Adroddiad Gweithredu Blynyddol ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025
Polisi Archwilio a Sicrwydd Trafnidiaeth Cymru
Adroddiad Gweithredu Blynyddol ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025
Cyflwyniad
Cyhoeddodd Pwyllgor Archwilio a Risg Trafnidiaeth Cymru ei Bolisi Archwilio a Sicrwydd ar gyfer y tair blynedd a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025 ar 13 Medi 2022.Cynhyrchodd ei Ddiweddariad Gweithredu Blynyddol cyntaf ym mis Gorffennaf 2023 a’r ail un ym mis Gorffennaf 2024. Dyma'r trydydd Diweddariad Gweithredu Blynyddol a’r un terfynol sy’n cwblhau’r gwaith adrodd ar y Polisi Archwilio a Sicrwydd ar gyfer y tair blynedd a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025.
Yn gynharach yn 2025, gwnaeth ymgynghoriad ddigwydd ar y Polisi Archwilio a Sicrwydd ar gyfer y tair blynedd a fydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2028 - fe’i cyhoeddwyd hyn ym mis Mawrth 2025 ac mae ar gael yma.
Mae'r trydydd Diweddariad Gweithredu Blynyddol terfynol hwn yn nodi:
- y cynnydd o ran gweithredu'r camau a nodwyd yn y Polisi Archwilio a Sicrwydd ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025;
- y newidiadau a argymhellwyd gan y Pwyllgor Archwilio a Risg i'r dull a nodwyd yn y Polisi Archwilio a Sicrwydd sydd wedi cael eu gweithredu;
- sylwadau ar sut mae'r gweithgarwch sicrwydd a nodwyd yn y Polisi Archwilio a Sicrwydd yn gweithio'n ymarferol.
Nodir yr uchod yn unol â’r prif benawdau sydd wedi'u cynnwys yn y Polisi Archwilio a Sicrwydd ar gyfer y tair blynedd sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2025.
Dull ymateb TrC i risg | ||
Cyflawni camau gweithredu | Newidiadau | Sylwadau ar weithgarwch sicrwydd yn ymarferol |
Fframwaith risg a rheolaeth fewnol TrC | ||
Mae integreiddio Ffeibr TrC i'r grŵp risg a'r fframwaith mewnol bellach wedi'i gwblhau. | Mae llawer iawn o waith wedi’i wneud er mwyn sicrhau bod y cwmni yn y sefyllfa lle y gall reoli’r risgiau y bydd yn eu hwynebu wrth i’r broses o ryddfreinio bysiau a sefydlu rôl Trafnidiaeth Cymru o fewn hynny gael ei chyflawni. | Mae’r amddiffyniad ail reng wedi cyflawni gwaith yn ogystal â rhoi adborth i berchnogion risg sy’n ymwneud â’r gwaith trawsnewid i ryddfreinio bysiau ac mae’u hargymhellion wedi cael eu sefydlu o fewn y ffordd y mae’r systemau’n cael eu dylunio. |
Risg twyll | ||
Mae’r strategaeth a pholisi Gwrth-dwyll, a’r gweithdrefnau diwygiedig ar gyfer chwythu’r chwiban a gwrthdaro buddiannau a’u cymeradwywyd y flwyddyn ddiwethaf, wedi cael eu sefydlu. Cymeradwywyd strategaeth wrth-dwyll ddiwygiedig ar gyfer 2025 i 2027 gan y Pwyllgor Archwilio a Risg yn ystod eu cyfarfod ym mis Mehefin a chaiff ei chymeradwyo gan y Bwrdd ym mis Gorffennaf 2025. Mae’r rhaglen hyfforddi gwrth-dwyll, a dyluniwyd y flwyddyn ddiwethaf, wedi cael ei chyflawni gan bob aelod o staff perthnasol. Mae cynnydd mewn cyfathrebu ynghylch gwrth-dwyll a ffyrdd o wella effeithlonrwydd ymchwiliadau wedi arwain at ddull mwy effeithiol o weithredu. Cyhoeddwyd y Cod Moeseg ym mis Mehefin 2025 ac mae’r cyfathrebu ar waith. | Ni fu unrhyw newidiadau i'r dull gweithredu arfaethedig.
| Mae risg o dwyll yn cael ei gynnwys ym mhob aseiniad a gyflawnir gan y tîm sicrwydd ail reng a’r archwiliad mewnol. Mae'n ymddangos bod y broses o rybuddio aelodau allweddol y tîm rheoli a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn gweithio'n dda. Eleni ni chodwyd unrhyw ddigwyddiadau o'r fath.
|
Risg adrodd ariannol ac anariannol | ||
Dogfennaeth rheolaeth fewnol o adroddiadau ariannol ac anariannol. Mae recriwtio adnodd â’r sgiliau a dull cywir wedi arwain at gynnydd sylweddol yn ystod 2024/25, er nad yw’r gwaith wedi’i gwblhau o fewn yr amserlen a ragwelwyd yn wreiddiol. Adroddiadau anariannol | Y flwyddyn hon, am y tro cyntaf, gofynnwyd i holl aelodau’r Tîm Arwain Gweithredol gwblhau holiadur ar reolaeth fewnol, a wnaeth rhoi adborth defnyddiol a gwybodaeth ddefnyddiol i’r Tîm Arwain Gweithredol ynghylch eu cyfrifoldebau. Bydd hyn yn ymarfer rheolaidd.
| Gan fod y gwaith ar y broses rheoli fewnol uwch yn dal i fynd rhagddo, ychydig iawn o gyfle sydd wedi bod i weld sut mae'r gweithgarwch sicrwydd yn gweithio'n ymarferol. Fodd bynnag, mae'r gwaith a wnaed hyd yma wedi rhoi cysur i'r Pwyllgor Archwilio a Risg, o ran y rheolaethau ariannol, ymddengys nad oes gwendidau rheoli materol. Mae hyn yn gyson â’r canfyddiadau o’r swyddogaeth archwilio fewnol. Mae'r Pwyllgor Archwilio a Risg bellach yn fodlon bod gan bob gwybodaeth faterol nad yw'n ariannol system wedi'i dogfennu'n briodol gyda rheolaethau mewnol priodol i sicrhau ei bod yn cael ei hadrodd yn gywir. Eto, cefnogir y safbwynt hwn gan waith y swyddogaeth archwilio fewnol. |
Swyddogaeth archwilio fewnol TrC | ||
Cafodd rhaglen 2024/25 ei chwblhau'n foddhaol ac yn ogystal gwnaed rhywfaint o waith ad hoc ar gais y rheolwyr, nad oedd yn rhwystro cwblhau'r rhaglen. Roedd hefyd wedi cwblhau rhywfaint o waith ad hoc ar gyfer y Pwyllgor Archwilio a Risg ar ddeunydd ynghylch gwybodaeth anariannol. Mae'r rhaglen fanwl ar gyfer 2025/26 wedi'i chymeradwyo ac mae'n cyd-fynd yn fras â'r cynllun tair blynedd. Cynhaliwyd Asesiad Ansawdd Allanol annibynnol gan aelod o Sefydliad Siartredig Archwilwyr Mewnol ar y swyddogaeth fewnol ym mis Mawrth 2024 ac mae’r holl argymhellion wedi’u rhoi ar waith, sy’n golygu bod y swyddogaeth archwilio fewnol yn cyd-fynd â’r Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang. | Dim.
| Mae'r Pwyllgor Archwilio a Risg wedi derbyn llawer o adroddiadau rhagorol gan archwiliad mewnol yn ystod y flwyddyn. Ni ystyriwyd unrhyw ganfyddiadau unigol na chasgliad o ganfyddiadau ac roedd yr adroddiadau hynny a oedd â chasgliad anffafriol yn gyffredinol yn cael eu rheoli ac roedd camau gweithredu ar y gweill erbyn i'r adroddiad gael ei gwblhau.
|
Cwmpas gwaith yr archwilydd allanol | ||
Ni fu unrhyw newidiadau sylweddol i gwmpas y gwaith a wnaed gan yr archwilwyr allanol ar gyfer y flwyddyn yn diweddu ar 31 Mawrth 2025. Y perthnasedd ar gyfer Grŵp TrC, y cytunwyd arno gyda'r Pwyllgor Archwilio a Risg oedd £70 miliwn a'r trothwy adrodd ar gyfer camddatganiadau i'r Pwyllgor Archwilio a Risg oedd £3.5 miliwn. | Dim. | |
Y prif ffynonellau sicrwydd a dderbyniwyd gan Fwrdd TrC ar wybodaeth a ddefnyddir i fonitro perfformiad busnes | ||
Mae cryn dipyn o waith wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ar y Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) a ddefnyddir i fonitro perfformiad busnes, ac mae rhai wedi'u gwella. Bellach mae gan y Bwrdd set o DPA y mae'n credu sy'n ei alluogi i oruchwylio busnesau TrC yn fwy effeithiol, ond byddant yn datblygu’n barhaol er mwyn sicrhau eu bod yn effeithiol o ran adlewyrchu’r canlyniadau disgwyliedig o strategaethau a chynlluniau’r cwmni. | Mae’r cwmni’n cyhoeddi’r DPA a ystyrir i fod y mwyaf perthnasol i gwsmeriaid a rhanddeiliaid ar ei wefan, gyda sylwadau, yn chwarterol.
| Mae'r swyddogaeth archwilio fewnol wedi cynnal adolygiad o'r systemau a'r prosesau a ddefnyddir i baratoi'r set o DPA manwl a ddefnyddir gan y Bwrdd a'r DPA hynny, a gyhoeddir.
|