Beth bynnag yr ydych yn mynd drwyddo, mae rhywun a fydd yn barod i’w wynebu gyda chi.  Mae yna bobl a mudiadau sy’n gallu helpu.

Mae Trafnidiaeth Cymru’n deall.  Rydyn ni wedi paratoi rhestr o bobl sydd yno i wrando, os ydych chi eisiau siarad, neu’n adnabod rhywun a allai fod angen cymorth. 

Y Samariaid

Ffôn: 116 123 
E-bost: jo@samaritans.org
Llinell Gymraeg: 0808 164 01 23

Samariaid
C.A.L.L. 
Llinell Gymorth Iechyd Meddwl Cymru
Ffôn: 0800 132 737 
Testun: 81066
 
C.A.L.L. Llinell Gymorth Iechyd Meddwl
Meic (Pobl ifanc hyd at 25 oed) Ffôn: 0808 802 34 56 
Testun: 84001
 
Meic
Papyrus Helpline (Atal hunanladdiad ymysg pobl ifanc) Ffôn: 0800 068 41 41 
E-bost: pat@papyrus-uk.org 
 
Papyrus UK
NSPCC Childline (Pobl ifanc hyd at 19 oed) Ffôn: 0800 11 11 Childline

 

Dechreuwch siarad, a helpu i atal hunanladdiad

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Network Rail a phartneriaid eraill – gyda’i gilydd – i wneud popeth o fewn ein gallu i atal hunanladdiad ar y rheilffyrdd a chefnogi’r rheini sy’n cael eu heffeithio ganddynt.  

Rydyn ni’n cefnogi ymgyrch ‘ychydig eiriau yn achub bywydau’ (‘small talk saves lives’) y diwydiant rheilffyrdd a ddatblygwyd mewn partneriaeth â’r Samariaid a Heddlu Trafnidiaeth Prydain. Mae’r ymgyrch hon yn canolbwyntio ar ffyrdd o annog y cyhoedd i gefnogi’r rheini a allai fod mewn argyfwng emosiynol o’u cwmpas ar y rhwydwaith rheilffyrdd, drwy gychwyn sgwrs fach ac achub bywyd o bosibl. 

 

Gall y weithred fach hon wneud cymaint o wahaniaeth;

efallai mai dim ond siarad â rhywun a thorri ar draws eu meddyliau yw’r cyfan sydd ei angen i’w hannog i estyn allan am gymorth.  
Mae canllawiau ynghylch yr arwyddion i gadw llygad amdanynt a sut i ddechrau sgwrs yma: (How to approach someone on a train platform | Samariaid).

Lledaenwch y gair er mwyn i ni greu byd lle mae llai o bobl yn marw drwy hunanladdiad a lle mae siarad am ein teimladau a’n hiechyd meddwl yn norm.  Peidiwch byth â pheryglu eich bywyd.

Fe allech chi helpu i achub bywyd un diwrnod. Ychydig Eiriau yn Achub Bywydau | Ymgyrchoedd y Samariaid
 

Mae Trafnidiaeth Cymru eisiau i bob teithiwr a phob defnyddiwr trafnidiaeth fod yn ddiogel.  

Os ydych chi’n teimlo’n anniogel ar unrhyw adeg, neu os ydych chi’n sylwi ar rywbeth a allai effeithio ar ddiogelwch, rhowch wybod i ni, os gwelwch yn dda.

Wedi sylwi. Wedi sôn. Wedi setlo.

 

Heddlu Trafnidiaeth Prydain Ffôn: 0800 40 50 40 neu mewn argyfwng 999
Testun: 61016 (mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser)
E-bost: 61016@btp.pnn.police.uk 
 
Network Rail i roi gwybod am argyfyngau fel:
  • Pobl, anifeiliaid neu wrthrychau ar y cledrau neu wrth eu hymyl
  • Difrod neu nam wrth groesfan
  • Mae cerbyd wedi taro pont
  • Ffens wedi torri neu giât ar agor sy’n rhoi mynediad at y cledrau
Ffôn: 03457 11 41 41