Allyriadau carbon 2021/22

Submitted by Content Publisher on

Allyriadau carbon 2021/22

Mae cyfanswm yr allyriadau wedi cynyddu 62,090 tCO2e o’i gymharu â 2020/21.

Mae hyn oherwydd y cynnydd yn ein gwasanaethau ar ôl codi cyfyngiadau COVID-19, yn ogystal â’r cynnydd mewn gwariant wrth i ni symud ymlaen i drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd

 

 

Ein hôl troed carbon 2021/22

Cwmpas 1

Allyriadau uniongyrchol sy’n deillio o weithrediadau a gweithgareddau y mae TrC yn berchen arnynt neu’n eu rheoli.

 

Cwmpas 2

Allyriadau anuniongyrchol o ynni sy’n cael ei gyflenwi drwy’r grid

 

Cwmpas 3

Allyriadau anuniongyrchol sy’n deillio o weithgareddau sy’n ymwneud â gweithrediadau TrC, ond sydd ddim o fewn ein rheolaeth uniongyrchol

 

Cwmpas 1 - 28%

Cwmpas 2 - 1%

Cwmpas 3 - 71%

 

Newidiadau yn 2021/22

  • Mae’r cynnydd mewn gwasanaethau wrth i gyfyngiadau Covid-19 ddod i ben wedi arwain at gynnydd yn ein hallyriadau uniongyrchol (Cwmpas 1)
  • Mae ein defnydd o drydan Cwmpas 2 wedi cynyddu 89 tCO2e. Unwaith eto, mae’n debyg bod hyn oherwydd bod mwy o wasanaethau yn rhedeg o’n gorsafoedd
  • Ni chafodd allyriadau cymudo eu cofnodi yn 2020/21, oherwydd diyg data gweithgarwch. Fe wnaethom gynnal arolwg teithio i gael amcangyfrif o’r patrymau cymudo ar gyfer 2021/22. Roedd 178 o gydweithwyr wedi cwblhau’r arolwg, sy’n cyfateb i 25% o gyfanswm y gweithlu yn 2021/22. O'r canlyniadau, amcangyfrifwyd cyfanswm y pellteroedd cymudo ar gyfer cyfanswm nifer y staff, yn unol â methodoleg adrodd Llywodraeth Cymru = 144 tCO2e allyriadau cymudo a 40 tCO2e o golledion milltiroedd cymudo ymhellach fyny’r gadwyn

 

Dadansoddiad o allyriadau

Gweithgarwch allyrru tCO2e
Cwmpas 1 (Allyriadau uniongyrchol)
Nwy 584
Tanwydd 84,571
Cwmpas 2 (allyriadau anuniongyrchol o ynni sy’n cael ei gyflenwi drwy’r grid)
Trydan 2,736
Cwmpas 3 (allyriadau anuniongyrchol eraill)
Colledion ymhellach i fyny’r gadwyn - nwy 100
Colledion ymhellach i fyny'r gadwyn - tanwydd 19,393
Gwastra ac ailgylchu 19
Cyenwad dŵr 12
Trin dŵr 21
Cadwyn gyenwi 196,879
Colledion ymhellach i fyny'r gadwyn - trydan 1,018
Cynhyrchu ynni adnewyddadwy 0
Milltiroedd busnes 25
Milltiroedd busnes (colledion ymhellach i fyny'r gadwyn) 7
Cymudo 144
Milltiroedd cymudo (colledion ymhellach i fyny'r gadwyn) 40
Allyriadau defnyddio tir
Allyriadau net o asedau tir TrC -702
Cyfanswm allyriadau 2020/21 304,846

 

Ein gwelliannau

  • Mae allyriadau nwyon Cwmpas 1 wedi gostwng 23 tCO2e o’i gymharu â 2020/21 oherwydd arbedion eeithlonrwydd ar draws ein hystâd
  • Mae ein hallyriadau cyflenwad dŵr cwmpas 3 wedi gostwng 9 tCO2e, ac mae allyriadau trin dŵr wedi haneru o’u cymharu â 2020/21
  • Amcangyfrifir bod ein hystâd yn storio 702 tCO2e. Mae hyn yn gynnydd o -13 tCO2e, sy'n deillio'n bennaf o’r aith bod yn ein hystâd wedi cynyddu i 176.4ha

 

Gwella ein prosesau

Mae allyriadau teithio busnes wedi cael eu hamcangyfrif ar sail hawliadau a gyflwynir gan staff am ad-daliad o’r treuliau a geir wrth deithio ar fusnes. Er mwyn gwella adrodd ar allyriadau teithio ar fusnes, mae angen data sylfaenol manwl am y dull teithio a'r tanwydd penodol (ee. mathau o geir a thanwydd). Nid oeddem yn gallu cael gafael ar y data ar gyfer yr adroddiad hwn.

Defnyddiwyd dull cyfrifo Haen 2 i gael amcangyfrif bras o allyriadau teithio busnes yn seiliedig ar
a) car cyredin a math anhysbys o danwydd ar gyfer cerbydau preifat a,
b) £ wedi’i hawlio/km ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus.t.
Mae prosesau’n cael eu datblygu er mwyn galluogi dull fwy cadarn o adrodd ar allyriadau teithio busnes ar gyfer y flwyddyn adrodd nesaf.

Mae cyfanswm allyriadau cymudo gweithwyr yn amcangyfrif lefel uchel sy’n seiliedig ar y patrymau cymudo tebygol, os nad ydynt yn gweithio gartref. Yn ystod 2021/22, roedd nifer fawr o’r staff a gymerodd ran yn yr arolwg wedi gweithio gartref yn ystod gwahanol gyfnodau oherwydd cyfyngiadau COVID-19, felly mae’r bias yn y gwaith samplo yn debygol o eeithio ar y data. Casglwyd y data teithio drwy arolwg teithio staff, lle’r oedd staff yn ateb cwestiynau am eu patrymau teithio i’r gwaith yn seiliedig ar yr wythnos flaenorol. Roedd 25% o staff TrC wedi cwblhau’r arolwg ac, i amcangyfrif yr allyriadau, defnyddiwyd lluosydd i sefydlu amcangyfrif dangosol lefel uchel o’r allyriadau tebygol a gynhyrchir gan gyfanswm cymudo gweithwyr yn ystod blwyddyn waith arferol.