Wellington town centre

Mae gan Wellington gyfoeth o atyniadau lleol i ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd ac mae’n hawdd cyrraedd yno. Mae rhywbeth at ddant pawb yn gan Wellington - Gwyliau Cerdded, Ffeiriau Haf, Diwrnod Siarter, Gŵyl Gelf, eiddo sy’n berchen i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gwarchodfeydd natur sy’n cael eu rhedeg gan y gymuned. Mae Wellington hefyd yn gartref i fryn Wrekin, ‘calon ysbrydol’ Swydd Amwythig.

Mae’r Wrekin yn chwarae rhan bwysig yn chwedloniaeth Swydd Amwythig ac mae’n rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Ucheldiroedd Swydd Amwythig, yn ogystal â bod o fewn pellter cerdded i ganol y dref. Dyma lwncdestun traddodiadol i’r holl ymwelwyr, pererinion, preswylwyr a gwesteion anrhydeddus sy’n ymweld â Wellington: ‘Dewch ffrindiau lu i Wrekin.’

 

Crowds gathering in Wellington on a sunny day

 

5 peth i’w weld a’i wneud

1. Y Wrekin

Ar ddiwrnod clir, mae’r golygfeydd o’r bryn hynafol hwn ymysg y rhai mwyaf syfrdanol yn y rhanbarth. Gallwch weld 17 sir o’r copa yn ogystal â Bryniau Malvern a Mynyddoedd Cymru. Mae arwyneb tir y Wrekin ymysg yr hynaf yn y byd - gallwch droedio ar graig folcanig filiynau o flynyddoedd yn hŷn na Mynydd Everest.

Llwythwch fap o’r Wrekin i lawr.

 

2. Sunnycroft

Mae’r eiddo anghyffredin hwn gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnig cyfle i ymgolli yn oes Edwardaidd.

 

3. Gwarchodfa Natur Dothill

Mae’r hafan hon i fywyd gwyllt yn ardal fawr o fannau agored gwyrdd.

 

4. Sinema Orbit

Mae’r Wellington Orbit yn sinema a chanolfan gelfyddydau newydd sbon yng nghanol Wellington sy’n dangos amrywiaeth eang o ffilmiau.

 

5. Marchnad Wellington

Dyfarnwyd Siarter i farchnad y dre yn 1244. Mae’r farchnad, sydd dan ei sang â nwyddau a stondinau bwyd, yn yr ardal fwyd newydd sbon.

 

Employee holding food made at Park Street Kitchen

 

Penwythnos yn Wellington

Mae dringo’r Wrekin yn brofiad gwerth chweil os ydych chi’n ymweld â Wellington. Mae’r golygfeydd o’r bryn hynafol hwn ymysg rhai mwyaf trawiadol y rhanbarth ac mae’n werth dringo i’r brig - mae’r llwybr wedi’i gynnal a’i farcio’n glir.  Ar gopa bryn Wrekin, un o fryniau eiconig Swydd Amwythig, mae bryngaer Oes Haearn 20 erw a arferai fod yn gartref i lwyth y Cornoviii. Mae’r cadarnle hynafol hwn, a adeiladwyd tua 400 CC, yn coroni copa’r Wrekin.

Ar ddiwrnod clir, gallwch weld 17 sir o gopa’r Wrekin, sydd 407m o uchder (1,335 troedfedd), yn ogystal â Bryniau Malvern tua 40 milltir i ffwrdd, ac i’r gorllewin, Mynyddoedd Cymru. Mae arwyneb tir y Wrekin ymysg yr hynaf yn y byd - gallwch droedio ar graig folcanig filiynau o flynyddoedd yn hŷn na Mynydd Everest.

Bydd dringo’r Wrekin yn cymryd tua 2 awr, ac mae dewis o dros 50 o lwybrau cerdded a beicio - sydd i gyd yn dechrau o’r Orsaf Drenau. Mae Wellington yn dref sy’n ‘Croesawu Cerddwyr ac mae mapiau i’w llwytho i lawr i’ch arwain ar eich ffordd.

Mae’n siŵr y byddwch angen hoe fach a thamaid i’w fwyta ar ôl y crwydro, a lle gwych i fynd iddo yw tafarn The Pheasant ar Market Street, gyda’i bragdy ei hun yn yr iard gefn. Mae’r ardal fwyd newydd yn y farchnad hefyd yn lle gwych i flasu bwyd o bob cwr o’r byd. Mae’r farchnad yn aros ar agor yn hwyr gyda cherddoriaeth fyw a chomedi ar gael. Neu, beth am fynd i wylio ffilm glasurol neu ddrama arthouse anarferol sy’n cael ei gynnig yn sinema Orbit, sinema sy’n cael ei rhedeg gan y gymuned.

Ar ddydd Sul, beth am ymweld â Sunnycroft, eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol; neu os byddwch yn ymweld yn ystod penwythnos cyntaf mis Gorffennaf, bydd llwybr Ardd Agored Wellington, gyda 17 o erddi hardd, ar agor i’r cyhoedd.  Mae Sunnycroft wedi’i leoli ar ymyl Wellington ac mae’n fila swbwrbaidd ac yn ystad fach brin. Mae’r eiddo’n gapsiwl amser, sydd wedi ei ddodrefnu â phapur wal gwreiddiol, teils Maw a llefydd tân sydd wedi ennill medal aur. Gyda lôn o goed Wellingtonia o boptu’r  eiddo, mae ymweld â’r ‘cartref gwledig’ hwn yn rhoi y cyfle i chi ymgolli yng nghyfnod cyn y Rhyfel byd Cyntaf. Mae’r ardd 5 erw yn llawn o dai gwydr, ystafelloedd haul, cytiau cŵn a moch a stablau, ac mae’n berffaith ar gyfer crwydro neu gêm o croquet.

Mae cinio dydd Sul yn drît blasus yn The Walnut yn Market Square; cerddwch i lawr Crown Street i weld yr welingtons yn hongian ym mhobman a ffryntiau siopau lliwgar - rhan o’r lonydd hynafol yn ardal gadwraeth y dref.

Os hoffech dreulio prynhawn dydd Sul ym myd natur, mae Gwarchodfa Natur Dothill yn gartref heddychlon i amrywiaeth eang o gynefinoedd a rhywogaethau dros dir gweddol gwastad. Ceir llynnoedd, nentydd, coedwigoedd a dolydd agored. Mae’n ddigon bach i archwilio o fewn ychydig oriau, ond yn ddigon mawr i fod yn enciliad heddychlon o fywyd bob dydd.

 

Gweler gwefan Love Wellington am fwy o wybodaeth yn ystod eich arhosiad.

Ewch i wefan Visit Shropshire i gael rhagor o wybodaeth.

Visit Shropshire logo