Chamau gweithredu - 3 Tachwedd 2020

Submitted by positiveUser on

Fforwm Rhanbarthol Gogledd a Chanolbarth Cymru

Dyddiad: 3 Tachwedd 2020

Amser: 10:00 – 12:00

Lleoliad: Microsoft Teams

Yn bresennol:

Stephanie Smith, Uwch Swyddog Trafnidiaeth Gyhoeddus a Chymunedol (SS)

Rhian Wyn Williams, Cyngor Sir Gwynedd (RW)

Val Hawkins, Prif Weithredwr Twristiaeth Canolbarth Cymru (VH)

Ann Elias, Swyddog Trafnidiaeth Strategol, Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru-Trafnidiaeth Strategol (AE)

Iwan Prys Jones, Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Economaidd Gogledd Cymru (IPJ)

Gerard Rhodes, Gwasanaeth Trafindiaeth Strategol, Cyngor Caer a Gorllewin Swydd Gaer (GR)

Karen Williams, Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol, Rheilffordd Dyffryn Conwy (KW)

Andrew Mytton, Swyddog Cludiant Cyhoeddus, Cyngor Sir Wrecsam (AM)

Andrew Saunders, Rheolwr Strategaeth Mynediad Wynebol, Maes Awyr Manceinion (AS)

Sean Croshaw, Rheolwr Rheilffyrdd Strategol, Trafnidiaeth Manceinion Fwyaf

Robin Tudor, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu, Maes Awyr Lerpwl (RT)

David Beer, Uwch Reolwr (Cymru), Transport Focus (DBe)

Tony Caine, Rheolwr Traffig a Theithio, Cyngor Sir Powys (TC)

Tracey Messner, Rheolwr Materion Cyhoeddus, Network Rail (TM)

Dylan Gallanders, Cymorth ac Ymgysylltu Gweithredol, Cymdeithas Cludiant Cymunedol 

Bryn Jones, Pennaeth Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol Bangor (BJ)

Iwan Cadwaladr, Cyngor Sir Ynys Môn (IC)

Michelle Clarke, Cydlynydd Prosiect Gogledd Cymru, Cymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol (MC)

Ceri Hansom, Rheolwr Uned Trafnidiaeth Integredig, Cyngor Sir y Fflint (CH)

Vincent Goodwin, Swyddog Teithio, Cyngor Sir Powys

Jamie Sant, Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol, Wrecsam Bidston

Robert Gravelle, Rheolwr Hygyrchedd a Chynhwysiant, Rheilffyrdd TrC (RG)

Rachel Penman, Pennaeth Gwasanaeth (Strategaeth) Cyngor Sir Wrecsam (RP)

Claire Williams, Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol, Rheilffordd y Cambrian (CW)

 

Yn bresennol o TrC

Lowri Joyce, Rheolwr Rhanddeiliaid, Cadeirydd (LJ)

Andrew Gainsbury, Rheolwr Stoc Cerbydau (AG)

Arron Bevan-John, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned (ABJ)

Carolyn Hodrien, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned (CH)

Dafydd Williams, Rheolwr Perfformiad Rheilffyrdd (DW)

Gethin Jones, Rheolwr Cymorth Busnes (GJ)

Helen Dale, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned (HD)

James Price, Prif Weithredwr (JP)

Katie Powis, Rheolwr Rhanddeiliaid (Cadeirydd) (KP)

Kelsey Barcenilla, Ymgysylltu â’r Gymuned (KB)

Lewis Brencher, Cyfarwyddwr Cyfathrebu (LB)

Louis Mertens, Ymgysylltu â’r Gymuned (LM)

Katie Powis, Rheolwr Rhanddeiliaid (KM)

Melanie Lawton, Rheolwraig Rheilffyrdd Cymunedol (Gogledd) (ML)

Mathew Howells, Uwch Fodelydd Trafnidiaeth (Gogledd) (MH)

 

Ymddiheuriadau

Steve Whitley, Pennaeth Strategaeth Gweithrediadau, Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC

Nick Smith, Rheolwr Twf Rhanbarthol, Avanti West Coast

David Jones, Trafnidiaeth Integredig

Dave Whall, Stena Line

Yr Athro P Spencer, Deon Coleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg, Prifysgol Bangor

 

Sylwer: Lluniwyd y cofnodion canlynol gan yr ysgrifenyddiaeth ar gyfer y fforwm hwn, sef Carolyn Hodrien, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned.

Ceir crynodeb isod o’r cyflwyniadau a’r pynciau a drafodwyd/cwestiynau a godwyd – ac ni fwriedir iddynt fod yn gofnod air am air o’r sesiwn.

 

Eitem rhif 1

Cofnodion: Cyflwyniadau ac Ymddiheuriadau – Lowri Joyce (LJ) Trafnidiaeth Cymru

Gwnaed cyflwyniadau drwy’r swyddogaeth Sgwrsio ar Teams. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Nick Smith, Steve Whitley, David Jones, Yr Athro Paul Spencer, Dave Whall

Cadarnhaodd LJ y trefniadau cyffredinol ar gyfer y cyfarfod a chyflwynodd rôl Carolyn Hodrien, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned

 

Eitem rhif 2

Cofnodion: Y cyfyngiadau teithio diweddaraf - Dafydd Williams, (DW) Dadansoddiad o Berfformiad, Trafnidiaeth Cymru Cyflwynodd DW wybodaeth am amserlenni a sut mae Covid-19 yn effeithio ar ddarpariaeth y rheilffyrdd.

Holodd Karen Williams am y cynlluniau ar ôl y cyfnod atal byr ar gyfer adfer amserlen Rheilffordd Dyffryn Conwy. (trwy’r sgwrs) Atebodd DW (trwy’r sgwrs) mai’r bwriad yw adfer y gwasanaethau hyn o ddydd Llun 9fed Tachwedd ymlaen. Os oes unrhyw gyfyngiadau o ran adnoddau gan y gyrwyr neu’r goruchwylwyr sydd ar gael, bydd hyn yn cael ei ddisodli gan wasanaeth arall yn lle’r trenau.

Holodd Karen Williams, Ann Elias a David Beer (drwy’r Sgwrs) pryd y byddai’r dulliau gweithio’n cael eu hystyried eto er mwyn gallu ailagor gorsafoedd, yn enwedig ar Arfordir Gogledd Cymru a Rheilffordd y Cambrian.

Atebodd Lewis Brencher (LB) (drwy’r sgwrs) fod TrC yn ymgysylltu’n rheolaidd â phartneriaid Undebau Llafur ar y mater hwn, ac er bod sawl gorsaf eisoes wedi cael ei hadfer, mae rhai y mae angen eu datrys o hyd. Ychwanegodd DW (trwy’r sgwrs) mai’r flaenoriaeth i TrC yw datgloi’r gorsafoedd gyda’r undebau llafur. Mae LJ wedi bod yn sicrhau bod yr holl adborth sy’n ymwneud â’r llwyfannau byr yn cael ei fwydo drwodd i’r gweithgor cenedlaethol mewn undebau llafur i sicrhau bod hyn yn flaenoriaeth bob wythnos. Bydd unrhyw ddiweddariadau a dderbynnir o ran cynnydd yn y gwaith o adfer y gorsafoedd hyn yn cael eu cyfleu gan LJ.

Diweddariad ar Ddyfodol Contract Cymru a’r Gororau

Rhoddodd James Price, (JP) Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf am ddyfodol contract rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.

Holodd Sean Croshaw (drwy’r sgwrs) a fyddai’r newid i’r strwythur gweithredol yn rhoi mwy o gyfle i gydweithio’n agosach â rhanddeiliaid i gyflwyno’r achos dros wella gwasanaethau ar gyfer llif teithwyr ar draws ffiniau neu yn Lloegr?

Gofynnodd Gerard Rhodes (trwy’r sgwrs) sut y byddai’r model llywodraethu newydd yn cael effaith gadarnhaol ar gyfleoedd gyda’r Adran Drafnidiaeth.

Atebodd LB (drwy’r sgwrs) er bod TrC eisoes yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn Keolis Amey, y bydd y strwythur newydd yn caniatáu i TrC weithio’n agosach byth â rhanddeiliaid. Bydd ymgysylltu’n parhau i fod yn ffordd hollbwysig o flaenoriaethu a gwella gwasanaethau. Ni fydd y newidiadau’n effeithio ar unrhyw un o’n hymrwymiadau gweithio ar y cyd presennol gyda rhanddeiliaid y gororau ac Adran Drafnidiaeth y DU.

Ychwanegodd Lois Park (LP) (trwy’r sgwrs) fod TrC yn awyddus i barhau â chysylltiadau trawsffiniol ac na fydd y strwythur newydd yn cael effaith negyddol ar hyn. Mae angen i bob partner weithio gyda’i gilydd i lywio ffordd drwy’r pandemig a chynyddu’r galw am drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn gallu parhau i wella ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.

Holodd David Beer am y cynlluniau ar gyfer buddsoddi yn y tymor canolig i’r tymor hir ac a fyddent yn dal i fwrw ymlaen. 

Ymatebodd JP drwy ddweud bod cynlluniau ar gyfer cerbydau’n mynd rhagddynt gan eu bod eisoes wedi’u harchebu ac na allant newid a bod prosiectau metro hefyd yn mynd rhagddynt. Dywedodd JP ei bod yn bwysig cynyddu refeniw er mwyn gallu cyflawni prosiectau eraill heb gefnogaeth y Llywodraeth.

Yr wybodaeth ddiweddaraf am gerbydau – rhoddodd Andrew Gainsbury, Rheolwr Stoc Cerbydau (AG) gyflwyniad ar gerbydau.

Holodd Ann Elias (trwy’r sgwrs) a oedd cyfle i drafod cynllun mewnol y trenau Dosbarth 197 a gofynnodd Gerard Rhodes (trwy’r sgwrs) a oedd unrhyw gymalau a fyddai’n galluogi adennill costau gan y cyflenwyr pe na fyddai’r perfformiad yn cwrdd â disgwyliadau rhesymol ac yn achosi effeithiau andwyol sylweddol ar deithwyr ar gerbydau newydd.

Dywedodd AG (trwy’r sgwrs) fod y tu mewn i’r trenau wedi cael ei gynllunio’n ofalus i ddarparu cydbwysedd o ddrysau llydan, lle da i gadeiriau olwyn, lle i feiciau/pramiau a seddi cyfforddus. Ar ben hynny, dylai llawer o wasanaethau weld trenau ffurfiant hirach. Dywedodd AG y byddai’n hapus i drefnu trafodaeth ar wahân i drafod cynllun fflyd dosbarth 197.

Cadarnhaodd AG (trwy’r sgwrs) fod y trefniadau contract gyda darparwyr yn cynnwys gofynion llym o ran dibynadwyedd, argaeledd, amser teithio, defnyddio tanwydd ac ati. Mae’r holl ofynion hyn yn cynnwys cosbau ariannol os na chânt eu bodloni. Hefyd, mae gan bob fflyd newydd ofynion profi llym sy’n gofyn am lefel o ‘redeg heb ddim diffygion’ cyn y bydd y trenau’n cael eu derbyn.

Holodd Sean Croshaw ynghylch effaith colli setiau marc 3 ac a fyddai gan yr unedau newydd ddigon o gapasiti ar gyfer gwasanaethau brig Gogledd Cymru ym Manceinion. Codwyd ymholiad hefyd am strategaeth datgarboneiddio NR a’r hyn yr oedd yn ei olygu i’r cerbydau.

Atebodd AG y bydd 26 o setiau tair car gyda’r trenau 197 ac y bydd hynny’n galluogi’r capasiti i gynyddu. O ran datgarboneiddio, bydd sgyrsiau’n parhau ar gyfer gwelliannau ar ôl Covid-19 a bod y defnydd o becynnau pŵer hybrid i ychwanegu at y fflyd yn cael ei ymchwilio.

Ychwanegodd DW fod potensial i ymestyn i 5 cerbyd rhwng Caer a Manceinion, fodd bynnag, mae rhai gorsafoedd nad ydynt yn gallu darparu ar gyfer hyn gan fod angen platfformau hwy. Gellir ailedrych ar hyn ar ôl Covid-19.

Cam gweithredu: AG/DW i ymchwilio i wybodaeth am gapasiti cerbydau i Fanceinion – parhau â'r sgwrs gyda Sean Croshaw.

 

Eitem rhif 3

Cofnodion: Gweithdy

Ailadeiladu hyder teithwyr mewn trafnidiaeth gyhoeddus ar ôl covid-19 Lewis Brencher, (LB) Cyfarwyddwr Cyfathrebu. Cyflwynodd LB adborth rhanbarthol o arolwg diweddaraf TrC.

Arolwg Gwneud Synnwyr TrC

Adborth gweithdy ar gyfer cwestiwn un: Beth yw’r prif rwystrau a allai atal pobl rhag dychwelyd i drafnidiaeth gyhoeddus ar ôl COVID?

• Ofn a rhagweld bod mewn sefyllfa orlawn mewn gorsafoedd ac ar drenau. Gallai hyn fod yn arbennig o berthnasol i’r genhedlaeth hŷn a’r rheini a oedd wedi bod yn gwarchod.

• Mae derbyniad pobl o dyrfaoedd, e.e. sefyll ar drenau wedi newid.

• Mae angen ymgyrch hysbysebu prif ffrwd barhaus wedi’i hategu gan ddata i roi gwybodaeth i’r cyhoedd.

• Tocynnau fforddiadwy ac integredig hawdd eu defnyddio.

• Sefydlu llwybrau teithio i ddod â’r cyhoedd yn ôl o deithio mewn car.

• Mae’r angen i deithio wedi newid, mae mwy o bobl yn gweithio gartref ac yn cael nwyddau wedi’u danfon i’r cartref o siopau.

• Her y gaeaf – mae pobl yn llai tebygol o ddefnyddio trafnidiaeth ar gyfer diwrnodau allan yn ystod misoedd y gaeaf.

• Dim digon o Gerbydau.

• Angen newid canfyddiad pobl o lanweithdra ar drenau a hyrwyddo’r drefn lanhau.

• Pan fydd cwsmer yn defnyddio’r trên, bydd unrhyw brofiad gwael a brofant yn aros gyda nhw am byth.

• Mae torfeydd yn ffactor mawr. Ymchwil gan goleg imperial, dim olion covid 19 ar arwynebau nac yn yr awyr. A allai gwyddoniaeth helpu i gefnogi’r bwlch canfyddiad?

• Mae’n bwysicach cael teithwyr yn ôl ar y gwasanaeth cyn canolbwyntio ar refeniw. Mae cyfathrebu ar y materion hyn yn hollbwysig.

• Mae llawer o deithwyr yn eu ceir ar hyn o bryd ac efallai eu bod yn ystyried aros yn y ceir. Pan fyddwn wedi annog pobl i newid eu ffordd o fyw, mae angen cymhelliant.

• Mae angen i negeseuon gan y Llywodraeth fod yno i atgoffa pobl bod trafnidiaeth yn ddiogel.

Adborth gweithdy ar gyfer cwestiwn dau: Beth allwn ni i gyd ei wneud fel partneriaid i annog defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol?

• Mae’n bwysig bod pobl yn dewis defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn iddynt allu cyfrannu at fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

• Ymgyrchoedd ar y cyd ag atyniadau i ymwelwyr i annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

• Sicrhau bod gwybodaeth a chanllawiau hygyrch ar gael ar bob llwyfan, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol.

• Mae angen i negeseuon gan Awdurdodau fod yn glir ac yn gyson e.e. Llywodraeth Cymru/Awdurdodau Lleol.

• Mae angen i benderfyniadau ynghylch trenau a bysiau o ran rheolau Covid19 fod yn gyson.

• Mae Covid19 yn tanseilio’r hyn sy’n dda am drafnidiaeth gyhoeddus. Mae hyn wedi gwneud i bobl weld y car fel dewis 1 eto – rhywbeth na chafodd ei annog o’r blaen.

• Angen tocynnau mwy hyblyg a’u gwneud yn haws eu deall.

• Sicrhau bod amserlenni’n cysylltu rhwng bysiau a threnau a bod gwybodaeth amser real ar gael er mwyn gallu gwneud penderfyniadau teithio.

• Sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn dulliau eraill ar wahân i rai digidol.

• Yr angen am gymhellion teithio yn enwedig o ran teithio llesol mewn ardaloedd gwledig a mannau storio beiciau.

• Dull gorau o deithio llesol, fodd bynnag, mae esgeulustod i ddefnyddio agendâu polisi eraill i gefnogi.

• Mae’n anodd gweithredu Teithio Llesol mewn cymunedau gwledig.

• Adolygu taliadau parcio ceir er mwyn cymell pobl i ddefnyddio’r rheilffyrdd.

Cam gweithredu: Bydd adborth gan randdeiliaid yn cael ei ddefnyddio i helpu i siapio cynlluniau. Bydd adroddiad adborth ar wahân sy’n casglu’r mewnbwn o’r gweithdy penodol hwn a’r sesiynau sy’n cael eu hailadrodd gyda grwpiau rhanddeiliaid eraill ar gael yn gynnar yn 2021 ac yn cael ei rannu mewn fforymau yn y dyfodol.

 

Eitem rhif 4

Cofnodion: Eitem Ranbarthol

Y diweddaraf am fodelu trafnidiaeth - rhoddodd Mathew Howells, (MH), Uwch Fodelydd Trafnidiaeth, Gogledd Cymru gyflwyniad ar fodelau trafnidiaeth.

Cyfranogwyr i gysylltu â MH i gael rhagor o wybodaeth.

 

Eitem rhif 5

Cofnodion: Eitemau ar gyfer Agendâu’r dyfodol ac Unrhyw Fater Arall

Dywedodd LJ y byddai TrC yn croesawu awgrymiadau gan aelodau’r fforwm ar gyfer eitemau agenda yn y fforwm nesaf ac yng nghyfarfodydd y fforwm yn y dyfodol.

Diolchodd LJ i aelodau’r fforwm am eu presenoldeb a dymunodd yn dda i bawb.

Bwriedir cynnal y fforwm nesaf ym mis Chwefror/Mawrth 2021.