Adroddiad Ansawdd Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, 2021-22

Trosolwg

Mae’r adroddiad hwn yn nodi ansawdd gwasanaethau Llinellau Trafnidiaeth Cymru am Flwyddyn Reilffyrdd 2021-22.

 

Gwybodaeth a thocynnau

Dangosydd Ansawdd Gwasanaethau
Darparu gwybodaeth am deithio yn ystod y daith Mae gwybodaeth ar gael yn bersonol neu’n ysgrifenedig o unrhyw un o'n 52 o orsafoedd sydd â staff. Mae gwybodaeth yn cael ei harddangos yn amlwg drwy ein system gwybodaeth electronig i deithwyr ar bob platfform ac mewn casys posteri sefydlog. Mae system annerch y cyhoedd yn cyhoeddi gwybodaeth mewn gorsafoedd ac ar drenau. Mae gan ein sianeli digidol, fel Twitter a WhatsApp, staff ar gael i ateb ymholiadau gan gwsmeriaid rhwng:
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 0700 i 2000 
Dydd Sadwrn, 0800 i 2000 
Dydd Sul, 1100 i 2000
Mae gwasanaeth ffôn ar gael rhwng 0800 a 2000 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a rhwng 1100 a 2000 ar ddydd Sul.
Gall cwsmeriaid weld amserlenni a chael ateb i’w hymholiadau ar ein gwefan a drwy ein sgwrsfot.
Sut ymdrinnir â cheisiadau am wybodaeth yn yr orsaf Gellir gwneud ceisiadau’n bersonol yn ein gorsafoedd (os oes staff yno). Mewn gorsafoedd lle nad oes staff, gellir gwneud ceisiadau dros y ffôn, ar y wefan neu drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Mae mannau cymorth ar gael mewn rhai gorsafoedd lle gall cwsmeriaid siarad â staff yr ystafell reoli. Mae strategaeth yn ei lle ar gyfer mannau cymorth er mwyn cynyddu nifer y gorsafoedd sydd â mannau cymorth fel y bydd man cymorth ar gael ymhob gorsaf. Bydd pob cais yn cael ei drin cyn gynted â phosibl. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd hyn yn digwydd ar unwaith os bydd yr wybodaeth ar gael yn rhwydd.
Sut darperir gwybodaeth am amserlenni trenau, prisiau a phlatfformau Gyda newidiadau arfaethedig - gan gynnwys rhai ar gyfer gwaith peiranyddol, newidiadau i amserlenni, tocynnau, a gwybodaeth am Covid-19 -  rydym yn defnyddio dull cymysg, amlsianel i roi gwybod i’n cwsmeriaid. Mae’r dull hwn yn cynnwys:
  • gwybodaeth ar y wefan
  • posteri mewn gorsafoedd 
  • y cyfryngau cymdeithasol
  • cyhoeddiadau gan yr uwch docynnwr
  • cyhoeddiadau wedi’u hawtomeiddio ar y trenau ac yn y gorsafoedd
  • sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid.
Yn ogystal â sianeli ar gyfer cwsmeriaid, rhan bwysig o roi gwybod i'r cwsmeriaid yw sicrhau bod ein staff yn wybodus. Drwy gael mynediad at ddyfeisiau clyfar, gall ein cydweithwyr yn y gorsafoedd ac ar y trenau ddarparu gwybodaeth megis amseroedd trenau, gwybodaeth am brisiau a newidiadau i blatfformau. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod amserlenni ar gael i gwsmeriaid cyn gwneud newidiadau sylweddol i amserlenni, ac mae’r rhain fel arfer yn digwydd ym mis Mai a mis Rhagfyr bob blwyddyn. Mae prosesau ar gael i sicrhau bod y rhain yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefannau bedair wythnos cyn dyddiad y newid yn yr amserlen. Hefyd, gall cwsmeriaid ofyn i’n swyddfeydd tocynnau am amserlen wedi’i hargraffu. Gellir cael yr amserlenni drwy'r ddolen hon:
https://trc.cymru/statws-gwasanaeth/amserlenni
Cyfleusterau prynu tocynnau Gall cwsmeriaid brynu tocynnau mewn sawl ffordd. Mae’r rhain yn cynnwys:
  • swyddfeydd tocynnau mewn 42 o orsafoedd
  • wyth Asiantwyr Manwerthu, saith mewn Gorsafoedd ac un Ganolfan Wybodaeth i Dwristiaid 
  • 234 o beiriannau gwerthu tocynnau 
  • ein gwefan ac ap ar gyfer ffonau symudol.

Mae gan Reilffyrdd Trafnidiaeth Cymru 34 o beiriannau tocynnau arian a cherdyn, a 200 o beiriannau tocynnau cardiau yn unig, a hynny yn 142 o’n 248 o orsafoedd. Mae’r Tîm Manwerthu yn monitro argaeledd y peiriannau gwerthu tocynnau bob dydd. Gallant gael mynediad at y peiriannau gwerthu tocynnau o bell er mwyn eu haildanio os bydd nam arnynt. Mae Tîm y Gorsafoedd yn ail-lenwi stoc tocynnau ac yn gwagio arian yn y gorsafoedd lle mae staff. Pan fo’n bosibl, maent yn datrys namau mecanyddol yn uniongyrchol gan roi gwybod i gyflenwr y peiriannau tocynnau os na ellir eu trwsio, a byddan nhw’n dod yno i'w trwsio fel rhan o’r contract cynnal a chadw. Mae’r cyflenwr yn adnewyddu stoc tocynnau, ac mae’n cynnal a chadw’r peiriannau mewn gorsafoedd lle nad oes staff.

Dangosydd Ansawdd Gwasanaethau
Argaeledd staff yn yr orsaf am wybodaeth a gwerthu tocynnau Yn ein gorsafoedd mawr, rydym yn darparu Mannau Gwybodaeth sydd wedi’u nodi’n glir ac sy’n cynnwys staff, ac mae’r rhain ar agor pan fydd y swyddfa docynnau ar agor.

Gall staff y Mannau Gwybodaeth wneud y canlynol:
  • rhoi gwybodaeth am gyfleusterau, gwasanaethau a hygyrchedd ein holl orsafoedd, a’r rheini sy’n cael eu darparu gan gwmnïau trên eraill
  • rhoi cyfarwyddiadau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a gwestai lleol
  • rhoi gwybodaeth am wasanaethau trên, amserlenni, prisiau a chysylltiadau
  • cadarnhau trefniadau sydd wedi’u gwneud ar gyfer archeb cymorth wrth deithio
  • rhoi gwybodaeth am oedi a ffactorau a allai effeithio ar eich taith.

Mae Mannau Gwybodaeth yn fannau cyfarfod i deithwyr sydd wedi archebu cymorth wrth deithio.

Mewn gorsafoedd sydd heb Fannau Gwybodaeth, mae angen i deithwyr fynd i'r swyddfa docynnau. Mewn gorsafoedd lle nad oes staff, bydd y goruchwyliwr ar y trên yn darparu cymorth.

Mae dolenni sain ar gael ymhob swyddfa docynnau a Man Gwybodaeth lle mae staff, ac mae o leiaf un cownter isel neu gownter sy’n newid uchder ar gael yn y rhan fwyaf o’r rhain. Os oes modd, bydd ein hamserlenni, ein posteri a’n taflenni gwybodaeth yn cael eu rhoi mewn mannau lle mae pobl sy’n defnyddio cadair olwyn a theithwyr sy’n sefyll yn gallu eu defnyddio.

Mae posteri o’r amserlenni a phosteri ‘Gwybodaeth Ddefnyddiol’ i’w gweld yn neu wrth y fynedfa ymhob gorsaf ac ar bob platfform.

Mae gwybodaeth am wasanaethau trên ar gael mewn gorsafoedd sydd â Mannau Cymorth. Mae’r Mannau Gwybodaeth yn stondinau sydd â botwm gall gwsmeriaid ei bwyso i gael siarad gyda rhywun rhwng 0600 a 2200. Gall gwsmeriaid hefyd gysylltu â’n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid.

Mae Ymholiadau National Rail yn rhoi gwybodaeth am amseroedd trenau, prisiau a’r mathau o docynnau, cyngor cyffredinol, a help i gynllunio teithiau.
  • Ffôn (Saesneg): 03457 48 49 50
  • Ffôn (Cymraeg): 0345 60 40 500
  • Ffôn testun: 0345 60 50 600
  • Gwefan: nationalrail.co.uk
  • Amseroedd agor: 24 awr y dydd, heblaw am ddydd Nadolig
Sut darperir gwybodaeth i bobl anabl a phobl â symudedd cyfyngedig Mae fformatau eraill (fel print bras, Braille neu fersiynau sain) o’n holl dogfennau ar gael yn rhad ac am ddim gan y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid. Rydym yn darparu dogfennau print bras cyn pen saith diwrnod ar ôl cael eich cais, ac unrhyw fformatau eraill cyn gynted â phosib. Cysylltwch â:

 

Prydlondeb gwasanaethau ac egwyddorion cyffredinol ar gyfer ymdopi â tharfu ar wasanaethau

a)    Oedi

Dangosydd Llinellau Craidd y Cymoedd Ar Draws Ffin Cymru
% y gwasanaethau a gyrhaeddodd ar amser neu roedd oedi o lai na thri munud 88.1% 79.5%
% y gwasanaethau a gafodd eu hoedi rhwng tri a 59 munud 11.9% 20.5%
% y gwasanaethau a gafodd eu hoedi rhwng 60 a 119 munud 0.0% 0.0%
% y gwasanaethau a gafodd eu gohirio am 120 munud neu fwy 0.0% 0.0%
% y cysylltiadau a gollwyd â gwasanaethau trên eraill Dd/G gan nad yw'n bosibl mesur y ffigwr ar hyn o bryd. Dd/G gan nad yw'n bosibl mesur y ffigwr ar hyn o bryd.

 

b)    Tarfiadau

Dangosydd Ansawdd Gwasanaethau
Bodolaeth a disgrifiad byr o gynlluniau wrth gefn, cynlluniau rheoli argyfyngau Mae gan Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig gynlluniau wrth gefn a dogfennau sy'n helpu i gyfrannu at wneud penderfyniadau pan fydd tarfu'n digwydd. Mae’r Cynllun Cyflenwi Gwasanaethau Gweithrediadau yn amlinellu’r trefniadau wrth gefn os bydd prinder cerbydau, gwasanaethau â blaenoriaeth, gwasanaeth manwl llwybr wrth lwybr a strategaethau trefniannau byr. Mae cynlluniau cyflenwi tymhorol yn lliniaru heriau posibl y gall gwahanol ddigwyddiadau tywydd eu hachosi. Mae cynlluniau wrth gefn yn cynnwys yr holl lwybrau Network Rail y mae Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig yn eu gweithredu. Maent yn rhoi manylion camau i’w cymryd gan bob cwmni trên sy’n darparu gwasanaethau yn yr ardaloedd hyn, os bydd llinellau’n cael eu cau neu os tarfir ar y gwasanaeth mewn unrhyw ffordd arall. Mae’r rhain yn cael eu hadolygu’n rheolaidd er mwyn ystyried adborth cwsmeriaid, newidiadau ym mhatrwm y gwasanaeth a darpariaeth cerbydau, gyda’r nod o wella profiad cwsmeriaid yn barhaus.

 

c)    Canslo gwasanaethau

Dangosydd Ansawdd Gwasanaethau
Canslo gwasanaethau fel rhan o bob gwasanaeth yn y % fesul categori o wasanaeth (rhyngwladol, domestig, pellter hir, rhanbarthol a threfol/maestrefol) Cafodd 4.89% o wasanaethau Llinellau Craidd y Cymoedd eu canslo. 
Cafodd 3.30% o wasanaethau Trawsffiniol Cymru eu canslo.

 

Glendid cerbydau a chyfleusterau gorsafoedd (ansawdd yr aer mewn cerbydau, hylendid cyfleusterau glanweithiol, ac ati)

Dangosydd Ansawdd Gwasanaethau
Cyfnodau Glanhau Yn 2020/21, fe wnaethom gyflwyno trefniadau glanhau gwell ar draws gorsafoedd ac ar drenau i gadw cwsmeriaid a chydweithwyr yn ddiogel yn ystod pandemig Covid-19.

Cyfnodau glanhau - Gorsafoedd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu lefelau eithriadol o hylendid a glanweithdra yn ein gorsafoedd. Ar ddechrau’r pandemig, roeddem wedi diwygio ein trefn lanhau o fewn dyddiau: cafodd ein timau glanhau dulliau gwaith, cynnyrch glanhau ac amserlenni diwygiedig. Roeddem wedi recriwtio staff ychwanegol er mwyn glanhau mannau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml. Mae gwaith glanhau yn digwydd yn rheolaidd yn ein gorsafoedd sydd â staff, a hynny er mwyn helpu i gadw cwsmeriaid a chydweithwyr yn ddiogel yn ystod y pandemig. Mae ein tîm ansawdd gwasanaeth a rheolwyr gorsafoedd wedi parhau i fonitro glanweithdra drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf.

Cyfnodau glanhau - Ar drên
Mewn ymateb i’r pandemig a chanllawiau’r diwydiant, rydym wedi darparu’r gweithgareddau canlynol:
  • glanhau pob trên bob nos yn unol â chanllawiau’r diwydiant, gan gynnwys glanhau mannau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml 
  • glanhau cabiau’n well bob dydd - dros nos cyn i’r trenau ddod yn ôl i’r gwasanaeth. 
  • glanhau trenau’n drylwyr bob 30 diwrnod, yn ychwanegol at y gwaith glanhau dyddiol.
  • glanhau a diheintio trenau yn unol â chanllawiau’r diwydiant, a hynny yn ystod gwasanaeth 
  • recriwtio glanhawyr ychwanegol i lanhau mannau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml ac i lanhau’r cabiau’n drylwyr.
Mesuriad technegol ar gyfer ansawdd aer (e.e. lefel CO2 mewn ppm) Mae Ansawdd Aer yn faes ffocws pwysig i Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf, yn enwedig ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei Phapur Gwyn ar Aer Glân - sy’n rhagflaenu cynigion ar gyfer Bil Aer Glân (Cymru). Rydym yn gweithio gyda'r Bwrdd Safonau a Diogelwch Rheilffyrdd (RSSB) i osod monitorau ac i fonitro ansawdd yr aer yng Nghaergybi a Chaer.

O safbwynt y diwydiant, mae Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig yn cefnogi'r Bwrdd RSSB ar eu Prosiect ar Dargedau Ansawdd Aer T1233, yn ogystal â bod yn bresennol yn y grŵp llywio. Yn ddiweddar, aethom ati i newid ein gweithdrefn ar gyfer injans llonydd yn dilyn argymhellion Nodyn Cyfarwyddyd y Grŵp Cyflawni Rheilffyrdd: Lleihau Allyriadau Diesel Mewn Gorsafoedd a Depos’ (drafft Ebrill 2021). Mae Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cymryd rhan yn y prosiect rhwydwaith rheoli ansawdd aer gorsafoedd, a fydd yn golygu bod monitro ansawdd aer yn cael ei wneud mewn pum gorsaf fawr yng Nghymru yn 2021-22.

Mae Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig wedi cynnal treialon gyda chyflenwyr i ddod o hyd i atebion arloesol i fonitro ansawdd aer ar ein rhwydwaith. Mae’r gwaith hwn yn barhaus.
Argaeledd toiledau Mae ein canllaw ‘Gwasanaethau Rheilffyrdd Hygyrch: Helpu Teithwyr Hŷn ac Anabl’ yn egluro pa gyfleusterau sydd ar gael yn ein gorsafoedd. Mae’n cynnwys manylion ynglŷn ag oriau staff, toiledau a sgriniau gwybodaeth.

Bydd fflyd newydd o drenau’n cael ei chyflwyno’n raddol rhwng nawr a mis Rhagfyr 2023. Rydym yn diweddaru ein gwefan hygyrchedd pan fydd pob math o drên yn cael ei adnewyddu neu ei dynnu’n ôl, neu ei ddisodli. Mae’r dudalen yn cynnwys manylion am y toiledau sydd ar gael ar bob math o fflyd a pha mor hygyrch ydyn nhw.

 

Arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid

Cynhaliwyd yr Arolwg Teithwyr National Rail diwethaf yng ngwanwyn 2020 , a dyna pam mae’r ffigurau isod yn dod o’r cyfnod cynharach hwnnw.

Dangosydd Ansawdd y Gwasanaeth Canran y cwsmeriaid a oedd yn fodlon
Prydlondeb trenau 73% (Gwanwyn 2020)
Gwybodaeth i deithwyr os bydd oedi 35% (Gwanwyn 2020)
Cywirdeb ac argaeledd gwybodaeth am amseroedd trenau/platfformau 85% (Gwanwyn 2020)
Cynnal a chadw sy’n gyson dda/cyflwr rhagorol y trenau Cynnal a thrwsio 67% (Gwanwyn 2020)
Lefel uchel o ddiogelwch ar y trên/yn yr orsaf 73% Gorsaf a 74% ar y trên (Gwanwyn 2020)
Glanweithdra y tu mewn i'r trên 75% (Gwanwyn 2020)
Darparu gwybodaeth ddefnyddiol am deithio yn ystod y daith 64% (Gwanwyn 2020)
Amseroedd ymateb i geisiadau am wybodaeth mewn gorsafoedd 86% (Gwanwyn 2020)
Argaeledd toiledau o ansawdd da ymhob trên Mae toiledau ar gael ymhob trên ac mae’r cyfleusterau toiledau wedi sgorio 50% yn NRPS y Gwanwyn 2020
Glanweithdra a chynnal a chadw gorsafoedd i safon uchel Glanweithdra 70% cynnal a chadw 64% (Gwanwyn 2020)
Hygyrchedd gorsafoedd a threnau Mae ein canllaw ‘Gwasanaethau Rheilffyrdd Hygyrch: Helpu Teithwyr Hŷn ac Anabl’ yn rhestru ein gorsafoedd i gyd ac yn egluro pa gyfleusterau sydd ar gael ynddynt, gan gynnwys yr oriau staffio, toiledau a sgriniau gwybodaeth.

Mae ein tudalen we sy’n rhoi sylw i hygyrchedd gorsafoedd (https://trc.cymru/gwybodaeth/teithwyr/teithio-hygyrch/hygyrchedd-gorsafoedd) yn rhoi gwybodaeth am ein trefniadau presennol i helpu teithwyr anabl a hŷn i deithio ar ein trenau. Mae’n cynnwys manylion am ein cyfleusterau yn y gorsafoedd. Mae’n darparu manylion cyswllt a gwybodaeth ddefnyddiol a all fod eu hangen arnynt i gynllunio eu teithiau.

Mae’n cynnwys gwybodaeth ynglŷn â hygyrchedd pob gorsaf sydd ar ein rhwydwaith ar hyn o bryd. Mae categorïau hygyrchedd gorsafoedd wedi cael eu pennu gan y Grŵp Cyflawni Rheilffyrdd ac mae’n egluro pa lefel hygyrchedd sydd i’w chael ym mhob gorsaf. Gweler isod i gael rhagor o wybodaeth am bob categori

Mae gennym hefyd yr un wybodaeth ar gael ar gyfer trenau a rhagor o wybodaeth am ba unedau sy’n hygyrch a ble maen nhw’n rhedeg hefyd. (https://trc.cymru/gwybodaeth/teithwyr/teithio-hygyrch/hygyrchedd-gorsafoedd)
Dangosydd Ansawdd Gwasanaethau
Darparu cymorth i bobl anabl a phobl â symudedd cyfyngedig Yn ôl eu trwyddedau gweithredu, mae’n rhaid i gwmnïau trenau a gorsafoedd sefydlu a chydymffurfio â Chynllun Teithio Hygyrch, a rhaid i hwnnw gael ei gymeradwyo gan y Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd.

Mae’r Cynllun yn nodi, ymysg pethau eraill, y trefniadau a'r cymorth gan weithredwr i ddiogelu buddiannau pobl anabl sy'n defnyddio’r gwasanaeth ac i hwyluso defnydd o'r fath. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://trc.cymru/gwybodaeth/teithwyr/teithio-hygyrch

Gall ein Tîm Cymorth wrth Deithio roi cyngor, archebu cymorth a threfnu tocynnau ar gyfer eich taith, dim ots pwy yw'r cwmni trên. Gallwch gysylltu â'r tîm drwy ffonio 033 300 50 501 rhwng 0800 ac 2000 bob dydd, ar wahân i ddydd Nadolig. Dyma yw rhif gwasanaeth Testun y Genhedlaeth Nesaf ar gyfer pobl sydd ag anawsterau clywed a siarad - 18001 033 300 50 501.

 

Delio â chwynion - Ad-daliadau ac iawndal am beidio â chydymffurfio â safonau ansawdd gwasanaeth

Dangosydd Ansawdd Gwasanaethau
Y weithdrefn sydd ar waith Mae gennym broses glir a chryno ar waith ar gyfer delio â chwynion. Mae’r manylion ar gael yma: https://trc.cymru/amdanom-ni/tryloywder/trefn-deilo-a-chwynion. Mae'r weithdrefn hon yn cael ei hadolygu'n rheolaidd gan Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd. Cafodd yr adolygiad diwethaf ei gynnal ddiwedd 2021.  
Nifer y cwynion a’r canlyniad 14,790
Categorïau ar gyfer cwynion Y pum cwyn fwyaf cyffredin oedd:
  • bod yn brydlon a dibynadwy
  • diogelwch personol ar y trên
  • digon o le i bob teithiwr eistedd neu sefyll
  • amrywiol Eraill
  • darparu gwybodaeth ar y wefan neu apiau symudol
Cwynion a dderbyniwyd 14,790
Cwynion a broseswyd Fe wnaethom ymateb i 84% o'r cwynion o fewn 20 diwrnod gwaith.
Amseroedd ymateb ar gyfartaledd Fe wnaethom ymateb i 98% o'r cwynion o fewn 20 diwrnod gwaith, ac ymatebwyd i 31% o fewn 10 diwrnod gwaith.
Camau gwella posibl wedi’u cymryd Rydym yn adolygu ein tri chategori uchaf o gwynion bob cyfnod ac yn gweithredu i wella’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig yn barhaus. Eleni, rydym wedi parhau i gyfleu’n glir y profiad y gall cwsmeriaid ei ddisgwyl wrth deithio gyda ni yn ystod pandemig COVID-19. Gan fod gan Gymru reolau gwahanol i Loegr yn aml, roeddem yn canolbwyntio’n benodol ar wasanaethau trawsffiniol. Rydym wedi cynhyrchu cynnwys ar gyfer ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol a fideo i helpu ein cwsmeriaid i ddeall beth i’w ddisgwyl, beth rydym yn ei wneud i’w cadw’n ddiogel a’r camau y gallant eu cymryd i deithio’n hyderus. Rydym yn adolygu ein cyswllt perfformiad cwsmeriaid bob wythnos gyda’r tîm perfformiad, gan ganfod y trenau sy’n cael yr effaith fwyaf ar gwsmeriaid ac i wneud cynlluniau i wella’r gwasanaethau hyn a fydd yn effeithio ar y 2 gategori uchaf o gwynion.

 

Cymorth a ddarperir i bobl anabl a phobl â symudedd cyfyngedig

Dangosydd Ansawdd Gwasanaethau
Y weithdrefn gymorth sydd ar waith Yn ôl eu trwyddedau gweithredu, mae’n rhaid i gwmnïau trenau a gorsafoedd sefydlu a chydymffurfio â Chynllun Teithio Hygyrch, a rhaid i hwnnw gael ei gymeradwyo gan y Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd. 

Mae’r Cynllun yn nodi’r trefniadau a'r cymorth gan weithredwr i ddiogelu buddiannau pobl anabl sy'n defnyddio’r gwasanaeth ac i hwyluso defnydd o'r fath. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://trc.cymru/gwybodaeth/teithwyr/teithio-hygyrch 
Nifer yr achosion o gymorth fesul categori o wasanaeth (rhyngwladol/domestig, pellter hir, rhanbarthol a threfol/maestrefol) 35,110 o adroddiadau cymorth wedi’u cofnodi gyda’r Grŵp Cyflawni Rheilffyrdd.