y tu allan 1’ i ‘leoliad y tu allan 2’ oherwydd gwaith ffordd.

Tabl 12: Crynodiadau NO2 cyfartalog a gofnodwyd rhwng mis Mai 2022 a mis Ebrill 2024

Ardal Y tu mewn i’r ardal 20mya
(µg/m3)

Y tu allan i’r ardal 20mya
(µg/m3)

Gwahaniaeth y tu mewn i’r ardal 20mya
(µg/m3)
Gwall Mesur
(µg/m3)

Caerdydd (Lleoliad y Tu Allan 1)

21.0 20.6 +0.4 3.6 - 3.8

Caerdydd (Lleoliad y Tu Allan 2)

21.7 23.3 -1.6 1.4 - 4.3

Magwyr (Glannau Hafren)

20.2 25.8 -5.6 2.6 - 5.1

Y Fenni

15.0 14.5 +0.5 1.6 - 2.7

Ffigur 16: Crynodeb o ddata crynodiadau NO2 ym mhob ardal

Crynodeb o ddata crynodiadau NO2 ym mhob ardalYm mhob lleoliad monitro, roedd gwahaniaethau bach yn y crynodiadau NO2 a fesurwyd y tu mewn i’r ardal terfyn cyflymder 20mya o gymharu â’r tu allan i’r ardal terfyn cyflymder 20mya:

  • Yng Nghaerdydd (Lleoliad y Tu Allan 2) a Magwyr, roedd y crynodiadau NO2 a fesurwyd o fewn y terfyn cyflymder 20mya yn is na’r rhai y tu allan i’r terfyn cyflymder 20mya.
  • Yng Nghaerdydd (Lleoliad y Tu Allan 1) a’r Fenni, roedd y crynodiadau NO2 a fesurwyd o fewn y terfyn cyflymder 20mya ychydig yn uwch na’r rhai y tu allan i’r terfyn cyflymder 20mya, ond yn gyfforddus o fewn ystod y gwall mesur.

Roedd y gwahaniaethau ansawdd aer a gofnodwyd yn fach ac o fewn gwall mesur cyfartalog y synwyryddion ym mhob lleoliad ar wahân i Fagwyr.

Mae’n bosibl i’r gwahaniaethau gael eu hegluro gan ffactorau ac amgylchiadau eraill sy’n benodol i’r safle a oedd wedi achosi gwahaniaethau mewn llif traffig neu weithgarwch cyflymu rhwng lleoliadau’r synwyryddion, a allai ddylanwadu ar allyriadau traffig ffyrdd yn fwy na newidiadau bach mewn cyflymder cerbydau. Mae’r ffactorau hyn yn cynnwys gwaith adeiladu cyfagos a rheoli traffig cysylltiedig, agosrwydd at lystyfiant ac achosion o gau ffyrdd dros dro gerllaw, ac maent yn cael eu hegluro’n fanwl yn yr Adroddiad Monitro Ansawdd Aer - Cam 1.¹⁵


¹⁵ Cyhoeddwyd ym mis Mai 2024 yn https://trc.cymru/amdanom-ni/tryloywder/cyhoeddiadau/terfyn-cyflymder-20mya-diofyn


 

4. Crynodeb

Tabl 13: Crynodeb o’r asesiad DPA (hyd at Ebrill 2024)

DPA

Disgrifiad o’r DPA

Asesiad Effaith¹⁶
1.1 Canran sy’n teithio ar neu o dan 24mya (fel procsi ar gyfer cydymffurfio â’r terfyn cyflymder 20mya) Cynnydd o 20% i 58% yn y nifer sy’n teithio ar neu o dan 24mya

Cadarnhaol iawn 

1.2 Newid yn y cyflymder 85ed ganradd Gostyngiad o 3.9mya mewn cyflymder

Cadarnhaol iawn

1.3 Newid yn y cyflymder cymedrig Gostyngiad o 4.3mya mewn cyflymder

Cadarnhaol iawn

1.4 Amseroedd teithio cerbydau ac amrywioldeb amseroedd teithio, ar sail y gwahaniaeth rhwng amseroedd teithio’r 5ed a’r 95ed ganradd fel procsi ar gyfer dibynadwyedd amseroedd teithio, ar brif lwybrau trwodd

Cynnydd ymylol mewn amseroedd teithio, ar gyfartaledd.

Gostyngiad ymylol yn amrywioldeb yr amseroedd teithio (h.y. mae amseroedd teithio yn fwy dibynadwy)

Ychydig yn negyddol

Ychydig yn gadarnhaol

3.2 Newid o ran ymddygiad ildio cerbydau a cherddwyr Nid yw’n bendant, gan fod y newidiadau mewn ymddygiad ildio yn amrywio rhwng y safleoedd a aseswyd.

Dim newid amlwg

4.1 Newid yn ansawdd yr aer lleol - NO2 Dim effaith sylweddol wedi’i nodi

Dim newid amlwg


¹⁶ Lle bo newid yn cael ei ddisgrifio fel effaith gadarnhaol, deellir hyn yn yr ystyr bod y canlyniad yn cyd-fynd ag amcanion y terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig.


 

Atodiad A: Lleoliadau ar gyfer monitro cyflymder

Atodiad B: Llwybrau monitro amseroedd teithio

Atodiad C: Gwybodaeth Ychwanegol

Tabl 14: Data monitro lleoliadau tarddiad ac amserlenni

DPA

Ardaloedd / safleoedd / llwybrau Cyfnod Nodiadau

1.1: Cydymffurfiaeth traffig â’r terfyn cyflymder o 20mya

1.2: Newid yn y cyflymder 85ed ganradd

1.3: Newid yn y cyflymder cymedrig

Llanbedr Pont Steffan, Bae Penrhyn, Llanrug, Allt-yr-ynn (Casnewydd), Doc Penfro, Y Drenewydd, Tylorstown/ Pontygwaith, Torfaen (Cwmbrân, Pont-y-pŵl a Blaenafon), Wrecsam, Peniel

Gorffennaf - Medi 2023 (cyn)

Tachwedd 2023-Ionawr 2024 (ar ôl)

Ni chafodd y 10 ardal hyn eu dadansoddi ar gyfer cam 1 ac maent yn newydd ar gyfer y rhaglen fonitro genedlaethol

1.4: Amseroedd teithio cerbydau ac amrywioldeb amseroedd teithio ar y prif lwybrau trwodd

  • Caerffili i Gasnewydd
  • Wrecsam i Lannau Dyfrdwy
  • Llandudno i Fetws-y-coed
  • Porthmadog i Gaernarfon
  • Llanelwy i Ddinbych
  • Pont-y-pŵl i Flaenafon
  • Coed-poeth i Ysbyty Maelor Wrecsam
  • Ysbyty’r Barri i Ddinas Powys
  • Ystrad Mynach i Crosskeys
  • Caerfyrddin i Goleg Sir Gâr
  • Aberystwyth i Aberteifi
  • Sgeti i Ysbyty Treforys
  • Bangor Is-coed i Ysbyty Maelor Wrecsam
  • Tyddewi i Hwlffordd
  • Trefforest i Nantgarw

Chwefror-Ebrill 2023 (cyn)

Chwefror-Ebrill 2024 (ar ôl)

Ni chafodd y llwybrau hyn eu dadansoddi ar gyfer cam 1 ac maent yn newydd ar gyfer y rhaglen fonitro genedlaethol

3.2: Newid o ran ymddygiad ildio cerbydau a cherddwyr

Stryd y Brenin, Y Fenni
Bistre Avenue, Bwcle
Heol Maes-y-Coed, Caerdydd
*Heol Crucywel, Gilwern 
*Heol yr Orsaf, Queensferry
*Excalibur Drive, Caerdydd

Chwefror-Mawrth 2023 (cyn)

Chwefror-Mawrth 2024 (ar ôl)

Cafodd yr holl safleoedd eu dadansoddi yng ngham 1. Mae tri safle, sydd wedi’u marcio â * yn cael eu dadansoddi ar gyfer y rhaglen fonitro genedlaethol.

4.1: Newid yn ansawdd yr aer lleol - NO2

Caerdydd (Gogledd)
Magwyr (Glannau Hafren)
Y Fenni

Mai 2022 - Ebrill 2024 Cafodd y safleoedd hyn eu dadansoddi yng ngham 1.

 

Tabl 15: Amseroedd teithio ac amrywioldeb amseroedd teithio

 

Llwybr AM/PM Amser teithio (Cyn) Amser teithio (Ar ôl) Newid (mm:ee) Newid (%) Amrywioldeb amseroedd teithio (Cyn) Amrywioldeb amseroedd teithio (Ar ôl) Newid (mm:ee) Newid (%)
1 Aberystwyth i Aberteifi AM 01:04:35 01:07:33 +02:58 5% 00:09:10 00:07:46 -01:24 -15%
PM 01:04:30 01:06:55 +02:26 4% 00:06:34 00:06:43 +00:09 2%
Aberteifi i Aberystwyth AM 01:04:24 01:06:50 +02:26 4% 00:07:38 00:06:46 -00:52 -11%
PM 01:04:13 01:07:13 +03:00 5% 00:07:30 00:06:40 -00:50 -11%
2 Llandudno i Fetws-y-coed AM 00:29:28 00:31:06 +01:37 6% 00:04:11 00:03:38 -00:33 -13%
PM 00:29:51 00:31:12 +01:21 5% 00:03:51 00:03:38 -00:13 -6%
Betws-y-coed i Llandudno AM 00:31:54 00:32:16 +00:22 1% 00:07:19 00:04:44 -02:35 -35%
PM 00:31:52 00:32:40 +00:48 2% 00:04:58 00:03:36 -01:23 -28%
3 Caerfyrddin i Goleg Sir Gâr AM 00:28:55 00:30:36 +01:41 6% 00:03:53 00:04:28 +00:35 15%
PM 00:28:48 00:31:05 +02:17 8% 00:03:21 00:04:06 +00:44 22%
Coleg Sir Gâr i Gaerfyrddin AM 00:28:55 00:31:38 +02:43 9% 00:03:01 00:04:37 +01:36 53%
PM 00:28:52 00:30:57 +02:05 7% 00:02:42 00:04:00 +01:18 48%
4 Porthmadog i Gaernarfon AM 00:29:32 00:30:21 +00:49 3% 00:04:00 00:03:27 -00:33 -14%
PM 00:30:06 00:30:27 +00:21 1% 00:07:35 00:04:07 -03:28 -46%
Caernarfon i Borthmadog AM 00:29:58 00:31:26 +01:28 5% 00:04:11 00:04:02 -00:09 -4%
PM 00:30:14 00:30:51 +00:37 2% 00:06:01 00:03:43 -02:18 -38%
5 Caerffili i Gasnewydd AM 00:27:07 00:29:21 +02:14 8% 00:07:51 00:06:10 -01:42 -22%
PM 00:26:50 00:28:25 +01:34 6% 00:05:21 00:03:06 -02:14 -42%
Casnewydd i Gaerffili AM 00:25:36 00:27:45 +02:09 8% 00:05:01 00:04:54 -00:07 -2%
PM 00:28:58 00:29:18 +00:20 1% 00:10:28 00:05:25 -05:03 -48%
6 Wrecsam i Lannau Dyfrdwy AM 00:27:10 00:28:03 +00:53 3% 00:09:33 00:04:57 -04:36 -48%
PM 00:27:38 00:28:39 +01:01 4% 00:07:13 00:04:45 -02:28 -34%
Glannau Dyfrdwy i Wrecsam AM 00:28:42 00:29:01 +00:19 1% 00:11:12 00:05:36 -05:36 -50%
PM 00:28:28 00:28:53 +00:26 2% 00:07:21 00:04:04 -03:17 -45%
7 Tyddewi i Hwlffordd AM 00:27:22 00:27:41 +00:20 1% 00:05:07 00:05:09 +00:02 1%
PM 00:27:41 00:27:41 00:00 0% 00:04:32 00:04:38 +00:06 2%
Hwlffordd i Dyddewi AM 00:27:33 00:28:14 +00:41 2% 00:04:32 00:04:18 -00:14 -5%
PM 00:27:34 00:27:36 +00:02 0% 00:04:34 00:04:00 -00:35 -13%
8 Ystrad Mynach i Crosskeys AM 00:17:07 00:18:32 +01:25 8% 00:04:12 00:03:16 -00:55 -22%
PM 00:17:12 00:18:33 +01:21 8% 00:03:20 00:03:07 -00:13 -6%
Crosskeys i Ystrad Mynach AM 00:18:10 00:19:13 +01:02 6% 00:06:17 00:04:42 -01:35 -25%
PM 00:18:27 00:19:32 +01:04 6% 00:05:10 00:04:14 -00:56 -18%
9 Sgeti i Ysbyty Treforys AM 00:17:01 00:17:04 +00:03 0% 00:06:22 00:03:46 -02:36 -41%
PM 00:18:19 00:17:42 -00:37 -3% 00:05:30 00:02:53 -02:37 -48%
Ysbyty Treforys i Sgeti AM 00:18:19 00:17:42 -00:37 -3% 00:05:30 00:02:53 -02:37 -48%
PM 00:18:23 00:17:35 -00:47 -4% 00:05:42 00:03:50 -01:53 -33%
10 Pont-y-pŵl i Flaenafon AM 00:14:00 00:15:09 +01:09 8% 00:02:37 00:03:27 +00:50 32%
PM 00:14:57  00:15:59 +01:02 7% 00:03:44 00:03:33 -00:12 -5%
Blaenafon i Bont-y-pŵl AM 00:14:29 00:16:00 +01:31 10% 00:05:50 00:05:26 -00:23 -7%
PM 00:12:48 00:14:02 +01:14 10% 00:01:57 00:02:39 +00:42  36%
11 Bangor Is-coed i Ysbyty Maelor Wrecsam AM 00:14:14 00:14:25 +00:11 1% 00:04:21 00:02:21 -02:00 -46%
PM 00:14:31 00:14:42 +00:11 1% 00:03:34 00:02:16 -01:18 -37%
Ysbyty Maelor Wrecsam i Fangor Is-coed AM 00:15:17 00:15:24 +00:07  1% 00:03:31 00:02:14 -01:17 -37%
PM 00:15:44 00:15:51 +00:07 1% 00:03:32 00:01:58 -01:34 -44%
12 Ysbyty’r Barri i Ddinas Powys AM 00:14:18 00:14:17 -00:01  0% 00:04:59 00:02:26 -02:33 -51%
PM 00:13:17 00:13:48 +00:32 4% 00:02:25 00:01:32 -00:53 -37%
Dinas Powys i Ysbyty’r Barri AM 00:13:03 00:13:28 +00:25 3% 00:02:59 00:01:48 -01:11 -40%
PM 00:13:55  00:14:24 +00:28 3% 00:04:12 00:03:08 -01:04 -25%
13 Llanelwy i Ddinbych AM 00:12:33 00:13:10 +00:36 5% 00:03:31 00:02:46 -00:45 -21%
PM 00:12:30 00:13:01 +00:31 4% 00:02:28 00:01:58 -00:30 -20%
Dinbych i Lanelwy AM 00:13:02 00:13:35 +00:32 4% 00:03:14 00:02:17 -00:57 -29%
PM 00:12:48  00:13:29 +00:41 5% 00:02:25 00:01:59 -00:26 -18%
14 Trefforest i Nantgarw AM 00:12:04 00:12:59 +00:55 8% 00:04:06 00:04:20 +00:14  6%
PM 00:13:47 00:12:58 -00:50 -6% 00:06:08  00:03:32 -02:36 -42%
Nantgarw i Drefforest AM 00:10:01 00:10:39 +00:38 6% 00:02:01 00:01:35 -00:26 -22%
PM 00:11:12 00:11:06 -00:06 -1% 00:03:43 00:02:04 -01:39 -44%
15 Coed-poeth i Ysbyty Maelor Wrecsam AM 00:08:20 00:08:52 +00:32 6% 00:03:40 00:03:07 -00:33 -15%
PM 00:07:50 00:08:25 +00:35 7% 00:01:56 00:01:39 -00:17 -14%
Ysbyty Maelor Wrecsam i Goed-poeth AM 00:07:53 00:08:26 +00:33 7% 00:02:09 00:01:40 -00:29 -22%
PM 00:08:46 00:09:07 +00:21 4% 00:03:04 00:01:59 -01:05 -35%

 

Llwytho i lawr